|
COFIO MENNA
Mae rhai pobol y gwnewch chi eu cofio am byth. Yn sicr, mi gofia i Menna. Fe fu’r ddau ohonon ni’n cydweithio am rai blynyddoedd. Am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw roeddwn i’n newyddiadurwr a Menna’n gyhoeddwr – ac yn glamp o gyhoeddwr. Roedd ei dyletswyddau’n cynnwys darllen y newyddion ar radio a theledu a chyflwyno rhwng gwahanol raglenni. Roedd ei llais yn gyfarwydd iawn i bobol oedd yn gwylio rhaglenni teledu a radio BBC Cymru. Roedd hi yr un mor gyfforddus yn cyflwyno’n Saesneg ag yn y Gymraeg. Bu’n cyflwyno’r bwletinau ar y rhaglen deledu nos weithiol ‘Heddiw’ hefyd. Roedd llawer o bobol yn adnabod ei hwyneb. Wedi’r cwbwl, roedd Menna wedi bod yn un o’r actorion ar Bobol y Cwm yn ystod y dyddiau cynnar. Ond eto, oherwydd ei phroffesiynoldeb, roedd pawb yn ei chymryd o ddifri - darllenydd newyddion oedd hi – nid rhywun yn actio darllen y newyddion. Ond yn ôl at Radio Cymru. Roedd ganddi hi’r ddawn o wneud i fwletin cymhleth swnio’n naturiol iawn. Mae hynny’n grefft. Hyd yn oed ar fyr rybudd, roedd Menna wastad yn darllen y bwletinau yn ei llais melfedaidd fel petai wedi eu hymarfer am oesoedd. A’r gair ‘melfedaidd’ sy’n dod i’r cof wrth feddwl am lais Menna. Roedd ei llais a’i lleferydd mor dda – mor broffesiynol – mor glir. Un o’r goreuon erioed. Roedd hi mor greulon fod y salwch wedi gafael a dinistrio’r union bethau hynny. Yn union fel y gafaelodd y crydcymalau yn ei dwylo yn |
|
gynharach yn ei bywyd – a hithau’n ffidlwr addawol iawn yn ystod ei phlentyndod. Roedd Menna yn cymryd ei gwaith o ddifri. Doedd hi ddim yn fodlon derbyn safonau gwael. Dyna un arall o’i chryfderau. Cafodd Menna ei phenodi’n Uwch Gyhoeddwr Radio Cymru. Roedd hynny’n golygu arwain timau o ddarlledwyr. Mae arwain yn golygu hyfforddi pobol – roedd Menna yn enghraifft wych o rywun oedd yn gallu helpu pobol i ddatblygu. Yn ogystal â hyn, bu’n cyflwyno rhaglenni fel ‘Gwynfyd’ a ‘Menna a’r Clasuron’. Fe gynhyrchodd hi raglenni fel ‘Beti a’i Phobol’ hefyd. Roedd disgrifiad Frank Linoln ohoni yn ystod ei deyrnged ar y Post Prynhawn fel ‘all-rounder’ yn wych. Ac eto, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio aeth Menna a’i theulu drwy’r uffern o golli wyres fach. Enillodd ei gŵr, Aled, y goron am ei bryddest i Gwennan a dwi’n cofio gweld y balchder yn llygaid Menna y diwrnod hwnnw. Fel gŵr a gwraig roedd Menna ac Aled yn ffrindiau gorau ac fe ofalodd y ddau am ei gilydd ac am y teulu yn ystod y cyfnod anodd lle bu Gwennan mor sâl. Yn yr un modd, gofalodd Aled am Menna yn dyner iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i’w hiechyd waethygu. Ond roedd ysbryd a hiwmor y ddau yn dal i fod yn iach. A dyna beth ydi cryfder. Mae Menna wedi mynd. Ond mi fydd hi yno am byth – nid yn unig i’w theulu y bu’n gofalu amdanyn nhw dros y blynyddoedd – ond i’r gweddill ohonon ni a gafodd y fraint o’i hadnabod. Mae rhai pobol y gwnewch chi eu cofio am byth. Yn sicr, mi gofia i am Menna. Aled Glynne Davies |
|
TEYRNGEDAU I MENNA GWYN
Trist oedd clywed am farwolaeth Menna Gwyn yn ddiweddar. Arwahan i fod yn ddarlledwraig adnabyddus roedd Menna yn gefnogol iawn i'r Dinesydd. Bu'n swyddog hysbysebion i'r papur am flynyddoedd nes i'r salwch ei gorfodi i roi'r gorau i'r gwaith. Mae'r Dinesydd yn ddiolchgar i ddau gyfaill a chydweithwyr i Menna, Aled Glynne Davies, Pennaeth Radio Cymru a Wyndham Richards am eu geiriau caredig.
