|
Cydymdeimlo â: Mrs Doreen Cassam a'r teulu, Rhiwbeina, ar farwolaeth ei gŵr, y Parchedig Ivor Cassam yn Holme Towers, Penarth. Bu'r gwasanaeth angladdol yn Eglwys Unedig Treganna ac yn dilyn hynny yn Amlosgfa Bryndrain.
Teulu'r diweddar Eiri Thomas, Rhiwbeina, a fu farw ddechrau mis Mawrth. Athrawes Gymraeg yn Ysgol Lewis i Ferched oedd Eiri cyn iddi ymddeol.
Dathlu Gŵyl Ddewi Cynhaliwyd cinio Gŵyl Ddewi, Cymdeithas Gymraeg Rhiwbeina, yng Nghlwb Golff Radur gyda'r Dr R. Alun Evans, yn ŵr gwadd. Llongyfarchwyd Alun a Rhiannon ar ddod yn daid a mamgu unwaith eto ar ôl geni mab i Betsan Powys yn Ysbyty Llandochau. Dymunwyd yn dda i Elliw Richards oedd ar fin ymweld â'r Wladfa gyda Chôr Merched y Garth.
Y Fonesig Tanny Ddechrau mis Mawrth bu'r Fonesig Tanny Grey-Thompson, yr athletwraig amlfedalog, ym Mhalas Buckingham er mwyn derbyn ei hanrhydedd o law'r Frenhines. Llongyfarchiadau yn wir i'r Gymraes hon, gynt o Gaerdydd.
Cwmni Dawns Caerdydd Dros y Pasg, bu'r Cwmni Dawns yn cynrychioli dinas Caerdydd a Chymru mewn Gŵyl Werin yn Leuvem yng Ngwlad Belg. Crëwyd set o ddawnsfeydd a elwid yn "Gamp Lawn" i ddathlu buddugoliaeth y tîm rygbi cenedlaethol. Bu grwpiau o bob rhan o Ewrop yn perfformio yn yr ŵyl.
|
|