<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

2

Y DINESYDD   MEDI 2005

ISSN 1362-7546

Y Dinesydd

www.dinesydd.com

CROESAIR Rhif 58
gan Rhian Williams

Golygydd y rhifyn hwn:
D. Bryan James

Golygydd y rhifyn nesaf:
Nona Gruffudd-Evans

Anfonwch ddefnyddiau ar gyfer rhifyn Hydref 2005 erbyn 26 Medi at:
Nona Gruffudd-Evans, 20 Coedlan Aubrey, Parc Fictoria, Caerdydd, CF5 1AQ (Ffôn: 029-2030-9706; e-bost: nona@gruffudd.org).
neu at Gadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd:
Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (e-bost: JamesEW@caerdydd.ac.uk; ffôn: 029-2062-8754).

Cyhoeddir Y Dinesydd gan
Bwyllgor Y Dinesydd.
Fe'i cysodir gan Penri Williams
a'i argraffu gan 
Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.

Atebion i:
22 Heol Cae Rhys, Rhiwbina, Caerdydd. CF14 6AN
i gyrraedd erbyn
20 Medi 2005.

Ar Draws
1. 'Gwrandewir _____ ____ ____
  Yn union ganddo ef (WW) (3,7,3)
8. Un  'rydych rywsut yn arswydo (7)
9.  Bydd y cwn heb gynffon yn ddim on achwyn (5)
10. Mae'r pysgodyn yma yn dechrau esgyn o'r gwaelod (3)
11. Defodau Ceri wrth golli ei ben yn Arfon (8)
13. 'Arglwydd, mae __ ____
  Gwrando ar ein cri.' (HEL) (2,4)
14. Cana yn dawel am 'y cain a fathrwyd' (6)
16. Try neb arnat yn y lle yma (8)
19. 'Fel na chaffo'r pechod atgas
  ____ a tharth y pydew mawr' (WW) (3)
21. Mae yng nghôl y crythor i elwa o'r galeri (5)
22. A oes gan Fflur fam o sawl siâp? (7)
24. 'Y wawr neu wyneb haul
  Yw'r ___ ___ ___ ___' (JCH) (4,1'1, 5, 2)

I Lawr
1.  Os collai'r Iwerydd ei frig byddai'n cyrraedd wedi'r 3ydd (8)
2. Mae preseb a chig ynddo yn cynnwys

rhywbeth llai na'r cyffredin (7)
3. '_____ o boen sy ar rai yn gwario
  Nag ar eraill yn llafurio' (3)
4. Y mwyaf ifanc - y nifer uchaf fu ar yn ail (5)
5. 'Pan fydda'r môr yn berwi
  ___ ___ ar y don.' (JJW) 1'1, 7)
6. Rhoi tro mewn afon o'r tu n'ôl ymlaen (5)
7. 'Llys ____ hael, gwael yw'r gwedd - yn garnau
  Mewn gwerni mae'n gorwedd (EE) (4)
11. Mae Alun bach mewn un gwlad yn ffeindio un arall (9)
12. A ddaw llafn egni o'r dref hon? (8)
15. Pentref yn cadw hanner y mudiad mewn dryswch (7)
17. Dod i'r wyneb mae braint myned yn Lloegr (5)
18. Canaf oddeutu'r anifail hwn (5)
20. Ffeindio'r pant mewn tro slic ar yn ail (4)
23. 'Nefol Dad, mae eto'n nosi
  Gwrando ___ ein hwyrol weddi' (MEC) (3)

CALENDR
Anfonwch eitemau at
Dr E. Wyn James. (Gweler uchod)

DERBYN A DOSBARTHU COPÏAU

Os ydych am dderbyn Y Dinesydd drwy'r post, neu am gynorthwyo gyda'r dosbarthu cysylltwch â CERI MORGAN, 24 Cwm Gwynlais, Tongwynlais, Caerdydd. CF15 7HU.
Ffôn: (029) 20813812
Ffôn symudol: 07774 816209
e-bost:
ceri33@btopenworld.com

HYSBYSEBU

Mae 3,000 o gopiau o bob rhifyn o'r Dinesydd yn cael eu dosbarthu. Mae'n gyfrwng hwylus i gyrraedd cyfran uchel o Gymry Cymraeg y brifddinas.
   Os ydych am hysbysebu yn
Y Dinesydd y mis nesaf cysylltwch â CERI MORGAN (gweler uchod).

CYNORTHWYO'N OLYGYDDOL
Os ydych yn barod i gynorthwyo i gynhychu'r Dinesydd - trwy gasglu newyddion, teipio erthyglau, golygu rhifyn, etc. -  cysylltwch â Chadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd (Gweler uchod)

CYFRANNU'N ARIANNOL

Mae parhad Y Dinesydd yn dibynnu ar roddion gan unigolion a chymdeithasau. Mae ein Trysorydd, CERI MORGAN, yn croesawu pob rhodd, bach a mawr. Anfonwch ato yn 24 Cwm Gwynlais, Tongwynlais, Caerdydd,  CF15 7HU.

Atebion Croesair Rhif 57

Ar draws: 1. a'n ceraist; 8. Sbon; 9. Yn cwnsela; 10. Eryr; 13. Craig; 15. Adegau; 16. Gwneud; 1. Llanina; 19. Cilfach; 20. Traeth; 21. Wawr; 24. Fforddolian; 25. Alaw; 26. Clod y cledd.  I lawr: 2. Nant; 3. Enwi; 4. Amseru; 5. Selsig; 6. Aberteifi; 7. Yn bradychu; 11. Can llawiau; 12. Cefn gwlad; 13. Caint; 14. Cwaith; 18. Argoel; 19. Cerdded; 22. Clwc, 23. Bore.
Derbyniwyd 13 ymgais, a deg ohonynt yn gywir. Danfonir y tocyn llyfrau i Sion
Lewis, Altolusso, Bute Tce, Caerdydd. Cafwyd yr atebion cywir eraill gan Marion
Davies, Gwilym Ll. Edwards, Rhiannon Evans, Gaenor Hall, Heledd Hall, Gwenda
Hopkins, Eira Jones, Buddug Roberts ac Eleri Sheppard.

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>