<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

16

Y DINESYDD   MAI 2005

Cymru Ddu
yn y Bae


Prosiect dwyieithog ar y cyd rhwng S4C a Chanolfan Hanes a Chelf Butetown yw Cymru Ddu/Black Wales: A History, ffrwyth ymchwil yr awdur Alan Llwyd dros ddwy flynedd a mwy.  Lansiwyd y llyfr yn ddiweddar yng Nghanolfan Hanes a Chelf Butetown.

yn falch o fod yn gysylltiedig â'r prosiect.
    "Mae
Cymru Ddu yn amlygu hanes gudd - ychydig iawn neu y peth nesaf i ddim mae'r rhan fwyaf o bobl gwyn Cymru yn gwybod am gynnwys y llyfr hwn, ac mi fentraf na wyr llawer o'r Cymry ddu'r hanes ychwaith.  Mae'r llyfr hwn am berthyn ac am eithriadu, am dderbyn ac am ymyleiddio.  Mae'n herio'r rhagdybiaeth fod 'Cymraeg' o hyd yn meddwl 'Cymraeg gwyn'.

Cymru Ddu Black Wales: A History
Awdur: Alan Llwyd. Rhagair: Glenn Jordan. Cyhoeddwr:  Hughes. £14.95

nghalonogi gan esiamplau eraill, yn enwedig sut yr aeth rhai Cymry ati i gefnogi eraill.  Doeddwn i ddim yn hoffi'r defnydd oedd rhaid ei wneud o wyn a du - roedd yn rhaid i mi ddefnyddio'r termau i ddweud y stori ond i mi, un bobl ydym ni.  Fel y dywedodd Martin Luther King, "Yn y diwedd, nid geiriau ein gelynion ceir eu cofio ond distawrwydd ein ffrindiau."
   Ychwanegodd Glenn Jordan o Ganolfan Hanes a Chelf Butetown, "Mae
Cymru Ddu/Black Wales: A History yn gwneud cyfraniad unigryw i hanes y Cymry a phobl du, a dylid llongyfarch yr awdur, S4C ac Antenna.  Mae Canolfan Hanes a Chelf Butetown

   Cymru Wen, Gwalia Wen, gwlad lân yng ngolwg y gyfraith, gwlad grefyddol a gwlad oddefgar. Dyma'r darlun traddodiadol a delfrydedig o Gymru, gwlad y menig gwynion. O weision bach duon y 1600au  i arwyr chwaraeon a llenyddiaeth heddiw, mae'r llyfr hwn yn olrhain hanes y plethiad graddol rhwng cymunedau du a gwyn cymdeithas Cymru.
   Dywedodd Alun Llwyd, "Roedd hi'n ddwy flynedd o waith caled, ond gwaith diddorol dros ben - fe ddysgais lawer ac yn wir fe'm brawychwyd gan rhai penodau yn ein hanes. Cefais fy

GWEFAN CAERDYDD


Newydd ei chyhoeddi ar BBC Cymru'r Byd mae gwefan newydd Caerdydd gyda phob math o wybodaeth ddiddorol am ein prifddinas gan gynnwys hanes, lluniau, newyddion o'r papur bro, gwegameru a theithio - gwefan gwerth dychwelyd iddi yn rheolaidd gan y byddwn yn ychwanegu deunydd newydd yn gyson.
http://www.bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/safle/caerdydd/ 

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>