<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Y DINESYDD   EBRILL 2005

15

Calendr y Dinesydd

PAPUR DYDDIOL CYMRAEG: Y BYD
Boddi mewn emosiwn, alcohol a dagrau - neu sefydlu menter o werth parhaol i'r iaith?

Rhaid i ni godi  £70,000 cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau bod 'na un papur newydd yng Nghymru sy'n perthyn i'r Cymry. Mae £230,000 gennym yn barod. Dyma'ch cyfle i sgorio mwy na chais dros Gymru!
   Cliciwch ar http://www.ybyd.com/buddsoddi.shtml - am wybodaeth ynglŷn ag ymuno â'r Clwb Cefnogwyr ac am fuddsoddi yn y fenter gyhoeddi Cymraeg fwyaf cyffrous erioed.
   Os ydych wedi ymuno â'r Clwb Cefnogwyr a/neu wedi buddsoddi yn barod, DIOLCH YN FAWR!!!

Tîm Y BYD

Dyddiol Cyf.
Canolfan Mercator,
Y Buarth, Aberystwyth, SY23 1NN
Ffon: 01970 621998
Ffacs: 01970 621524
E-bost: neges@ybyd.com
http://www.ybyd.com

Llun, 18 Ebrill
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Cyngerdd Côr Cwm Ni ym Methany, Rhiwbina am 7.30 pm.
Mercher, 20 Ebrill
Cymdeithas Tŷ'r Cymry. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn Nhŷ'r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.00 pm.
Gwener, 22 Ebrill
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (Llundain) a Chymdeithas Cymrodorion Caerdydd: Darlith gan Dr John Davies i ddathlu canmlwyddiant Caerdydd yn ddinas a'i hanner canmlwyddiant yn brifddinas. Yn Neuadd y Ddinas, Parc Cathays, Caerdydd, am 7.30 pm. Croeso cynnes i bawb.
Mawrth, 26 Ebrill
Darlith Goffa Islwyn (dan nawdd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd): 'Jones Llangollen a'i Gyfnod' gan Dr Huw Walters (Llyfrgell Genedlaethol Cymru), yn Ystafell X/0.04, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 5.30 pm. Croeso cynnes i bawb.
Mawrth, 26 Ebrill - Mercher, 27 Ebrill
Theatr Bara Caws yn cyflwyno 'Ffernols Lwcus' (addasiad o ddrama John Godber gan Bryn Fôn) yng Nghanolfan Chapter, Heol y Farchnad, Treganna am 8.00 pm. Tocynnau: 029-2030-4400.
Gwener, 6 Mai
Darlith Flynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd: 'The Great and Good Work Committed to His Hands: Robert Everett and the Abolition of American Slavery' gan Dr Jerry Hunter (Bangor), yn Ystafell X/0.04, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 7.00 pm. Croeso cynnes i bawb.
Llun, 9 Mai
Merched y Wawr, Cangen Caerdydd: 'Allan i de.'
Mercher, 11 Mai
Cymrodorion Caerdydd. Taith dan arweiniad yr Athro John Gwynfor Jones i Gasllwchwr a Blaenannerch, mannau allweddol yn hanes Evan Roberts a Diwygiad 1904-05. Manylion pellach: 029-2039-8933 neu 029-2069-4667.
Sadwrn, 14 Mai
Ysgol Undydd Hanes Cymru (dan nawdd Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd) ar y thema 'Caerdydd Ddoe a Heddiw', yn adeilad Eglwys y Crwys, Ffordd Richmond, rhwng 10.30 am. a 4.15 pm. Pum darlith ar agweddau ar hanes modern a chyfoes

dinas Caerdydd gan Bill Jones, Angharad Lewis, Celyn Williams, Huw Thomas ac Ifor Gruffudd. Manylion pellach: Dr Bill Jones, Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd (tel. 029-2087-6104; ebost: JonesWD@caerdydd.ac.uk).
Llun, 16 Mai
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Sgwrs gan Arfon Haines Davies ym Methany, Rhiwbina am 7.30 pm.
Llun, 16 Mai
Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. Dr Owen Jones (Cwmni Agrisense BSC) ar 'Sut i Ddal Mosgitos', yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30 p.m. Croeso i bobl nad ydynt yn 'arbenigwyr' gwyddonol.
Mawrth, 17 Mai
Cymdeithas Cymrodorion y Barri. Noson y Llywydd, Nan Rees, yn festri'r Eglwys Annibynnol Gymraeg, Sgwâr y Brenin, Y Barri, am 7.15 pm.
Mercher, 18 Mai
Cymdeithas Tŷ'r Cymry. Anerchiad gan Helen Mary Jones, AC, yn Nhŷ'r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.00 pm.
Llun, 30 Mai - Sadwrn, 4 Mehefin
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, yng Nghanolfan y Mileniwm.
Anfonwch fanylion ar gyfer y Calendr at Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (Ffôn: 2062 8754; E-bost:
JamesEW@caerdydd.ac.uk).

Mae Calendr y Dinesydd hefyd ar wefan Menter Caerdydd:
http://www.echlysur.com

Cyflwyniad i 6ed dosbarth Glantaf
Cynhelir diwrnod a noson gyflwyno i 6ed dosbarth Glantaf ddydd Llun 4 Gorffennaf. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn rhai o gyrsiau 6ed dosbarth Glantaf, dewch i gwrdd â'r athrawon a chyd-ddisgyblion a rhieni ar y noson hon. Am ragor o fanylion cysylltwch â Mr Dyfrig Rees, pennaeth y 6ed ar 029 2033 3090.

<< Tudalen Blaenorol