<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Y DINESYDD   MEHEFIN 2005

3

AILENI PRIFDDINAS   


Gwelir tyfiant deinamig Caerdydd yn llyfr canmlwyddiant 2005 yn dathlu'r ddinas, a fydd yn cael ei lansio gan Gyngor Caerdydd wythnos nesaf.  Edrychwch ar yr 192 o dudalennau i weld yr wynebau, y cymunedau a'r diwydiannau a adeiladwyd y ddinas hanesyddol arni.   
   Mae pen-blwydd Caerdydd yn 100 yn amser delfrydol i adlewyrchu ar faint sydd wedi cael ei gyflawni yn y gornel hon o Dde Cymru.  Bydd y llyfr 2005 yn darparu cofrodd barhaol i bobl Cymru i nodi canmlwyddiant eu prifddinas.               
   Gellir olrhain genedigaeth ddiwydiannol Caerdydd, o adeg y glo a'r llongau, hyd at ei hyder presennol fel prifddinas Ewropeaidd fywiog, â chyfleoedd diwylliant, busnes ac adwerthu o'r radd flaenaf.                         
   Mae'r llyfr, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng y Cyngor ac academyddion blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, yn cynnwys delweddau unigryw gan Ffotograffydd Magnum David Hurn a chyfweliadau â'r rhai o'r 'bobl go iawn' sy'n cadw'r ddinas i fynd, megis swyddog heddlu, patrol croesi ysgol, nyrs ac athro.  Dyma sydd gan rai o feibion a merched enwocaf y ddinas i'w ddweud am 100 mlynedd Caerdydd fel dinas a 50 mlynedd fel prifddinas:
   Dywed y Foneddiges Shirley Bassey, a ysgrifennodd y cyflwyniad: "Roedd rhaid i'r Tiger Bay a adewais yn ferch gan obeithio llwyddo yn y byd mawr, newid.  Ni fyddai llawer ohonom a fagwyd yn yr hen gymdogaethau cyfeillgar hynny yn eu hadnabod heddiw,... newidiodd Caerdydd oherwydd roedd rhaid iddi newid â'r byd o'i chwmpas, a defnyddiwyd llawer o feddwl a dychymyg er mwyn cynllunio sut i newid er gwell...erbyn hyn rydym ar fap pawb!"
Dywedodd y neidiwr clwydi Colin

Ysgol y Wern

Pencampwraig Brydeinig
Llongyfarchiadau i Manon Morgans, disgybl Bl 6 yn Ysgol y Wern. Cynrychiolodd Manon yr ysgol yng Nghystadleuaeth Feicio Ysgolion Prydeinig. Llwyddodd Manon i ennill y gystadleuaeth a'i choroni yn Bencampwraig Beicio Prydain.

Jackson, a wobrwywyd â Rhyddid Dinas Caerdydd yn 2003:           
"Rwy'n fachgen Caerdydd ac mae'n bleser gennyf gefnogi dathliadau dwbl unigryw'r ddinas. 
Mae gan Gaerdydd dreftadaeth chwaraeon gwych.  Braf yw gweld Stadiwm y Mileniwm yn cael ei ddefnyddio nid yn unig ar gyfer chwaraeon, ond ar gyfer nifer o weithgareddau eraill hefyd.  Mae'n gychwyn gwych ar gyfer dyfodol chwaraeon yn y ddinas hon.  Rwy'n edrych ymlaen at weld y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn y Bae, a fydd yn hyrwyddo chwaraeon ymhellach yng Nghaerdydd. 
   A dywedodd un o brif leisiau enwocaf Caerdydd, Frank Hennessy: "Mae gan Gaerdydd gynhesrwydd a chymeriad heb ei ail.  Rwyf wedi cael perthynas gydol oes â'r ddinas hon, wrth i mi edrych arni'n tyfu mewn statws a hunan hyder.  Mae Caerdydd yn sicr wedi ennill ei phlwyf ac rydym yn falch ac yn hapus , fel dinasyddion, i ddathlu canrif ein cenedl wych fel dinas a 50 mlynedd fel Prifddinas.  Deled y dyddiau da!"
   Lansiwyd y llyfr yn Neuadd Marble yn Neuadd y Ddinas, ar Fehefin 2 gan Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Freda Salway.  Dywedodd: "Mae hon yn flwyddyn arbennig iawn i Gaerdydd ac i holl ddinasyddion Caerdydd sydd heb os yn falch o alw'r ddinas hon eu prifddinas.  Mae'r llyfr canmlwyddiant 2005 yn ffordd barhaol i bawb gofio'r pen-blwydd hanesyddol hwn, pan fydd Caerdydd yn dathlu 100 mlynedd fel dinas a 50 mlynedd fel prifddinas Cymru."

Manon Morgans

Cystadleuaeth Cenedlaethol
Rygbi'r Urdd
Mae tîm rygbi'r ysgol wedi profi llwyddiant mawr yn ddiweddar. Mewn cystadleuaeth genedlaethol ym Mharc y Strade wedi ei threfnu gan yr Urdd, cyrhaeddodd yr ysgol y rownd derfynol. Yn anffodus collodd yr ysgol o un cais mewn gem glos eithriadol yn erbyn Ysgol Gwenllian, Cydweli. Da iawn chi fechgyn am ddod yn ail dros Gymru.

Theatr y Globe, Llundain
Braint fawr i'r ysgol oedd derbyn gwahoddiad gan Theatr y Globe i gymryd rhan mewn prosiect cyffrous. Fe dreuliodd actorion o'r theatr fore prysur gyda phlant Blwyddyn 6 yn ddiweddar ac fe fydd y gwaith celf a fydd yn deillio o'r prosiect yn cael ei arddangos yn y `Globe'.

Cystadleuaeth Dylunio Posteri
Cymdeithas Rhiwbeina
Fe wnaeth yr ysgol gymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio poster yn ddiweddar, a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Rhiwbeina i ysgolion

Gogledd Caerdydd. Thema'r poster oedd `Cynaladwyaeth'. Llongyfarchiadau i'r buddugwyr canlynol :
Blwyddyn 4 - 1 af Sioned Press Blwyddyn 5 - 1 af Rebeca Mair Davies 3ydd Ceri Evans
Blwyddyn 6 - 2il Richard Thomas 3ydd Hannah Williams

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>