Text Box: 3

Yw Bywyd Yn Dda Yn Y Ddinas?

 

Dinas Caerdydd fydd canolbwynt drama deledu newydd fydd i’w gweld ar S4C ddechrau’r flwyddyn newydd.

   Dros saith pennod bydd Caerdydd yn darlunio bywydau grŵp o ffrindiau, pobl broffesiynol yn eu hugeiniau a’u tridegau, sy’n byw ac yn gweithio yn y Gaerdydd gyfoes ddwyieithog.

   Wedi ei ffilmio’n gyfan gwbl ar leoliad yng Nghaerdydd, mae nifer o actorion o’r brifddinas yn ymddangos yn y gyfres yn ogystal â phobl-ddwad. Un o’r actorion brodorol yw Mali Harries, sy’n wreiddiol o Landaf.

  “Dwi wedi mwynhau’r profiad o actio yn Caerdydd yn fawr,” medd Mali, “yn bennaf gan fy mod i wedi gallu treulio amser mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd, rhywbeth nad yw’n bosib yn aml iawn”

   Cred Comisiynydd Drama S4C, Angharad Jones, sydd hefyd yn hannu o Gaerdydd, fod y gyfres yn adlewyrchiad teg o fywyd y ddinas.

   “Mae Caerdydd yn ddrama newydd am siaradwyr Cymraeg modern, dinesig sy’n byw mewn awyrgylch dwyieithog,” meddai.

   “Bydd y cymeriadau yn sicr o atgoffa rhai o’r gwylwyr o ffrindiau neu berthnasau ond mae un cymeriad sy’n sefyll allan sef dinas Caerdydd ei hun. Fe ffilmiwyd y gyfres mewn nifer o leoliadau ledled y ddinas ac mae Caerdydd yn edrych ar ei gorau, yn gefndir cyfoes i’r gyfres ddrama newydd hon.”

   Fe ddangosir y bennod gyntaf o Caerdydd yn ystod Gŵyl Sgrin Caerdydd, sef,

cardiffscreenfestival.co.uk.

 

Mae Menter y Fro, sef y fenter iaith ar gyfer Bro Morgannwg, wedi ethol cadeirydd newydd. Yn olynu Janet Davies, sydd wedi cadeirio'r fenter ers ei sefydlu ym 2002, y mae Tim Pearce a oedd hyd yma yn is-gadeirydd.  Bydd Janet o hyn allan yn cyflawni swydd y trysorydd.

   Mae Tim, a ddechreuodd ddysgu'r iaith Gymraeg yn oedolyn, yn ymwneud

â'r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg ac yn rhedeg ei fusnes ei hunan yn y Fro.

   Meddai Tim: “Mae cymaint â 11,000 o siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg yn byw yn y Fro.  Mae sefydliadau a mudiadau yn weithredol yn y Gymraeg ar draws y sir, a dim ond llenwi bylchau yma ac acw rydyn ni - a, gobeithio, tanio'r dychymyg ynglyn â'r hyn sydd yn bosibl. Yn anad dim, rydw i'n gobeithio

bod y Fenter yn gallu dod â siaradwyr Cymraeg y Fro at ei gilydd gan eu cefnogi nhw yn eu hymdrechion i ddefnyddio'r iaith."

   Am fwy o fanylion ynglyn â Menter y Fro, cysyllter â Nerys Rhys, Swyddog Datblygu, ar 01446 720 600, e-bost: swyddfa@menteryfro.com.

Text Box: Y DINESYDD   TACHWEDD 2005

Cyngerdd Cyntaf

CÔR MEIBION TAF

Côr meibion Cymraeg

newydd Caerdydd

 

gyda Iona Jones,

Aled Hall

a Hywel Gwynfryn

 

Capel Y Tabernacl,

Yr Aîs, Caerdydd.

Nos Wener Tachwedd 25

am 7.30 y.h.

 

Tocynnau i’w cael gan aelodau’r Côr ac wrth y drws ar y noson.

Dr Who, yn y Ganolfan Ddinesig i gynnau’r goleuadau Nadolig. Bydd yr adloniant yn dechrau am 5.45pm a bydd y seremoni goleuo yn dechrau am 6.30. Dewch yn gynnar er mwyn sicrhau’ch lle!

   Mae’r sesiynau sglefrio’n costio £7 i oedolion a £5 i blant (12 ac iau). Gall grwpiau ysgol sglefrio am £2.50 y pen (gyda’r athrawon yn sglefrio am ddim!) yn ystod y tymor; a gall grwpiau o 20 a mwy manteisio ar bris arbennig of £6 y pen i oedolion a £4 i blant rhwng 09.40-10.40am a 11.00-12.00 ar y penwythnosau.

   Am ragor o wybodaeth ewch i www.cardiffswinterwonderland.com neu ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd ar (029) 2087 2088. Mae tocynnau i sglefrio ar werth o Ticketline ar (029) 20 230 130.

Menter

y Fro

Pwy fydd yng Ngŵyl y Gaeaf?

O nos Iau Tachwedd 17eg ymlaen bydd y llawr sglefrio boblogaidd sy’n rhan o Ŵyl Gaeaf Caerdydd yn nôl o flaen Neuadd y Ddinas. Bydd y llawr ar agor tan Ionawr y 4ydd 2006.

   Ar yr un noson bydd David Tennant a Billie Piper, sêr y rhaglen deledu