Text Box: Ebrill 2006
Text Box: Papur Bro Dinas Caerdydd a’r Cylch
Text Box: Rhif 307

www.dinesydd.com

TŶ’R CYMRY

yn 70 OED

 

Bu dathlu pen-blwydd Tŷ'r Cymry yn 70 oed dros Ŵyl Dewi.   Mae pwysigrwydd Tŷ'r Cymry yn hanes Cymry Cymraeg Caerdydd yn enfawr ac fe ddaeth hyn allan yn glir iawn yn sgyrsiau'r naw person a amlinellodd hanes y Tŷ hyd at yma.   Robat ap Tomos, Llywydd Tŷ’r Cymry, a lywyddodd y noson a chyflwynwyd y siaradwyr gan Iorwerth Morgan, Ysgrifennydd y Tŷ.

   Rhodd i Gymry Cymraeg Caerdydd oedd Tŷ'r Cymry gan Lewis Williams o'r Barri ym 1936. Ei fwriad oedd darparu cyfle i Gymry Cymraeg ymgynnull, i fudiadau Cymreig gyfarfod i hyrwyddo'r Gymraeg a’i diwylliant ac i weithio tuag at “statws dominiwn Cymraeg” i Gymru.   Fe wireddwyd ei freuddwyd.

  Yn Nhŷ’r Cymry y gwelwyd y cynnig cyntaf i sefydlu ysgol Gymraeg ei chyfrwng yn yr ardaloedd Seisnigedig.   Ym 1937-38 ‘roedd Gwyn M Daniel ac eraill o griw Tŷ’r Cymry ar fin sefydlu’r ysgol yn y Tŷ.   Ond ni sefydlwyd hi ar y pryd oherwydd bod y rhyfel yn nesáu ac i Arglwydd Faer Caerdydd fynnu mai cyfrifoldeb pwyllgor addysg y ddinas oedd sefydlu pob ysgol.

Parhad ar dudalen 3

Côr Aelwyd Hamdden a Chor Unedig Ysgolion Gyfun yr ardal  yn y cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant ar 26 Mawrth. Hefyd cymerwyd rhan gan Gôrdydd, Côr Merched Canna, Côr Caerdydd, Côr CF1, a Pharti’r Wenallt.

   Yr unadwyr oedd  Alice Reed, Mali Llewelyn, Marged Jones a Lowri Walton. Roedd y cyngerdd er budd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.

Ymateb - hwnna ydy o. Golygydd y mis diwethaf yn codi nifer o bwyntiau a'r cyfryngau'n ymateb. Wedyn - y Dinesydd yn ymateb i'r cyfryngau.

   Golygydd y mis diwethaf yn datgan fod 32,000 o Gymry Cymraeg Caerdydd "yn methu cynnal papur bro Cymraeg bob mis - ac nid yn ariannol yn unig.  Mae cael pobl i gyfrannu fel cael gwaed o garreg, ac oni bai am glecs y capeli a'r ysgolion, fe fyddai'n dlawd iawn ar y papur."

   Y BBC ym Mangor yn ymateb drwy gynnal rhaglen Taro'r Post brynhawn Llun diwethaf lle bu'r cyflwynydd Rhys Owen yn holi Dr E Wyn James, Cadeirydd Pwyllgor y Dinesydd am ei farn ar y sefyllfa.  Wedyn ymatebodd Leah Jones, ysgrifenyddes Côr CF1, merch sydd wedi ei geni a'i magu yn y ddinas.   Rhaglen ddiddorol ac fe ddaeth llawer pwynt i'r amlwg fel - y Dinesydd yn llawn newyddion am yr ysgolion a'r capeli a ddim yn apelio at bobl ifanc  -  dwy garfan o Gymry yng Nghaerdydd, bobl barhaol a phobl dros dro  -  y bobl barhaol sy'n tueddi i gyfrannu at y Dinesydd  -  pobl ifanc ddim yn gwybod am y Dinesydd  -  copïau o'r Dinesydd ddim ar gael yn hawdd i'r bobl ifanc

   Y realiti yw  -  mae nifer fawr o Gymry Caerdydd yn gefnogol iawn i'r papur fel y mae eu haelioni'n cyfrannu bron i £5,000 mewn dau fis yn dangos. Pan mae'r papur mewn trafferthion ariannol mae'r gefnogaeth ariannol yna  - am nad oes gohebyddion penodedig i hel straeon

mae'r papur yn dibynnu yn helaeth iawn ar y storïau a ddaw i law.   'Dydy Calendr y Dinesydd ddim yn rhestr ddigon llawn o weithgareddau Cymraeg y ddinas ag o'r tua 20 corff, sefydliad neu gymdeithas sy'n hysbysebu drwyddo ddim ond tua 4 sy'n adrodd yn ôl ar y gweithgaredd.

   Beth allwn ni fel cefnogwyr a darllenwyr y Dinesydd ei wneud ?

   Mae Cymry Caerdydd wedi dangos eu cefnogaeth drwy ymateb mor anhygoel i'r apêl ariannol. Mae'n rhaid i Bwyllgor y Dinesydd nawr ystyried y dyfodol yn ddwys iawn a dangos eu bod yn haeddu'r fath gefnogaeth.

   I wneud papur diddorol mae'n rhaid cael erthyglau diddorol fel - pytiau bach o newyddion am y gweithgareddau Cymraeg. Dim ond paragraff sydd ei angen  -  erthyglau byr am Gaerdydd - ei gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol - mae 200 o eiriau'n llawn ddigon  -  llythyrau byr tua 40 gair sy'n cwyno, lleisio barn, gweld bai neu'n canmol rhywbeth yng Nghaerdydd - rhywbeth fydd yn ennyn ymateb yn y rhifyn canlynol  -  hanes chwaraeon - oes yna agwedd Cymraeg neu Gymreig ar hynt a helynt Clybiau mawr a bach Chwaraeon y Ddinas - mewn 60 gair ?  -  erthyglau byr ar Gymry Cymraeg nodedig yn hanes Caerdydd - tua 100 gair.

   Dewch Gymry Caerdydd - eich papur chi ydi o. Ar ôl rhoi eich llaw mor hael yn eich poced, rhowch eich pin ysgrifennu ar bapur hefyd.

CYCHWYN APÊL YR EISTEDDFOD

YMATEB - HWNNA YDI O