<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Y DINESYDD   MAI 2005

3

Agor Swyddfeydd Newydd

Ar y 13eg o Ebrill, agorwyd swyddfeydd a chanolfan iaith newydd Mudiad Ysgolion Meithrin gan y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Jane Davidson.  Ers 1991, bu'r Mudiad

yn gweithredu allan o dŷ teras yn 145 Albany Road, ond oherwydd y twf sydd wedi ei brofi yn addysg feithrin yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, roedd cyfleusterau Albany Road yn annigonol.  Mae'r swyddfeydd newydd wedi eu lleoli ym Mharc Busnes Porth Caerdydd, ac yn cynnwys yr offer electroneg fwyaf

modern er mwyn hwyluso'r tasgau o gefnogi cylchoedd y de-ddwyrain, o hyfforddi ymarferwyr y cylchoedd, ac o gefnogi ymarferwyr a rheini sydd angen cymorth ychwanegol gyda'r iaith Gymraeg.  Daeth oddeutu hanner cant o wahoddedigion i ddathlu'r achlysur, yn Swyddogion Mygedol, Llywyddion a staff y Mudiad, ynghyd â charedigion a phartneriaid gwaith eraill y Mudiad yn ogystal.
   Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl i'r Mudiad gynnig cefnogaeth estynedig i'w gylchoedd, ac o'r herwydd mae'n fwriad gan y Mudiad sicrhau bod y gefnogaeth honno yn gyson ar draws Cymru.  Bydd Mudiad Ysgolion Meithrin felly yn anelu at ddarparu swyddfeydd a chanolfannau hyfforddi

cyffelyb mewn lleoliadau strategol eraill yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth estynedig hon ar gael yn hawdd.
   I gloi ar nodyn hanesyddol, mae Catrin Stevens yn adrodd yn ei llyfr ar hanes y Mudiad, 'Meithrin', fod y cylch meithrin cyntaf yng Nghaerdydd wedi ei sefydlu ym mis Hydref 1943 yn Nhŷ'r Cymru, gyda phlant fel Nia ac Ethni Daniel ac Iwan Guy yn ei fynychu.  Er nad yw'r sillafiad yn debyg, mae'n addas efallai mai enw swyddfa newydd Mudiad Ysgolion Meithrin yng Nghaerdydd yw Tŷ Cymru.
   Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i logi'r cyfleusterau, cysylltwch â Cerian ar 029 20 739200 (ffacs: 029 20739201 ebost:cerian@mym.co.uk).

Ysgol Gymraeg
Melin Gruffudd

Molawd Mair
(ar achlysur ymweliad â Stratford)

A ninnau dan gyfaredd bardd o fri
Daeth chwa o'r awen gynt a'm hudo i,
Rhy hwyr i fedru llunio awdl faith

A methu'n llwyr a wnes ar englyn ffraeth.

Serch hynny dyma gyfansoddi gair
O'r galon i ddweud diolch i ti Mair.

O fynwes Sir Gaerfyrddin dest i'r dref
I fwytho plant Caerdydd â iaith y nef,
Cofleidiaist hwy â stori, cerdd a chân
Boed Dau Gi Bach neu Calon lân.
A swynaist hwy i gyd â'th nodau pêr
'Mhob steddfod, plant y Felin oedd yn sêr.

Cantores opera enwog gallet fod
Neu seren byd teledu, nes it ddod
I'n tywys ni drwy'r jyngl ddyrys faith
O blant a swn a phapur, ond ta waeth,
Gwrandewaist ar ein cwynion yn ddi-fael,
Dy gyngor oedd yn werthfawr ac yn hael.
Ti yw brenhines y blynyddoedd aur
Ffarwel a hir oes hapus i ti Mair.

Cleddyfgryn

Gethin wedi mynd i hwylio'r llong

Llongyfarchiadau i Gethin Jones ar gael ei dderbyn yn un o gyflwynwyr newydd y rhaglen Blue Peter. Mae Gethin yn wyneb cyfarwydd, yn gyntaf fel cyflwynydd ar raglen Popty ac yna fel un o gyflwynwyr Planed Plant. Daeth Gethin hefyd i amlygrwydd yng nghystadleuaeth 'hen lanc' (hen?) y flwyddyn!
   Ymddangosodd Gethin am y tro cyntaf ar
Blue Peter ddiwedd mis Ebrill. Os na welsoch Gethin ar y rhaglen yna fe fydd yn rhaid ichi aros tan yr haf pan fydd y rhaglen yn dychwelyd i'n setiau teledu.
Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fydd

Gethin a gweddill y criw yn brysur yn ffilmio ac yn darparu eitemau ar ein cyfer. Pwy a ŵyr efallai y gwelwn Blue Peter yn 'Steddfod yr Urdd! Yn y cyfamser, ac yn nhraddodiad anrhydeddus Blue Peter mae'r Dinesydd wedi trefnu rhywbeth bach i'ch diddori.
Lliwiwch y ddau lun o Gethin.
Rholiwch gornel y dudalen hon o amgylch pensil. Symudwch y pensil yn ôl ac ymlaen yn gyflym i weld Gethin yn ein cyfarch!

Plât Dathlu Penblwydd Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn 25 mlynedd


Cynhyrchwyd plât arbennig ar gyfer dathlu 25 mlynedd Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd. Cynlluniwyd y plât 8" gan yr artist Iwan Bala ac fe gynhyrchwyd nifer cyfyngedig ohonynt yng Nghrochendy Rhymni, Caerdydd. Os hoffech brynu plât, gellir cysylltu â'r ysgol ar 20 691247 neu ffonio Brengain Evans ar 20 630868. Pris y plât yw £15 - ond gwell brysio, dim ond llond dyrned sydd ar ôl!

Gethin Jones cyflwynydd newydd
Blue Peter

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>