<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

2

Y DINESYDD   MAWRTH 2005

ISSN 1362-7546

Y Dinesydd

www.dinesydd.com

CROESAIR Rhif 54
gan Rhian Williams

Golygydd y rhifyn hwn:
Dylan Wyn Williams

Golygydd y rhifyn nesaf:
Hywel Jones

Anfonwch ddefnyddiau ar gyfer rhifyn Ebrill 2005 erbyn 31 Mawrth at:
Hywel Jones, 4 Heol Heath Halt, Y Mynydd Bychan, Caerdydd CF23 5QF
(ebost: hywel.jones4@ntlworld.com; ffôn: 029-2021-1855)

neu at Gadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd:
Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ
(Ffôn: 029-2062-8754; e-bost: JamesEW@caerdydd.ac.uk).

Cyhoeddir Y Dinesydd gan
Bwyllgor Y Dinesydd.
Fe'i cysodir gan gweHendre
a'i argraffu gan 
Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.

Ar Draws
1.  Ffugio coginio hebddon ni (5)
4.  'Teilwng yw yr Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn ___, a chyfoeth, a doethineb' (Datguddiad) (4)
8.  Mae mam yn troi yn nghôl Deio sy'n cynhyrchu trydan (7)
9.  Cael lloches o faddon stormus! (5)
10. Isod mae'r sobr heb ddechrau bod a diwedd hy (4)
11. Tyner ___ ___ heno
- tros fawnog
  Trawsfynydd yn dringo' (RWP) (2'1,5)
13. Cael yr ofnadwy mewn rhodd ddiddiwedd wrth ymosod (5)
14. Diddanwch yw dyheu mewn côr digalon (5)
17. Pero a Glyn gyda'i gilydd yn creu helbulon (8)
18. Dyfal ___ a dyr y garreg (4)
21. Blagus mewn gwegi nodweddiadol (5)
22. 'Wrth fy ___ yn gwynfannus
  Yr ochneidia'r gwynt (JM-J) (7)
23. Segur ond dim mewn llid (4)
24. Mae calon Adda mewn dial anwadal (5)

I Lawr
1.  A 18 i hela'r anifail (5)
2.  'Aeth eraill i Alamein eu dydd.
Ac yna pliciwyd eu cnawd oddi ar eu hesgyrn
Gan y ____ ____' (GRJ) (7,5)
3.  Ffeindio'r diwethaf men bythol afiaith (4)
4.  A yw goli yn gallu disgleirio? (6)
5.  A oes lle tanllyd yna? (8)
6.  'Anyglion glân, sy'n gwylio'n gylch
  ____ ____ wen.' (EE)(6'1,5)
7.  Mae'r sawl yn cynnwys 500 rhan o'r droed (5)
12. Mae ysgelerder yn digio'r trwstan (8)
15. Y lefain yng nghasgliad Gwenallt (5)
16. Ffroc go' ddi-siâp yw un rhy fawr (6)
19. Mae congl Elwyn bach i'w gael o dan y môr (5)
20. Cynnyrch cig digalon (4)

CALENDR
Anfonwch eitemau at Dr E. Wyn James. (Gweler uchod)

DERBYN A DOSBARTHU COPIAU

Os ydych am dderbyn Y Dinesydd drwy'r post, neu am gynorthwyo gyda'r dosbarthu cysylltwch â CERI MORGAN, 43 Australia Rd, Y Mynydd Bychan, CFl4 3BZ Ffon: 07774-816209
e-bost: ceri33@btopenworld.com

HYSBYSEBU

Mae 3,000 o gopiau o bob rhifyn o'r Dinesydd yn cael eu dosbarthu. Mae'n gyfrwng hwylus i gyrraedd cyfran uchel o Gymry Cymraeg y brifddinas.
   Os ydych am hysbysebu yn
Y Dinesydd y mis nesaf cysylltwch â CERI MORGAN (gweler uchod).

CYNORTHWYO'N OLYGYDDOL
Os ydych yn barod i gynorthwyo mewn unrhyw fodd i gynhychu'r Dinesydd - trwy gasglu newyddion, teipio erthyglau, golygu rhifyn, etc. - yna cysylltwch â Chadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd (Gweler uchod)

CYFRANNU'N ARIANNOL

Mae parhad Y Dinesydd yn dibynnu ar roddion gan unigolion a chymdeithasau. Mae ein Trysorydd, CERI MORGAN, yn croesawu pob rhodd, bach a mawr. Anfonwch ato yn 43 Australia Rd, Y Mynydd Bychan, CF 14 3BZ Ffôn: 07774-816209

Atebion i:
22 Heol Cae Rhys, Rhiwbina, Caerdydd. CF14 6AN
i gyrraedd erbyn
22 Mawrth 2005.

Atebion Croesair Rhif 53

Ar draws: 8. Anhrefn; 9. Lelog; 10. A'm dwg; 11. Libanus; 12. Adda; 14. Yn ffeindio; 17. Awstralia; 19. Gyd; 20. Cantigl; 22. Morfa; 24. Diota; 25. A heb le i.  I lawr: 1. Marana tha; 2. Ehud; 3. Fel gwydr; 4. Yn gloff; 5. Clwb; 6. Blinedig; 7. Agos; 13. Absennol; 15. Isalmaen; 16. Oedfa ein; 18. Lolian; 20. Cadw; 21. Ifan; 23. Rali.

Dim ond 6 ymgais a dderbyniwyd y tro yma.  Roedd y rhai clyfar ohonoch wedi sylweddoli bod yna ormod o sgwariau du yn y pôs ac wedi llwyddo i roi i mewn yr atebion cywir, ond oherwydd mân wallau eraill dim ond un ymgais oedd yn hollol gywir.  Danfonir y tocyn llyfr felly i Margaret Jones, 5 Heol Iscoed, Rhiwbina.

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>