|
Cyhoeddir Y Dinesydd gan Bwyllgor Y Dinesydd. Fe’i cysodir gan gweHendre a’i argraffu gan Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd. |




|
Lloyd a Rhys Ifans. Ymysg yr enwogion yn y gyfres hon mae dwy â chysylltiad ag ardal Y Dinesydd. Mae'r delynores Catrin Finch, sydd bellach yn byw yng Ngwaelod y Garth, yn adnabyddus dros y byd ond wyddoch chi fod ganddi fag llaw siâp tebot? Ganwyd yr athletwraig Tanni Grey-Thompson yng Nghaerdydd a chewch ei hanes yn cwrdd â'r frenhines yn gwisgo rhywbeth anarferol iawn! Yn cadw cwmni iddynt mae'r newyddiadurwr Huw Edwards, y canwr poblogaidd o Fôn, Aled Jones a'r darlledwr a'r eisteddfodwr pybyr Ray Gravell. Mae pob llyfr yn llawn o wybodaeth a lluniau fydd yn cadw diddordeb y darllenydd. Mae'r iaith yn glir a syml gyda dewis o destunau i ennyn diddordeb bechgyn a merched ac i'w hysgogi i wella eu sgiliau darllen. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gwasg APCC, Heol Cyncoed, Caerdydd CF23 6DX. Ffôn: 02920416515 |
|
Cymry Enwog (parhad o dudalen 1) |
|
Union ganrif wedi diwygiad rhyfeddol Evan Roberts a ysgubodd Gymru yn 1904-05 cyhoeddir arolwg newydd o sefyllfa capeli anghydffurfiol yng Nghymru heddiw. Yn y llyfr Capeli Cymru a gyhoeddir gan Y Lolfa dangosir sefyllfa bresennol aelodaeth rhai o gapeli mwyaf arwyddocaol Cymru. Er bod dirywiad amlwg, a phryder am ddyfodol nifer o fawr o gapeli Cymru, mae’r awdur yn gweld arwyddion cadarnhaol a llwyddiant rhai ardaloedd i ffynnu ac addasu yn wyneb y lleihad yn yr aelodaeth: “Mae’r capeli yn rhan eithriadol bwysig o’n treftadaeth sy’n cael ei ddiystyru gan y wasg yn aml iawn fel ystrydeb sy’n rhan o’r gorffennol, ond mae yna frwdfrydedd arbennig mewn llawer iawn o’n capeli a llwyddiant i addasu i’r oes fodern.” Dengys y gyfrol sut yr unwyd capeli mewn sawl man i ddatblygu canolfannau bywiog a gweithgar. Mae Capel y Porth, Porthmadog yn enghraifft o gapel |
|
newydd sbon a sefydlwyd wedi uno capeli Tabernacl a’r Garth – ac mae yno dros 300 o aelodau. Gwelir yng Nghaerdydd ffyniant rhyfeddol i sawl capel, yn cynnwys capel Salem yn Nhreganna sy’n llwyddo i gynyddu aelodaeth o flwyddyn, ac sydd yn ôl y gweinidog yn “gryfach heddiw nac erioed”. Yn y gyfrol Capeli Cymru rhoddir sylw i 111 o gapeli Cymraeg, yn cynnwys nifer o’r rhai enwocaf fel capel Evan Roberts ym Mlaenannerch, capel Soar y Mynydd a chapel Gwynfil, Llangeitho. Ceir braslun o hanes pob capel, y gweinidogion a manylion am yr aelodaeth bresennol gan gofnodi sut oedd sefyllfa’r capeli ar 1 Ionawr 2004. Daw Huw Owen o Cross Hands ond mae bellach yn byw yn Aberystwyth. Bu’n geidwad Darluniau Mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond mae bellach wedi ymddeol ac yn weithgar gyda’r gymdeithas Capel. Capeli Cymru £14.95 Cyhoeddir gan Y Lolfa |
|
Y Titanic
Annwyl Gyfaill Yr wyf â diddordeb yn y rhai oedd yn teithio ar y Titanic ar ei mordaith angheuol gyntaf yn 1912. Tybed oes rhywun o ddalgylch y papur bro a gwybodaeth am: James George Reed Cigydd o Benarth yn gwneud ei ffordd i’r Unol Daleithiau ar docyn Trydydd Dosbarth rhif 362316, cost £7 5s. Bu foddi ac ni ddarganfuwyd ei gorff. Annie Louise Rowley Meek Un o Benarth. Tocyn Trydydd dosbarth oedd ganddi – Rhif 343095 Cost £8 1s. Bu foddi ac ni ddarganfuwyd ei chorff. Robert J. Davies Un o Gaerdydd, chwech ar hugain oed, ond yn byw yn 12 The Polygon, Southampton. Arwyddodd fel aelod o’r criw – stiward – ym Melfast ar Dydd Llun, Ebrill 1, 1912. Bu foddi a chodwyd ei gorff – Rhif 191 – gan y ‘Mackay Bennett’. Buaswn yn falch o dderbyn unrhyw wybodaeth neu gyfeiriad atynt. Gyda diolch J. Richard Williams gwernyfed@tesco.net Gwernyfed, 23 Dôl Werdd Llangefni. Ynys Môn. LL77 7NU |
|
Ganrif Wedi’r Diwygiad: Arolwg Newydd o Gapeli Cymru |