|
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn gyfle bob blwyddyn i ddathlu'r gorau o dalent ieuenctid Cymru, ac eleni caiff miloedd o'n disgyblion a myfyrwyr y cyfle i berfformio ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru - Theatr Donald Gordon. Ac yn ogystal â'r cystadlu yng Nghanolfan y Mileniwm ei hunan, bydd rhaglen lawn o sioeau, cyngherddau, drama, dawns, cerddoriaeth roc, arddangosfeydd celf, gweithgareddau gwyddoniaeth, hyfforddiant chwaraeon dwr, wal ddringo a channoedd o stondinau eraill o gwmpas y Bae, i gynnig diwrnod i'r brenin i'r teulu oll! Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Eisteddfod wedi tyfu a datblygu'n barhaol, gan arbrofi ac arloesi mewn nifer o ffyrdd. Bydd eleni'n gyfle gwych i roi cynnig ar fformat hollol wahanol. Mae ardal y Bae yn ddelfrydol, gyda Chanolfan y Mileniwm fel canolbwynt. Rydan ni'n gobeithio denu mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen i brofi bwrlwm yr Urdd". Erbyn heddiw, mae Eisteddfod yr Urdd, a gychwynodd dros 80 mlynedd yn ôl, yn wyl gelfyddydol ieuenctid fwyaf Ewrop, yn denu dros 40,000 o gystadleuwyr o 8 i 25 oed yn yr eisteddfodau cylch a sir, gyda dros 15,000 yn mynd ymlaen i gystadlu yn ystod yr wythnos ei hunan. Mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn un o'r cwmniau preswyl yng Nghanolfan y Mileniwm, gyda chyfleusterau i 150 i aros, ac yn cynnig cyfleoedd i ysgolion i drefnu gwyliau yn y brifddinas a gweithdai celfyddydau creadigol/perfformio i blant a phobl ifanc dros Gymru gyfan.
|
|