
|
Ar y 5ed o Awst, aeth criw o ddisgyblion Ysgol Plasmawr, Ysgol Bro Morgannwg ac Ysgol Glantaf ar daith am wythnos i Sbaen a Barcelona. Wedi’r daith hir a blinedig, roedd pawb yn hynod falch o gyrraedd Clwb Air Libre yng nghyrchfan Tossa de Mar. Dechreuom am Port Aventura ar ein diwrnod cyntaf, sef parc antur yn cynnwys miloedd o atyniadau amrywiol. James oedd yn gyfrifol am ddechrau cystadleuaeth gyffrous o bwy oedd yn gallu mynd ar Rollercoaster fwya’r byd y nifer fwyaf o weithiau! Roedd cyfle i rai ymlacio ddydd Llun wrth y traeth neu’r pwll yng ngwres crasboeth yr haul. Sylweddolodd y criw a aeth i ganŵio ar y môr ei fod yn anoddach nag yr oeddynt wedi tybio. Gyda’r nos cafwyd cyfle i fynd i siopa yn Tossa de Mar, a disgo i bawb yn y gwersyll yn dilyn hyn! Trip i Farcelona oedd ar y dydd Mawrth. Aethom i ymweld ag Eglwys Gadeiriol y brifddinas Sagrada Familia - yno cawsom gyfle i dynnu lluniau diddorol. Aethom ymlaen i Parc Guell/Guitadella yn dilyn hyn am damed o ginio. Wedyn fe aethom i’r Nou Camp, profiad hollol syfrdanol. Cafodd y plant i gyd gyfle i fynd i siopa, uchafbwynt y diwrnod i lawer o ystyried yr holl fagiau siopa! Cyn mynd yn ôl i’r gwersyll cawsom gyfle i ymweld â’r Stadiwm Olympaidd a thynnu lluniau o’r ddinas. Dydd Mercher aeth mwyafrif y plant i Water World lle’r oedd digon o weithgareddau i blesio pawb! Yn anffodus nid oedd y tywydd yn rhy dda, yn lwcus, ond yn ffodus doedd hyn ddim wedi amharu ar yr hwyl. Cafwyd disgo arall i ddiweddu’r diwrnod. Yn wir, roedd y daith wedi dod i ben cyn pen dim. Roedd y mwyafrif yn siomedig na fyddai’r daith yn gallu parhau yn hirach, ac yn edrych ymlaen |
|
Trip yr Urdd i Sbaen a Barcelona |
|
at drip arall y flwyddyn nesaf! Pawb wedi wirioneddol mwynhau. Llwyddodd y daith i annog y plant i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn wir cafwyd llwyddiant mawr. Diolch i bawb a fynychodd y daith ac am ei gwneud yn daith fythgofiadwy. |
|
Gweithgareddau Tymor yr Hydref
Clwb Pêl-Droed Pob bore Sadwrn ar gaeau Llandaf rhwng 9yb-10yb I blant Bl. 1-6 Dechrau 17/09/2005 £2.50
Clwb Pêl-Rwyd Pob bore Sadwrn, Ysgol Howells, Llandaf 9.30-10.30 – Bl. 7 a 8 10.30-11.30 – Bl. 4-6 Dechrau 17/09/2005 £3.00 |

|
Noson yng nghwmni Huw Chiswell a'r Wolfe Tones! Nos Wener 21 Hydref, 8.00yh Yn y Gyfnewidfa Lo, Bae Caerdydd Tocynnau o flaen llaw £17.50, Ar y Noson £20 Am Docynnau ffoniwch: 01267 290719 www.cambrianmagazine.com |
|
‘Roedd yr haf yn un prysur iawn i’r deuawd,‘Toreth’. Bu’r deuawd, o Dreganna, Caerdydd, sy’n chwarae cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, yn chwarae’n ddiweddar mewn gwyliau ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl y Cenhedloedd Bychain, a Gŵyl Pontardawe, yn ogystal â mynd ar daith pum niwrnod yn Estonia ganol Awst. Ond mae’r hydref yn mynd i fod yn brysurach byth wrth i’r ddau (Gareth Westacott: ffidil, a Guto Dafis: acordion ) ymuno â dau o brif gerddorion traddodiadol Iwerddon, sef Josephine Marsh (acordion) a Declan Corey (mandolin/ bazwci), ar gyfer taith wyth cyngerdd yn yr Ynys Werdd, i’w dilyn gan wyth cyngerdd yma yng Nghymru. "Byddwn ni’n chwarae cymysgedd o alawon Cymreig a Gwyddelig wedi eu hymblethu a'i gilydd i greu cyfanwaith cyffrous iawn," medd Gareth, sy’n hanu o Dredegar ym Mlaenau Gwent, "…Ac mae whare gyda Jo a Dec yn bleser pur. Man nhw lan, uchel fry, gyda’r goreuon sy gan y Gwyddelod i gynnig… ac ma’ hynny’n gweid llawar!" Mae’r daith wedi cael ei threfnu ar y cyd gan ‘Creu Cymru’ a ‘Music Network’ (Iwerddon). Cewch eu gweld yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd Nos Sul, Hydref 16 |
|
‘TORETH’ AR DAITH |
|
Ffwrnais Awen
Clwb Celfyddydau Cyfle i actio, dawnsio a chanu.
£5 y sesiwn. Canolfan y Mileniwm Sadwrn 10:30-1:30 – Uwchradd Mawrth 6:00-8:00 – Cynradd
james@urdd.org 02920 635684 |