|
Daeth Catrin Dafydd ac Aneirin Karadog, y ddau yn gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen, i amlygrwydd yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ar gyfrif eu campau llenyddol. Cipiodd Aneirin y Gadair ac enillodd Catrin Dafydd y Fedal Lenyddiaeth, yn ogystal â dod yn gydradd-drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair ac yn ail a chydradd-drydydd yn y Fedal Ddrama. Roedd y ddau yn falch o gael ennill yng Nghaerdydd am ei fod mor agos i adref. Yn ôl Aneirin roedd hi'n 'braf cael derbyn fy nghadair ar un o lwyfannau gorau'r byd nid nepell o 'nghartref ym Mhontypridd', a dywedodd Catrin hithau fod ennill yng Nghaerdydd yn brofiad arbennig iawn am ei bod hi'n dod 'o Waelod y Garth a bod Caerdydd wedi chwarae rhan bwysig yn fy magwraeth i'. Ond pwysicach na hynny yw'r dylanwad a'r ysbrydoliaeth amlwg mae Caerdydd a'r Cymoedd wedi eu cael ar eu gwaith. Mae cerdd Aneirin yn gân i Gymoedd y De ac yn cynnig darlun byw, os egr, o fywyd yno. Mae yna dinc obeithiol i'r gerdd, serch hynny, wrth iddi ddisgrifio'r cynnydd mewn addysg Gymraeg yn yr ardal, a'r ieuenctid sydd yn cael eu hennill i'r iaith. Roedd Aneirin yn falch bod y 'Cymoedd wedi cael sylw haeddiannol a bod pobl yn magu ymwybyddiaeth o gymaint o waith sydd i'w wneud yno yn ogystal â chymaint o obaith sydd yna ar gyfer y Gymraeg a phobl y Cymoedd'. Mae strydoedd Caerdydd yn gefndir amlwg i ddilyniant o gerddi Catrin Dafydd ac yn olrhain profiad un sy'n dychwelyd i'r ddinas ac yn ei gweld hi'n wahanol bob tro. Mae Catrin yn credu'n gryf ei bod hi'n 'bwysig fod awduron a beirdd yn ysgrifennu am Gaerdydd er mwyn adlewyrchu'r realiti fod miloedd o siaradwyr Cymraeg yn byw yno bellach'. Dyma obeithio y bydd eraill yn dilyn eu hesiampl ac y bydd cnwd newydd o lenorion yn codi a fydd yn ymateb i fywyd y brifddinas mewn modd grymus a ffres.
|
|