“Weithiau bydd y fflam yn llosgu’n isel yn y lamp. Weithiau bydd fy nghalon innau’n drom,” meddai Dafydd Iwan yn ei gan, a dyna’r union deimlad rw’i yn ei gael wedi clywed y newyddion trist am Menna. Menna fydde bob amser yna pan oedd angen, pan oedd problem yn y gwaith yn y BBC. Mi fues i yn ffodus iawn pan ddechreuais i yn yr adran gyhoeddi i gael dilyn Menna o ddydd i ddydd yn ystod yr wythnosau cyntaf hynny a’i chael hi yn dutor medrus, hynaws a gofalus, - nid yn unig un oedd yn dangos i chi beth i wneud, ond un a fedrai wneud y gwaith ei hun gyda graen. Mi roedd hi wedi ei breintio â llais hyfryd, soniarus fel cloch, - un o’r lleisiau radio gorau fu gyda ni yng Nghymru, - offeryn oedd yn llawn mynegiant boed yn drwm neu yn ysgafn; yn taro’r trywydd iawn , ar ystyr cywir mewn bwletin, sylwebaeth neu gyflwyniad, - rhoi’r sylw yn y lle priodol heb dynnu sylw ato’i hun. Byddai ei theimlad tuag at yr iaith yn ei galluogi i symud trwy’r sgript fwyaf clogyrnaidd fel carreg lefn yn hopian dros y dwr llonydd. Roedd ganddi awdurdod a chynhesrwydd fel bo’r angen. Ac nid hyfforddwraig yn unig oedd Menna yn adran gyhoeddi Radio Cymru, roedd hi’n gefn yn ogystal. Os y byddai ‘na wamalu, llurgunio, pethau ddim yn iawn, - ac mi fyddai hynny yn digwydd o dro i dro, mi wyddem er gwaethaf popeth mai ar ein hochor ni y byddai Menna, er cofiwch chi, mi fyddem ni yn cael blas ei thafod hi serch hynny yn y dirgel, - yn amal y byddwn i yn tynnu ei choes ac yn ei chyfarch fel y Pontarddulais terror, - chwerthin wnai hi. Ond yn y bon hi oedd yn iawn a’n lle ni oedd bod yn ddiolchgar am hynny; ac mae nifer fawr ohono’ ni ddarlledwyr y Radio Cymru gynnar honno yn ddyledus tu hwnt iddi hi. Ond yn bennaf falle, fel cyfaill y bydda’i yn ei chofio ac am y cadernid di-ildio hwnnw a feddai ar adegau anodd cyn ei salwch enbyd, ac yn ystod artaith y ddwy flynedd ddiwethaf. Parhau yr un ferch hwyliog ddeallus, ysbrydoledig a wnai Menna, a chwith mawr oedd ei gweld, â’r llais, yr un nodwedd nodedig a’i priodoleddai wedi mynd yn fud, - y fath greulondeb. Mae meddwl amdani a chofio am ei chyfraniad mawr yn ysbrydoliaeth gobeithio i barhad Radio Cymru a rhown ddiolch am gael pobol fel Menna i’n llywio, i’n tywys a’n diddori ar yr awyr yn ystod dyddiau cynnar yr orsaf.
|
|
Fe luniodd y prifardd Aled Gwyn englyn i fi ar gyfer penblwydd go arbennig, - mae’r cynnwys yr un mor wir, os nad yn fwy gwir am ei wraig.
Wyt angor y Gorfforaeth - wyt yn llais, Wyt yn llyw’n cenhedlaeth; Wyt ar drum ac wyt ar draeth, Wyt y byd, wyt wybodaeth.
……..gwaetha’r modd mae’r wyt wedi mynd yn ‘oet erbyn hyn. Bendith ar Aled a’r teulu bach ar awr mor dywyll yn ei hanes. Wyndham Richards. |
|
Cydymdeimlwn a Mair Phillips a’r teulu, ar farwolaeth ei gwr Emyr Phillips yn Ysbyty’r Brifysgol ar 4 Ebrill. Brodor o Walchmai, Sir Fôn oedd Emyr a bu’n gweithio i fanc yr HSBC mewn nifer o ardaloedd o Gymru cyn cael ei benodi yn Reolwr Rhanbarthol ac ymgartrefu yn ardal Parc Y Rhath. Roedd yn aelod cyson o dîm Y Dwrlyn ar Talwrn y Beirdd.
Cydymdeimlwn a theulu’r diweddar Llinos Jones a fu farw’n dawel yn ei chartref ym Mhentre Poeth, Caerdydd ar 2 Ebrill. Bu’r angladd yn Amlosgfa Aberystwyth.
Cydymdeimlwn a theulu’r diweddar Elizabeth Mary Jones a fu farw yn ei chartref yn Llandaf ar 4 Ebrill. |
