<< Dewisiadau

Tudalen Nesaf >>

Ysgol Melin Gruffydd
Ymddeoliad
Mair Robbins


"Mwyniant Mair" oedd teitl y noson arbennig a gynhaliwyd yn Eglwys Ararat, Yr Eglwys Newydd, ar nos Lun 21 Mawrth. Cyfle oedd hwn i ddangos gwerthfawrogiad o gyfraniad amhrisiadwy Mair i addysg Gymraeg y brifddinas dros nifer fawr o flynyddoedd ond yn arbennig am ei gwaith fel dirprwy a phrifathrawes Ysgol Melin Gruffydd.
   Daeth plant yr ysgol, cyn-ddisgyblion, rhieni, ffrindiau a theulu yn llu i'r gyngerdd yn Ararat ac roedd cynhesrwydd y gynulleidfa a brwdfrydedd y perfformwyr yn wir deyrnged i'r brifathrawes ar ei hymddeoliad.
   Cafodd Mrs Robbins sawl syrpreis ac ambell sioc wrth i gyn-ddisgyblion o wahanol gyfnodau (rhai yn mynd yn ôl i'r 70au cynnar!) ymddangos o'i blaen ar y llwyfan. Cafwyd eitemau chwaethus gan offerynwyr, unawdwyr a grwpiau. Bu cyfle hefyd i  fwynhau perfformiadau hyfryd côr plant Melin Gruffydd, y parti cerdd dant a'r
grŵp llefaru. Roedd yr eitem olaf yn brofiad gwefreiddiol i berfformwyr a chynulleidfa pan ddaeth y disgyblion, y cyn-ddisgyblion a hyd yn oed staff Melin Gruffydd ynghyd i ganu "Am Brydferthwch Daear Lawr".
   Diolch i bob un o'r plant a'r cyn-ddisgyblion am fod mor barod i roi o'u hamser i ymarfer (yn gyfrinachol!) ac am berfformio mor wych i sicrhau noson fythgofiadawy i Mrs Robbins.
   I gloi'r noson cyflwynwyd diolchiadau gan gynrychiolwyr o'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon a'r bwrdd llywodraethol a darllenodd dau ddisgybl o Flwyddyn 6 "Adroddiad Diwedd Tymor" Mair Robbins. Dyw e ddim yn syndod i glywed bod yr adroddiad yn frith o eiriau fel "ardderchog", "disglair", "dawnus", "talentog", a "safonau uchel". Ond rhaid i bob adroddiad diwedd tymor gynnwys sylwadau perthnasol i'r dyfodol yn ogystal felly dyma nhw - "Rhaid i chi Mair nawr ymlacio a mwynhau eich ymddeoliad!"

Cant heb fod allan


Roedd llawenydd mawr yn yr Aelwyd Hamdden ar 9 Mawrth pan gynhaliwyd parti i ddathlu pen-blwydd Mrs Edna May Rees, Rhiwbeina yn 100 oed. Bu'n aelod brwd a ffyddlon o'r aelwyd ers y cyfarfod cyntaf yn nechrau'r 90au. Daeth tua 60 o aelodau i festri Minny Street i'w chroesawu hi, ei

Mrs Rees, ei mab Hywel a'i merch Non, gyda dwy o sylfaenwyr yr Aelwyd Hamdden, Eilonwy Jones a Gwenda Morgan.

dau blentyn, Hywel a Non a'u teuluoedd ac i fwynhau'r danteithion, yn arbennig y deisen hardd ar ffurf 100 a wnaed gan Gill Lewis o Eglwys Ebeneser.
   Yn dilyn y te, cyfarchwyd Mrs Rees gan Howard Spriggs, llywydd yr Aelwyd a chan Miss Eirwen Davies a roddodd inni ddarlun byw o wraig weithgar a chymwynasgar ac a fu'n flaenllaw gyda'i gŵr, y diweddar Barchedig W. M. Rees yn y frwydr lwyddiannus i achub ardal Llangyndeyrn yng Nghwm Gwendraeth rhag cael ei boddi i greu cronfa ddŵr i gyngor Abertawe yng nghanol y ganrif ddiwethaf. Cawsom ein diddanu wedyn gan Mair ac Idwal Hughes yn canu ac Eira Jones a Gwenda Morgan yn adrodd penillion a gyfansoddwyd ganddynt ill dwy yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Trefnwyd basged hyfryd o flodau gan

Ros Bowen a gyflwynwyd i Mrs Rees gan Glenys Morris, un arall o aelodau gwreiddiol yr Aelwyd. Pan siaradodd Mrs Rees wedyn i ddiolch i bawb am y prynhawn, dotiodd a rhyfeddodd pawb at ei llefaru clir a'i meddwl bywiog, yn gant oed ond yn ifanc ei hysbryd a'i hymarweddiad. Cafwyd cip arall ar gymeriad Mrs Rees, yn y cwpled o waith ei gweinidog, y Parchedig Denzil John, ac a lythrennwyd mor gywrain ar y deisen gan Gill Lewis.
"Adnod yw enaid Edna
A gair Duw ei geiriau da."

(Rhagor ar dudalen 10)

'Make Me a Supermodel'


Bydd y rheini ohonoch sy'n dilyn y rhaglen 'Make me a Supermodel' ar Sianel 5 siwr o fod wedi sylwi ar lwyddiant un o fyfyrwyr Blwyddyn 13 Ysgol Gyfun Glantaf, Kate Ellery, ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth gyfan. Dewiswyd Kate o blith miloedd o ferched ledled Prydain, i geisio am y cyfle i fod yn fodel ar 'Catwalks' ffasiwn y byd! Llongyfarchiadau mawr iawn iddi!

Mair Robbins

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>