|
|
|
|
|
|
Cyngor y Ddinas yn gofyn i Gymdeithas yr Iaith roi'r gorau i ddifwyno arwyddion
Mae Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi derbyn llythyr oddi wrth Gyngor Dinas a Sir Caerdydd yn gofyn i'r mudiad roi'r gorau i ymgyrchu yn y ddinas. Daw'r llythyr oddi wrth y Cynghorydd Elgan Morgan, ac mae'n cyhuddo'r Gymdeithas o 'ddifwyno' arwyddion ffyrdd ac arwyddion eraill yn y ddinas gyda'r sticeri 'Ble Mae'r Gymraeg?' Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud bod 'y fandaliaeth yma yn costio miloedd o bunnau i'r Cyngor i'w gywiro bob blwyddyn ... felly rwy'n gofyn i chi roi'r gorau i gynhyrchu'r sticeri yma ac i ysgrifennu at eich aelodau gan ofyn iddynt roi'r gorau i fandaleiddio eiddo cyhoeddus, a dwyn eu sylw at y gost o drwsio'r arwyddion. Dylech eu hatgoffa ei bod, mewn mannau tebyg i Gaerdydd â phoblogaeth ddi-Gymraeg helaeth, yn ddigon anodd perswadio pobl o'r angen am ddwyieithrwydd yn y lle cyntaf." Wrth ymateb, dywedodd Steffan Cravos ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y frwydr dros arwyddion dwyieithog wedi ei hennill yn y 60au gan Gymdeithas yr Iaith ond bod Cyngor Caerdydd yn parhau i godi arwyddion ffyrdd uniaiaith Saesneg ar draws y Brifddinas ac yn torri'r gyfraith yn sgil hynny. "Mae'r Gymdeithas yn gwbl ddiedifar ynglŷn â'r sticeri hyn," meddai Steffan Cravos. "Cyfrifoldeb Cyngor sy'n gwasanaethu Prifddinas Cymru yw cadw at y canllawiau yn ei Gynllun Iaith ei hun, sy'n cynnwys y datganiad hwn: "Bydd pob arwydd gwybodaeth gyhoeddus newydd, yn ogystal â'r rhai a ailosodir, y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt, gan gynnwys arwyddion priffyrdd, yn ddwyieithog." Yn ôl Steffan, mae'r Gymdeithas wedi derbyn cefnogaeth i'w hymgyrch gan nifer o Gymry di-Gymraeg yn y ddinas. "Yr ydym yn barod i drafod y mater
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
Llwyddiant Ysgubol i Gaerdydd yn Eisteddfod Eryri
Llongyfarchiadau i'r holl gystadleuwyr o ddalgylch y Dinesydd a wnaeth mor ardderchog ym Mhrifwyl Eryri a'r Cyffiniau. O fewn cloriau'r rhifyn hwn rydym yn falch o ddathlu llwyddiant y corau, y grwpiau a'r unigolion a ddaeth i'r brig mewn cymaint o gystadlaethau gwahanol. Mewn rhywbeth fel hyn mae gadael rhywun mas bob amser yn berygl mawr! Os digwydd hynny y tro hwn, da chi anfonwch air atom fel y gallwn ni unioni'r cam. Ymlaen â ni i Abertawe!
|
|
|
|
|
|