<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

2

Y DINESYDD   MAI 2005

ISSN 1362-7546

GWYNFOR


Gwelwyd dau gynhebrwng anferth ar ein teledu yn ystod yr wythnosau diwethaf. Canu'n iach i ddeuddyn o draddodiadau tra gwahanol, ond dau a ymdrechodd ymdrech deg, a rhoi o'u hunain yn llwyr i'w gweledigaeth. Gweledigaeth o ffydd oedd yn rhoi lle blaenllaw i heddwch a chyfiawnder, a chariad at genedl.
   Roedd y miloedd yng nghynhebrwng Gwynfor yn dyst i'w boblogrwydd anhygoel, y crwt o'r Barri a ddysgodd Gymraeg ac ymroi i wasanaethu ei wlad a'i iaith. Mae'n anodd disgrifio'r dyn i'r rhai na chawsant y fraint o'i gyfarfod. Gwynfor, 'asgre lân' fel y dwedodd Saunders Lewis amdano unwaith. Roedd y ddau arweinydd amlycaf o bell yn hanes y Blaid yn greaduriaid tra gwahanol.
   Dyn y dyfalbarhad a'r perswâd oedd Gwynfor. Yn wir roedd ymroddiad Gwynfor tu draw i bob rheswm, a diolch i'w deulu am ei gefnogi yng ngwaith ei fywyd. I rywun fel fi, roedd o'n ddyn brawychus o 'dda'; yn wir mi honnir mai fo oedd model Islwyn Ffowc Elis ar gyfer Karl yn y nofelau am Leifior. Anodd oedd credu yn Karl, ond roedd Gwynfor yn bod, yn ddiriaeth unigryw, gerbron y genedl.
   Ni fyddai llawer o bobl yn medru dioddef yr holl sen a fwriwyd arno yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a'r Tŷ'r Cyffredin. Diolch i'r gwron o'r un oedran â Gwynfor, Michael Foot, am fod yn gyfaill ac yn gefn iddo. Yr hyn a'u cysylltai fwyaf oedd eu heddychiaeth, a bu Gwynfor yn amlwg iawn yn y
Peace Pledge Union ynghyd â CND Cymru a Chymdeithas y Cymod. Bu mor ddewr â cheisio mynd allan i Fietnam pan oedd y rhyfel yno ar ei waethaf, dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
   Mae sawl un wedi awgrymu ei fod yn wleidydd naïf, diniwed, ond y gwir ydy ei fod yn bencampwr ar berswadio pobl i gydweithio efo fo. Pa wladgarwr fedrai wrthod cais gan un oedd yn rhoi ei holl fywyd i wasanaethu ei wlad a'i Arglwydd? Clywsom  Dafydd Wigley yn sôn am fynd i weld Gwynfor i ddweud ei fod wedi cael digon, a'i fod yn rhoi'r gorau iddi, ond yn dychwelyd o Talar Wen yn llawn euogrwydd, cyn newid ei feddwl!
   Hwyrach mai'r hyn oedd yn troi rhai o gynghorwyr ac Aelodau Seneddol Llafur yn erbyn Gwynfor oedd ei foneddigeiddrwydd cynhenid, ei feistrolaeth ar Saesneg yn ogystal â

Newyddion

Y Dinesydd

www.dinesydd.com

Canolfan y Mileniwm yn ennill gwobr
Cydnabuwyd rhagoriaeth y Ganolfan hon pan ddyfarnwyd gwobr iddi yn Cannes yn Ffrainc yng Nghynhadledd Rhyngwladol y diwydiant eiddo yn y categori Canolfannau ymwelwyr a gwestai. Cafodd y ganolfan ei chynllunio gan y pensaer Jonathan Adams. Llongyfarchiadau iddo am ei gamp ac i'r Ganolfan sy'n denu cymaint o sylw ac edmygedd gan bawb sy'n ymweld â'r adeilad.

Golygydd y rhifyn hwn:
Cen Williams

Golygydd y rhifyn nesaf:
Garwyn Davies

Anfonwch ddefnyddiau ar gyfer rhifyn Mehefin 2005 erbyn 28 Mai at:
Garwyn Davies, 27 Baron Rd., Penarth, Bro Morgannwg CF64 3UD
(ebost: gol@dinesydd.com;
ffôn: 029-2070-8253)

neu at Gadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd:
Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (ffôn: 029-2062-8754; e-bost: JamesEW@caerdydd.ac.uk).

