
|
www.dinesydd.com |
|
Siop Dan Evans y Barri yn cau
Eleni bu’r cwmni’n dathlu canmlwyddiant ers sefydlu siop Dan Evans yn 1905, ond yn sydyn dyma sylweddoli y bydd y siop yn y Barri a’r siop a brynwyd gan gwmni David Morgan ym Mhenarth yn cau yn gynnar y flwyddyn nesaf gan adael 176 o’r gweithwyr yn ddiwaith. Syfrdanwyd trigolion y Barri gan y newyddion a gadewir bwlch mawr ar ôl yn stryd fawr y Barri gyda chau’r siop hon a’r un ym Mhenarth. Soniodd Geraint Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, am ei dristwch ynglŷn â’r sefyllfa, ond o dan yr amgylchiadau doedd fawr o ddewis ganddyn nhw ond dod â’r cwmni i ben. |
|
Cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni yn y Galeri yng Nghaernarfon, nos Wener yr 16 o Fedi, ac fe’i darlledwyd hefyd ar S4C y nos Sul canlynol. Cafodd nifer ohonom gyfle i gael cipolwg ar y dosbarthiadau meistr a gynhaliwyd gan arbenigwyr yn y gwahanol feysydd wedi i wyth o gystadleuwyr yr Urdd gyrraedd y rhestr fer, wrth i S4C eu darlledu yn ystod yr wythnos flaenorol. Lowri oedd yr unig ddawnswraig yn y gystadleuaeth ac roedd hi wedi ei synnu pan glywodd ei bod hi wedi ennill. Dywedodd i’r profiad fod yn gwbl ffantastig a chymaint o fraint oedd hi i rannu llwyfan â chantorion ac actorion mor dalentog. Cafodd y pleser o gwrdd â’r beirniaid oedd yn arbenigwyr yn eu meysydd ar y noson, oedd yn ei hannog i gamu’n hyderus i’r dyfodol. Mynegodd Shân Phillips fod proffesiynoldeb a thalent Lowri’n nodedig o ystyried ei hoedran. Pinacl arall i’r noson oedd derbyn galwad ffôn yn ei llongyfarch gan ei mam oedd ar ymweliad â Tsieina ar y |
|
pryd. Bu Lowri’n gyn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bryn Onnen yng Ngwent cyn symud i Ysgol Gynradd Pen y Garth. Mae ar hyn o bryd yn astudio Drama, Saesneg a Sbaeneg yn Ysgol Gyfun Plasmawr. Bu’n dawnsio ers yn 3 oed ac yn clocsio ers yn 8 oed yn y Meggitt Theatre School ym Mhenarth a Rhiwbeina. Huw Williams sydd wedi ei dysgu i glocsio ac mae’n aelod o ddawnswyr Nantgarw. Hi sy’n cyfarwyddo ei dawnsfeydd ei hun, sy’n gyfuniad o ddawnsio traddodiadol Gymreig a dawnsio creadigol. Mae Lowri’n ddiolchgar iawn i Daniel Evans am ei gyngor gwych yn y dosbarthiadau meistr ac mae’n gobeithio y caiff gyfle i gydweithio gyda Daniel eto yn y dyfodol. Wrth ofyn i Lowri sut y bydd yn defnyddio’r arian dywedodd y bydd yr arian yn hynod o werthfawr ar gyfer ffioedd, clyweliadau mewn prifysgolion a cholegau perfformio a gwersi arbenigol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi eleni gyda’i hastudiaethau ac fel dawnswraig. |
|
Agor Ysgol Gymraeg Newydd! |
|
Cafwyd cadarnhad ddiwedd Medi fod Ysgol Gymraeg Newydd wedi eis efydlu yn ardal y Sblot. Roedd Siân Wyn Thomas, yr athrawes a dau ofal, wrth ei bodd o glywedd y newydd yn swyddogol, er fod y dosbarth derbyn wedi cychwyn ers dechrau’r tymor. Am y tro, mae'r dosbarth wedi'i lletya mewn rhan o ysgol gynradd Saesneg Moorland yn ne'r Sblot. Mae gan y dosbarth 14 o blant, naw ohonyn nhw o |
|
Sblot ei hunan a phump o ardal Rhymni. Y staff eraill sydd wedi eu penodi yw Ann Williams a Delyth Mullane. Roedd gwir eisiau ysgol leol ar ôl i Ysgol y Berllan Deg, a oedd wedi'i lleoli dros dro yn y Rhath (ar bwys Sblot), symud i gartref barhaol yn bell i'r gogledd yn Llanedeyrn. Gwelai trigolion lleol hyn yn annheg achos byddai'n golygu taith hir, afresymol ar y bws. Nawr mae gobaith y gall ysgol newydd wasanaethu rhan ddeheuol dalgylch anferth y Berllan Deg. Beth bynnag, mae'r Berllan Deg eisoes wedi cyrraedd ei llawn dwf o ran niferoedd o ddisgyblion. Felly hefyd Ysgol Bro Eirwg yn Rhymni, yr ysgol agosaf i'r dwyrain. Mae'n amlwg bod eisiau mwy o ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg. |
|
Lowri’n ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2005
Lowri Walton, dawnswraig o Benarth, ac sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni. Camp aruthrol yw cyrraedd y rownd derfynol heb sôn am gipio’r wobr o £4,000. Hi yw’r ieuengaf erioed i ennill yr ysgoloriaeth a hi hefyd oedd yr ieuengaf i gystadlu eleni. |