|
|
|
|
|
|
Bardd ifanc
Cyflwynir isod cerdd gan Rhys ab Owen, disgybl yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Gyfun Glantaf. Enillodd Gobaith gadair Eisteddfod Fawreddog Y Tabernacl, lle mae'n aelod ffyddlon a diwyd. Hefyd enillodd gadair yr ysgol eleni.
Gobaith
Y llygaid bach bron, bron â chau yng ngwely noswyl y Nadolig. "Falle daw e â beic 'fory un coch licen i gal 'da Sion Corn."
Neuadd yr arholiad. Y tensiwn yn chwys oer ar ei dalcen ac yn gyfog lawr rhywle yn ei fola. Croesi dau fys cyn troi y papur drosodd "Falle, falle daw'r cwestiwn Am ddisgyrchiant………"
Tri dyn pwysig tu ôl i ddesg fawr bwysig a'u geiriau pwysig yn hofran yn y niwl trwchus ar ei ochr ef o'r ddesg. "Falle lican nhw fi ac mae Dad yn nabod y dyn yn y canol."
3, 10, 13, 27, 30, 45 Plygu'r darn bach o bapur yn ofalus a'i roi yn ei waled i'w gadw yng ngwres ei fynwes yno ar bwys ei galon tan nos Sadwrn. "Falle, falle yr wythnos hon wythnos lwcus meddai'r ser yn y Sun."
Ei gwallt yn dresi aur a'i chwarddiad gosgeiddig yn drysu'r synhwyrau "Falle os hoffith hi'r blodau Falle os af i â hi i'r gwesty mawr crand……."
Dodi cloc yr ymddeoliad yn ofalus ar y silff ben tan. Gwisgo'r slipyrs a bodio trwy'r gatalog Y mordeithiau hudol "Deng mlynedd - ugain mlynedd hyd yn oed 'da lwc."
Rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl Disgynnodd geiriau'r meddyg Fel morthwyl "O falle tawn i'n trio gweddio, falle tawn i'n dechre mynd i'r capel. Falle bod 'na Dduw a nefoedd wedi'r cwbwl Does dim ond gobeithio."
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
Seren y Steddfodau
Yn dilyn llwyddiant Seren y Steddfodau y llynedd, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), mewn partneriaeth â Chymdeithas Eisteddfodau Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn gwahodd enwebiadau newydd ar gyfer y wobr sy'n anrhydeddu un person arbennig sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at waith cynllunio, trefnu, codi arian neu gynnal Eisteddfod ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol. Mae'r wobr hon yn cydnabod y miloedd o bobl sy'n gweithio'n dawel i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn llawn gymaint o lwyddiant i'r bobl sy'n eu mynychu ag ydynt i'r talentau sy'n datblygu drwy gystadlu. Gan fod 2005 yn Flwyddyn y Gwirfoddolwyr, gobeithio y bydd gwobr Seren yn derbyn hyd yn oed mwy o enwebiadau nag a wnaeth yn ei blwyddyn gyntaf. Derbynnir enwebiadau ar gyfer gwirfoddolwyr Cymraeg neu Saesneg eu hiaith. Mae pecynnau enwebu ar gael gan CGGC drwy ffonio'r llinell gymorth ar 0870 6071666 neu drwy eu llwytho oddi ar www.cggc.org.uk. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 3 Mehefin yn ystod wythnos genedlaethol y gwirfoddolwyr ac fe gyhoeddir enw'r enillydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
Gŵyl Llên y Lli yr Academi
I ddathlu canmlwyddiant Caerdydd fel dinas, mae'r Academi - sef yr asiantaeth er hyrwyddo llenyddiaeth - wedi sicrhau nifer o sêr byd-enwog i ymddangos yng ngŵyl Llên y Lli 2005. Yn eu plith mae Will Self, Howard Marks, Ian McMillan, Mererid Hopwood, Dic Jones, John Humphrys, Menna Elfyn, Fay Weldon a Dick King-Smith - enwau sy'n sicr o wneud yr ŵyl eleni'n fwy mawreddog nag erioed o'r blaen. Mae'r ŵyl lenyddol ddwyieithog, a leolir o gwmpas Bae Caerdydd, yn para naw diwrnod. Gan ddathlu llenyddiaeth Cymru a thu hwnt, mae'n frith o ddarlleniadau, perfformiadau, gweithdai a thrafodaethau ac fe'i cynhelir o ddydd Sadwrn 16 Ebrill hyd at ddydd Sul 24 Ebrill. Sefydlwyd yr ŵyl yn 2000 fel digwyddiad i'w gynnal bob dwy flynedd, ond eleni mae gŵyl Llên y Lli yn troi traddodiad wyneb i waered er mwyn dynodi canmlwyddiant Caerdydd. Bydd yr ŵyl yn dathlu talent y goreuon o fyd ysgrifennu Cymreig a Chymraeg gyda Myrddin ap Dafydd, James Hawes, Niall Griffiths, Dannie Abse ac Angharad Price oll yn cymryd rhan. Cawn glywed darlith arbennig gan yr Athro Sioned Davies ar bregethwyr dramatig y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd Dic Jones a T. James Jones yn cynnal gweithdai cynghanedd a bydd cyfle i glywed rhai o sêr llenyddol y dyfodol yn perfformio'u gwaith gyda beirdd ifainc dawnus fel Catrin Dafydd, Rhys Iorwerth ac Aneirin Karadog.
|
|
|
|
|
|