|
|
|
|
|
|
Sadwrn, 14 Mai Ysgol Undydd Hanes Cymru (dan nawdd Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd) ar y thema 'Caerdydd Ddoe a Heddiw', yn adeilad Eglwys y Crwys, Ffordd Richmond, rhwng 10.30 am. a 4.15 pm. Pum darlith ar agweddau ar hanes modern a chyfoes dinas Caerdydd gan Bill Jones, Angharad Lewis, Celyn Williams, Huw Thomas ac Ifor Gruffudd. Manylion pellach: Dr Bill Jones, Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd (tel. 029-2087-6104; ebost: JonesWD@caerdydd.ac.uk). Sadwrn, 14 Mai Cymdeithas Carnhuanawc. Gwibdaith Haf. 'Pêr Gwm': Taith o gwmpas Cwm Nedd. Cinio yng Ngwesty/Tafarn Dulas Rock, Aberdulais. Arweinydd: Keith Bush. Cyfarfod yn 47 Wingfield Rd.,Yr Eglwys Newydd am 9.15 am. neu Faes Parcio Tafarn y 'Lamb & Flag', Glyn-nedd erbyn 10.15 am. Manylion pellach: Nans Couch (029-2075-3625) neu Catherine Jobbins (029-2062-3275). Llun, 16 Mai Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Sgwrs gan Arfon Haines Davies ym Methany, Rhiwbina am 7.30 pm. Llun, 16 Mai Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. Dr Owen Jones (Cwmni Agrisense BSC) ar 'Sut i Ddal Mosgitos', yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30 p.m. Croeso i bobl nad ydynt yn 'arbenigwyr' gwyddonol. Mawrth, 17 Mai Cymdeithas Cymrodorion y Barri. Noson y Llywydd, Nan Rees, yn festri'r Eglwys Annibynnol Gymraeg, Sgwâr y Brenin, Y Barri, am 7.15 pm. Mercher, 18 Mai Cymdeithas Tŷ'r Cymry. Anerchiad gan Helen Mary Jones, AC, ar y testun 'Ein Cynulliad', yn Nhŷ'r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.00 pm. Iau-Sadwrn, 26-28 Mai Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno 'Tŷ ar y Tywod' (Gwenlyn Parry) yn Theatr Sherman am 7.30 pm. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 029-2064-6900. Llun, 30 Mai - Sadwrn, 4 Mehefin Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, yng Nghanolfan y Mileniwm. Mercher, 8 Mehefin Cwmni Arad Goch yn cyflwyno 'Lleuad yn Olau' (T. Llew Jones) yn Theatr Sherman am 10.30 am. ac 1.30 pm. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 029-2064-6900.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Sul, 12 Mehefin 'Y Chwe Chwim'. Cystadleuaeth bêl-droed 6 bob ochr, er budd Sefydliad y Deillion Caerdydd, ar Gaeau Llandaf. £200 am garfan o hyd at 10 chwaraewr. Tlysau i'r enillwyr, cestyll sboncio, paentio wynebau, ac yn y blaen. I gofrestru neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Michelle Jones (029-2048-5414). Llun, 20 Mehefin Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Cyfarfod Blynyddol ym Methany, Rhiwbina am 7.30 pm. Sgwrs a Chân - Delwyn Siôn. Gwener-Sul, 24-26 Mehefin Gŵyl Ifan. Penwythnos o ddawnsio gwerin i ddathlu Canol Haf. Cynhelir Twmpath yng Ngwesty'r Angel, nos Wener, 8 pm. Gorymdaith ac ardangosfeydd dawnsio yng nghanol y Ddinas, y Fro a'r Bae ddydd Sadwrn. Timoedd o Nantes, Stuttgart a'r Hordaland, Norwy yn ymuno â thimoedd o bob cwr o Gymru. Manylion pellach 029-2056-3989 neu www.gwylifan.org Sul, 3 Gorffennaf Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Cymanfa Ganu yng nghwmni Côr Aelwyd Hamdden Caerdydd. Arweinydd: Alun Guy. Organydd: Alun Jones. Yng Nhapel Beulah, Rhiwbina am 8.00 pm. Sadwrn, 9 Gorffennaf Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Stondin yng Ngŵyl Rhiwbina. Iau-Mawrth, 14-19 Gorffennaf Gwibdaith Flynyddol Cymdeithas Carnhuanwc. Dilyn llwybrau Carnhuanawc i Iwerddon. Arweinydd: Keith Bush. Manylion pellach: Nans Couch (029-2075-3625). Llun, 18 Gorffennaf Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Gwibdaith. Mercher-Sadwrn, 20-23 Gorffennaf Cynhadledd Astudiaethau Gwerin Celtaidd, Prifysgol Caerdydd: 'Llên Gwerin a Hunaniaeth'. Prif siaradwyr: Diane Goldstein (Prifysgol Memorial, Newfoundland), Patricia Lysaght (Coleg Prifysgol Dulyn), Sioned Davies (Prifysgol Caerdydd). Cynhadledd ddwyieithog fydd hon. Cost y gynhadledd: £75, £40 (gost), £20 (1 diwrnod). Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Adeilad y Dyniaethau, Caerdydd CF10 3EU (029-2087-4843; cymraeg@caerdydd.ac.uk; www.caerdydd.ac.uk/cymraeg
|
|
|
|
|
|
|
|
|