 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ydy, mae'n swyddogol. Dwi'n eco-gyfeillgar. Dwi wedi llyncu propaganda'r llywodraeth. Dwi wedi rhoi'r goriadau car o'r neilltu ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i'r gwaith. Ac ar sail profiadau'r misoedd diwethaf, mae eisiau sbïo ar fy mhen i! Wedi blynyddoedd o lenwi pocedi landlordiaid braf eu byd, dyma fynd ati i brynu lle i mi fy hun. Gyda phrisiau tai Caerdydd wedi mynd dros ben llestri, rhaid oedd edrych tua'r cymoedd - a chael ty par 3-llofft ym mwrdeistref Merthyr am bris bedsit hances boced yn Nhrelái. Ac ar ben hynny, tawelwch, awyr iach a bryniau gleision yn lle stereos swnllyd a sbwriel stryd yr hen fflat yng Nglanrafon. Ond lle'r oedd y fflat i'r dim er mwyn cerdded i'r gwaith, mae angen tipyn mwy o ymdrech o'r topiau 'ma.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
'Non-Arriva' ys dywed cydweithiwr i mi a chymudwr druan arall o Gaerffili! Byth ers i mi brynu'r tocyn wythnos gyntaf cyn Dolig, dwi wedi gweld trenau chwarter awr yn hwyr yn cyrraedd neu ddim yn cyrraedd o gwbl. Dwi wedi llwyddo i fachu sedd ar drên pedwar cerbyd a sefyll ar drên dau gerbyd y diwrnod canlynol. Mae fel arfer yn llawn dop cyn i fyfyrwyr a chymudwyr Trefforest fentro arno, ac yn gwibio heibio criw cegrwth gorsaf Llandaf am fod y cerbydau eisoes dan eu sang. Dyw hi ddim yn jôc pan fod gennych chi ddarlith neu gyfarfod pwysig yng nghanol y ddinas am naw ar y dot. Ar ôl anfon llythyr, dyma'r ateb syfrdanol ges i gan swyddog cysylltiadau cwsmeriaid Arriva: "…mae gorlenwi yn gymharol anghyffredin, ac ar nifer o drenau ni fydd hyn yn digwydd ond yn yr haf." Gwae ni erbyn fis Gorffennaf, felly. Beth fydd hi wedyn - beicio ar lwybr Taith y Taf? Mae'r pwyslais ar barcio a theithio yn syniad gwych - ar bapur. Ond yn y byd go iawn, mae'n llanast. Os na gyrhaeddwch chi cyn 8 y bore, mae wedi canu arnoch chi i gael parcio'ch car mewn lleoedd fel Trefforest ac Ystrad Mynach. Y gwir amdani yw bod meysydd parcio'r gorsafoedd poblogaidd yn rhy fach o'r hanner.
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Plant Ysgol Berllan Deg a fu'n hel arian ar gyfer y Tswnami ar ddiwrnod UNICEF, 4 Chwefror. Cafodd pob dosbarth wlad i'w astudio. Cymru astudiwyd gan y dosbarth Meithrin, Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1. Rhagor ar dudalen 5.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Corau ar y Brig
Llongyfarchiadau i Gôr Serendipity ar ennill cystadleuaeth Côr Cymru S4C. Hefyd llongyfarchiadau i Gôr Aelwyd CF1 ar ennill Côr Ieuenctid Côr Cymru ac i Ferched Canna am gyrraedd cystadleuaeth y corau merched yn Aberystwyth.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ystyriwch y dewisiadau. Neidio i'r car am 7.30 y bore yn swn criw'r Post Cyntaf. Dechrau addawol o gylchfan Abercynon, newid i gêr is heibio Glan-bad a throed ar y brêc erbyn Nantgarw. 'Mlaen fel malwen ar North Road a'r gwaed yn berwi dros Gabalfa i gyfeiliant jingls Jonsey. Cyrraedd y swyddfa awr yn ddiweddarach a decpunt yn dlotach ar ôl parcio yn yr NCP. Neu, neidio ar drên am daith hanner awr i orsaf Heol y Frenhines. 'Sdim cystadleuaeth, nag oes? Mewn byd delfrydol, falle. Achos, nid gwasanaethau á la 'SNCF' chwim Ffrainc na 'Deutsche Bahn AG' prydlon yr Almaen sydd dan sylw yma, ond trenau tun sardîns 'Arriva Cymru'. Neu
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Tim Rhys Evans, Arweinydd Côr Serendipity
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |