Text Box: Rhagfyr 2005
Text Box: Papur Bro Dinas Caerdydd a’r Cylch
Text Box: Rhif 304

www.dinesydd.com

Text Box: Dathlu 
50 a 100 mlwyddiant
y Brif-ddinas

Rhoddwyd statws dinas i Gaerdydd ar 28 Hydref 1905. 
   Ar 20 Rhagfyr 1955 cyhoeddwyd mai Caerdydd yw prif-ddinas Cymru.

Pwy ddododd gwm cnoi o dan nodau'r piano a phwy oedd yn arfer glanhau carafannau er mwyn cael arian i fynd i'r coleg?

   Cewch yr atebion yn y gyfres ddiweddaraf o lyfrau am 'Gymry Enwog'. Set o bum llyfr lliw-llawn yw 'Cymry Enwog' sy'n olrhain hanes pump o Gymry adnabyddus mewn amryw o feysydd gwahanol - cerddoriaeth, chwaraeon a byd y teledu. Dyma'r ail gyfres o adnoddau addysgol ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 a 4 sy'n cael rhywfaint o anhawster gyda darllen. Mae'r gyfres yn addas hefyd ar gyfer darllenwyr brwd yng Nghyfnod Allweddol 2.

   Roedd y gyfres gyntaf yn dilyn bywydau a gyrfaoedd Jonathan Davies, John Hartson, Cerys Matthews, Siân

MWY O GYMRY ENWOG...

Parhad ar dudalen 2 >>

Nadolig Llawen

a Blwyddyn Newydd Dda

 oddi wrth

Y Dinesydd

Ar ôl i warws “Aardman Animations” ym Mryste losgi i’r llawr, penderfynwyd cael cystadleuaeth ar raglen deledu “Richard & Judy” yn gwahodd gwylwyr i ddanfon eu modelau gwreiddiol i mewn i’r rhaglen i weld pwy allai greu y “Wallace & Gromit” nesaf. Y wobr i’r ennillydd fyddai £1,000.

   Cafodd Emyr Jones, Ysgol Glantaf, ei annog gan ffrind ysgol i roi cynnig arni. Roedd Emyr wedi ennill yn y gystadleuaeth Gwaith Creadigol 3D blwyddyn 7 & 8 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Dyfrig y Ddraig oedd cynnig Emyr.

   Dewisodd y beirniad, Merlin Chessingham, un o brif animeiddwyr “Aardman Animations”, y tri model gorau allan o filoedd o fodelau a dderbyniwyd. Roedd Dyfrig yn un ohonynt! Pleidlais gwylwyr y rhaglen a fyddai’n penderfynu pa un o’r tri a ddeuai i’r brig.

   Derbyniwyd miloedd o bleidleisiau gan gefnogwyr y tri ymgeisydd a Dyfrig y Ddraig a ddaeth yn fuddugol wedi ennill ychydig dros gant yn fwy o bleidleisiau na’r ddau arall ar y rhestr fer. Carai Emyr ddiolch yn fawr iawn i bob un o’r cefnogwyr a bleidleisiodd.

Dyfrig y Ddraig ar y brig

Emyr Jones

Gwaith Creadigol Emyr 

yn Eisteddfod yr Urdd

Atgofion am y Ddinas

 

Fel rhan o brosiect Cymraeg Morgannwg a noddir gan Cronfa Treftadaeth y Loteri mae Eleri Griffiths o Fentrau Morgannwg Gwent wedi bod yn holi rhai o aelodau Aelwyd Hamdden Caerdydd am eu hatgofion am y ddinas a’r defnydd o’r Gymraeg.

    Mae rhai yn cofio Tŷ’r Cymry yn fwrlwm o Gymry ifanc, eraill yn cofio’r Aelwyd yn ei anterth, llawer yn sôn am y brwydro i ddatblygu addysg Gymraeg ac yn falch i glywed Cymraeg yn ôl ar y stryd yn ein prifddinas.

   Bydd arddangosfa o’r prosiect i’w weld yn Eisteddfod Abertawe 2006 a bydd cyfle i glywed mwy mewn arddangosfa leol.

Dyma un o'r Cymry Enwog,
y delynores adnabyddus Catrin Finch yn mwynhau'r llyfr yng nghwmni darllenwr brwd arall.