Cyhoeddir Y Dinesydd gan
Bwyllgor Y Dinesydd.
Fe'i cysodir gan gweHendre
a'i argraffu gan 
Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.

Cyngerdd 'Côr Ni' yn Rhiwbeina
Daeth 'Côr Ni' i Fethel, Rhiwbeina ar nos Lun 18 Ebrill i ddiddanu aelodau Cymdeithas Gymreig Rhiwbeina a chafwyd noson ardderchog yn eu cwmni. Sefydlwyd y côr i wasanaethu Cwm Rhymni nôl yn 2003 gan Siân Griffiths a buon nhw'n cystadlu yn Eisteddfod Casnewydd y llynedd gan ennill y wobr gyntaf yn eu cystadleuaeth. Arweiniwyd y côr yn y cyngerdd gan Carys Jones a chafwyd unawdau gan wahanol aelodau. Cyflwynwyd yr eitemau gan Rhodri Harries.  Unawdydd ifancaf y côr oedd David Hodges, disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

CALENDR
Anfonwch eitemau at Dr E. Wyn James. (Gweler uchod)

DERBYN A DOSBARTHU COPIAU

Os ydych am dderbyn Y Dinesydd drwy'r post, neu am gynorthwyo gyda'r dosbarthu cysylltwch â CERI MORGAN, 24, Cwm Gwynlais, Tongwynlais, Caerdydd.  CF15 7HU. Ffôn: 029 20813812
Ffôn symudol: 07774-816209
e-bost: ceri33@btopenworld.com

HYSBYSEBU

Mae 3,000 o gopiau o bob rhifyn o'r Dinesydd yn cael eu dosbarthu. Mae'n gyfrwng hwylus i gyrraedd cyfran uchel o Gymry Cymraeg y brifddinas.
   Os ydych am hysbysebu yn
Y Dinesydd y mis nesaf cysylltwch â CERI MORGAN (gweler uchod).

CYNORTHWYO'N OLYGYDDOL
Os ydych yn barod i gynorthwyo i gynhychu'r Dinesydd - trwy gasglu newyddion, teipio erthyglau, golygu rhifyn, etc. -  cysylltwch â Chadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd (Gweler uchod)

CYFRANNU'N ARIANNOL

Mae parhad Y Dinesydd yn dibynnu ar roddion gan unigolion a chymdeithasau. Mae ein Trysorydd, CERI MORGAN, yn croesawu pob rhodd, bach a mawr. Anfonwch ato yn 24, Cwm Gwynlais, Tongwynlais, Caerdydd.  CF15 7HU.

Chymraeg, a'r ffaith na ellid fyth ei lwgr wobrwyo. Cafodd dipyn o wrthwynebiad tu fewn i'w Blaid ei hun, a nifer ohonon ni am iddo weithredu yn achos Tryweryn fel y gwnaeth y tri ym Mhenyberth. Ond roedd ei fryd o ar greu plaid wleidyddol yn hytrach na mudiad, a fo oedd yn iawn.
   Un ffordd neu'r llall, mi weddnewidiodd Gwynfor wleidyddiaeth Cymru a Phrydain bron ddeugain mlynedd yn ôl pan enillodd isetholiad Caerfyrddin, a dangos y ffordd i'r Albanwyr. Petai rhyw wyth cant o bobl, o blith tua deng mil ar hugain, wedi newid eu meddyliau yn isetholiad y Rhondda yn fuan wedyn, byddai'r Cwm hwnnw, a Chaerffili a Merthyr yn eu tro wedi cwympo i ddwylo Plaid Cymru.
   Ond llanw a thrai a gafwyd yn hanes y Blaid drwy'r amser, a dim ond dewrder a dyfalbarhad Gwynfor a gadwodd pethau i fynd yn y dyddiau tywyll. A'r hyn oedd yn ei gynnal o, yn ogystal â chefnogaeth ei deulu, a'i hiwmor, oedd ei ffydd ddiysgog yn ei Waredwr.
   Mae gan Gymru ddyled enfawr iddo. Mae wedi gweddnewid cwrs ein hanes.

Harri Pritchard Jones

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>