|
Mae Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, wedi ei phenodi yn Brif Weithredwr newydd y Sianel. Bydd Iona yn cymryd yr awenau oddi wrth Huw Jones, sy'n gadael S4C ddiwedd eleni ar ôl bron 12 mlynedd yn ei swydd. Hi yw'r ferch gyntaf i'w phenodi'n Brif Weithredwr S4C a'r pedwerydd yn unig yn hanes y Sianel, a sefydlwyd ym 1982. Dechreuodd Iona, sy'n 41 oed, ei gyrfa ym myd darlledu fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru, gan ddod yn olygydd Taro Naw a Newyddion yn ddiweddarach, y ddwy yn cael eu cynhyrchu gan y BBC i S4C. Ymunodd Iona ag S4C gyntaf oll ym 1995 fel Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol. Symudodd i ITV Wales yn 2000, lle cynrychiolodd holl gwmnïau rhanbarthol Carlton ledled y DG mewn perthynas â'r Ddeddf Ddarlledu a materion strategol eraill. Dychwelodd Iona i S4C ym mis Medi 2003 fel Cyfarwyddwr Rhaglenni, gan ailstrwythuro'r adran rhaglenni a dyfeisio a rhoi ar waith strategaeth rhaglenni fentrus sy'n gosod pwyslais ar ragoriaeth greadigol. Ganed Iona yn Hwlffordd, Sir Benfro, ac fe'i magwyd yn Llanbedr Pont Steffan cyn symud gyda'i theulu i Gaerdydd yn chwech oed. Mynychodd Ysgol Gymraeg Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari cyn astudio Hanes Economaidd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Exeter. Cwblhaodd Ddiploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth yng Nghanolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Mae Iona yn briod ac yn fam i dri o blant.
|
|