 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
CF1 yn Taro'r Nodyn Cywir!
Enillodd Côr ifanc a brwdfrydig o'r brifddinas glod arbennig a rhagorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eryri a'r Cyffiniau eleni. Daeth Côr CF1, sy'n dod dan faner Aelwyd CF1, sef criw o athrawon, disgyblion ysgol, myfyrwyr a phobl broffesiynol, i'r brig yng nghystadleuaeth y Corau Ieuenctid ac yna, i goroni hyn, rhoddwyd canmoliaeth bellach i'r Côr wrth iddo gipio'r wobr uchel ei statws, 'Côr yr Wythnos', am fod y Côr a ddisgleiriodd fwyaf yn ystod yr wythnos o gystadlu yn yr Eisteddfod.
|
|
|
|
|
|
 |
|
 |
|
 |
|
|
|
|
|
Côr Aelwyd Hamdden ar y Brig
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Sioned James, arweinydd Côrdydd a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y corau cymysg rhwng 20 a 40 mewn nifer. Llun trwy garedigrwydd Y Cymro
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Eilonwy ac Illtud Lewis, Cadeirydd y Côr
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhagor o Enillwyr yr Eisteddfod
Llongyfarchiadau i Christopher Painter o Gaerdydd ar ennill Tlws y Cerddor am ei waith 'Yr Hanes Swynol'. Yn ôl y beirniaid mae'n waith lliwgar a meistrolgar, yn llawn dychymyg a syniadau cerddorol trawiadol. Llongyfarchiadau mawr i Dr Meic Stephens o'r Eglwys Newydd ar ddod yn ail yng nghystadleuaeth y Goron. Ei ffugenw yn y gystadleuaeth oedd 'Shasbi'. Derbyniodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid am gasgliad o gerddi yn y Wenhwyseg, tafodiaith Gymraeg de-ddwyrain Cymru, sy'n darlunio profiadau bachgen ysgol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd y cerddi yn ymddangos yn rhifyn nesaf y cylchgrawn Taliesin. Llongyfarchiadau i Emyr Edwards, 26 Windsor Road, Radyr ar ennill yr Adolygiad o gynhyrchiad gan gwmni theatr proffesinol Cymraeg. Llongyfarchiadau i Côr Merched y Wenallt ar ennill y gystadleuaeth Côr Llefaru dros 16 o leisiau. Llongyfarchiadau i Merched Canna ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth i Gorau Merched ac i Gôr Caerdydd ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth i Gorau Cymysg dros 45 mewn nifer. Llongyfarchiadau i Gruffydd Glyn ar ennill Gwobr Richard Burton.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
Dan arweiniad ysbrydoledig Eilonwy Jones enillodd Côr Aelwyd Hamdden Caerdydd y gystadleuaeth i gôr pensiynwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005, gan guro rhai o gorau mwyaf profiadol Cymru - Aberteifi, Castell-nedd a Phontarddulais. Canmolodd John S. Davies, y beirniad, amrywiaeth eu rhaglen, gyda bywiogrwydd Byddwn Oll yn Llon ein Calon ac egni Hava Nageela yn cyferbynnu â thynerwch Y Cennin Aur. Cyfeiriodd at eu canu disgybledig ac yn arbennig at 'leisiau ifanc y sopranos'.Talodd derynged i gyfeilio meistraidd Robert Nichols ar lwyfan yr Wyl, ond pwysig hefyd yw nodi cyfraniad amhrisiadwy Marian Williams ar y piano drwy'r holl ymarferiadau. Ar ôl y feirniadaeth, arhosodd mwyafrif yr aelodau ar y maes i fwynhau cyngerdd godidog Côr yr Eisteddfod a Bryn Terfel cyn dychwelyd ar ddiwedd diwrnod cyffrous a hapus i neuadd y brifysgol gerllaw.Yno, cawsant gyfle i gymdeithasu gyda chorau eraill ac eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru. Gyda maes Eisteddfod Abertawe y flwyddyn nesaf ar safle hen waith dur Felindre, gerllaw ei 'milltir sgwâr', mae Eilonwy wrthi eisoes yn paratoi rhaglen ar gyfer y gystadleuaeth. Mae gwahoddiad cynnes iawn i gantorion o bob llais ymuno â chymdeithas groesawgar, fywiog a gweithgar y côr. Cynhelir yr ymarferiadau bob pythefnos ar brynhawn Mercher yn festri Minny St am 2.00, gan gychwyn Medi 28. Cysyllter ag Eilonwy (20691685) neu unrhyw aelod o'r côr am wybodaeth bellach.
Gareth Edwards (Ysgrifennydd y Côr)
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyfuniad o baratoi portffolio cyfoethog o ganeuon o wahanol genres ac awyrgylch oedd cryfder perfformiad yr Aelwyd o Gaerdydd, gyda'r sain yn symud o rythmau pendant yr alaw werin Gymreig 'Maent yn Dwedyd', addfwynder 'Ave Maria' a bwrlwm y gân gospel 'Arglwydd Arglwydd' o'r ffilm 'Sister Act 2'. Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i CF1 ennill y gystadleuaeth Côr Ieuenctid yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Hyd yma bu eleni'n flwyddyn hynod o brysur a chyffrous rhwng y llwyddiant yng nghystadleuaeth Côr Cymru ac Eisteddfod yr Urdd yn ogystal. "Cyfuniad o baratoi'n drylwyr a brwdfrydedd sydd wrth wraidd y perfformiadau ar y llwyfannau wrth gystadlu" meddai arweinydd charismatig Côr Aelwyd CF1, Eilir Owen Griffiths. "Dewiswyd rhaglen bwrpasol ar gyfer yr Eisteddfod er mwyn inni gael profi ein parodrwydd i ddatblygu ac ehangu ein repertoir cerddorol ond hefyd i adlewyrchu mai criw o ffrindiau sy'n mwynhau'r profiad ydyn ni yn y pen draw. Y mae 2005 wedi bod yn flwyddyn anhygoel inni, ac y mae ennill Côr yr Wythnos yn sicr yn werth ei ddathlu!." Y mae'r Côr eisoes wedi gwneud trefniadau am gyngherddau a pherfformiadau pellach yn 2005 gan gynnwys perfformio mewn cyngerdd i
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
godi arian i Apêl Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a pharatoi ar gyfer lansio ei CD gyntaf. Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am Aelwyd CF1, cysylltwch â Non Stevens - 07968 205661 nstevens@glam.ac.uk neu'r Aelwyd ei hun: aelywdcf1@yahoo.co.uk
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|