Text Box: 3
Text Box: Y DINESYDD   RHAGFYR 2005

Ar ddechrau 2005 cafodd Ysgol y Wern wahoddiad i fod yn rhan o brosiect cyffrous iawn gyda Theatr y Glôb yn Llundain.

 

Enw’r prosiect oedd ‘There’s Magic in the Web’, ac roedd y gwaith yn seiliedig ar ddrama Othello. Cafodd un o’r staff gyfle i fynd i Lundain i dderbyn hyfforddiant ac fe ddaeth criw o’r actorion i’r ysgol i berfformio’r ddrama i Flwyddyn 6. Yn dilyn hyn gofynnwyd i’r plant ddylunio dwy hances, un yn cynnwys patrymau Islamaidd ac un arall yn cynnwys patrymau o’n traddodiad lleol a delweddau’n cynrychioli heddwch.

 

Roedd ysgolion o dros Brydain a thramor yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys chwe ysgol o Gaerdydd. Gofynnwyd i bob ysgol ddanfon 5 dyluniad i Lundain lle dewiswyd 2 o bob dinas i gael eu brodweithio a’u harddangos yn ystod mis Tachwedd yn y Glôb. Derbyniodd y Glôb 300 o ddyluniadau o Brydain yn unig a chawsom newyddion da yn ddiweddar fod dyluniad o waith un o ddisgyblion Ysgol y Wern sef Emily Bowen wedi ei ddewis fel un o’r enillwyr. Da iawn ti Emily. Mae ei gwaith hi nawr yn cael ei arddangos yn y Glôb.

 

Yn dilyn cais gan Mrs Julie Morgan AS gofynnwyd i ysgolion Gogledd Caerdydd ddylunio carden Nadolig ar gyfer Mrs Morgan. Dewisodd Mrs Morgan garden a ddyluniodd Catrin Davies Blwyddyn 6. Bydd y garden nawr yn cael ei hargraffu ac yn cael ei danfon gan Mrs Morgan at y cannoedd sydd ar ei rhestr cardiau Nadolig.

 

Derbyniodd Elen Roberts (disgybl Blwyddyn 4) newyddion ardderchog yn ddiweddar. Cafodd ei dewis i chwarae’r bas dwbl i’r Gerddorfa Blant Prydeinig. Cerddorfa yw hon ar gyfer plant rhwng 7 ac 11 mlwydd oed. Mae 2006 yn mynd i fod yn brysur iawn i Elen. Cynhelir cwrs i’r aelodau yn Swydd Efrog ym mis Gorffennaf ac o fis Ionawr ymlaen mi fydd plant o Gymru a De Lloegr yn cwrdd unwaith y mis yn Western Super Mare. Tipyn o gamp! Da iawn ti Elen.

Côr Meibion Taf

 

Cafodd pawb a ddaeth i gyngerdd cyntaf Côr Meibion Taf yng Nghapel y Tabernacl yr Ais ar 25 Tachwedd noson i’w chofio.

   Ffurfiwyd y côr eleni gan Robert Nichols yr organydd, cyfeilydd a’r cerddor dawnus. Roedd tua 40 o leisiau yn y côr a swynwyd y gynulleidfa gan y môr o ganu cynhyrfus.

   Cyflwynwyd yr eitemau gan Hywel Gwynfryn gyda Janice Ball wrth yr organ a Marged Jones a Lowri Evans yn cyfeilio wrth y piano. Cafwyd canu gwefreiddiol gan yr unawdydd, Iona Jones, Llandaf. Methodd yr unawdydd arall, sef Aled Hall, a chyrraedd oherwydd yr eira.

  Mae’r côr yn chwilio am fwy o gantorion. Mae croeso cynnes i chi yn yr ymarferion bob nos Sul am 7.30 yn festri Tabernacl yr Ais.

Merched y Wawr Cangen Bro Radur

 

Tachwedd 2il. Braf gweld cymaint wedi dod ynghyd i wrando ar gynrychiolydd y De yn rhoi sgwrs i ni ar Gwmni Sain. Croesawyd pawb gan gynnwys aelodau newydd yn ogystal â gwahoddedigion o ganghennau eraill sef Caerdydd, a’r Barri gan lywydd cangen Radur, Rhiannon A . Evans.

   Cydymdeimlwyd â Brenda Jones a gollodd chwaer ac Eleanor Jones a gollodd mam. Trafodwyd swyddi cenedlaethol sydd eu hangen ar gyfer Medi 2006.

   Wedi cwblhau’r busnes cyflwynwyd Mrs Lilian Bevan o Dre Ioan Caerfyrddin i ni a daeth gyda digonedd o gynyrchiadau amrywiol gan Sain gan roi cyfle i ni eu prynu. Rhoddodd Lilian ddarlun da iawn o’r ffordd y mae’r Cwmni a sefydlwyd yn nhŷ Pencader, Caerdydd gan Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan Edwards wedi tyfu.

   Erbyn heddiw mae’r cwmni yn cyflogi 35 o bobl ac mae ganddynt stiwdio recordio 56 sianel a siopau yn Llandudno a Chaernarfon. Mae Uned i’w chael ym Mhenygroes ac y mae’r fasnach yn ymestyn i Ewrop ac America. Diddorol nodi mai Aled Ifan, sef mab un o’n haelodau yn Radur, Y Parch Catrin Roberts, yw rheolwr uned o Gwmni Sain, ‘Rasal’ sydd yn arbenigo

Cwis Cenedlaethol Merched y Wawr

 

Bu erioed y fath gystadlu yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Neuadd y Gymuned, Park Road, Radur ar nos Wener, Tachwedd 11eg. Daeth cynrychiolwyr o’r un ar ddeg cangen sydd yn Rhanbarth De ddwyrain Morgannwg i lenwi 16 o fyrddau ar gyfer y Cwis blynyddol. Yn y Cwis rhanbarthol daeth Bro Radur (2) yn gyntaf gyda 501/2 o farciau a changen Y Garth yn gydradd ail gyda changen Pen-y-bont efo 491/2 o farciau.

   Am 10:15 y noson honno cyhoeddwyd mai Pencader a Gorseinon oedd yr enillwyr terfynol gyda Llanuwchllyn yn ail ac yn drydydd roedd Cangen Bro Radur (2). Llongyfarchiadau calonnog iddynt a diolch i Mrs Brenda Jones, Radur, am drefnu popeth mor fanwl, a  hynny yn cynnwys y bwffe a gawsom ar y diwedd.

Tîm Radur (2) yn y Cwis Cenedlaethol o’r chwith: Rhiannon Evans, Eirlys T J Davies, Eleanor Jones a Maurin Hurley

Swyddogion gweithgar y Rhanbarth o’r chwith: Catherine Thomas, Gillian Griffiths, Brenda Jones a Sally Hughes (Llywydd).

ar gyfer yr ifanc. Diolchwyd yn gynnes am noson dda a hwyliog ac i Eleri Jones am drefnu paned ar y diwedd.