<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Y DINESYDD   CHWEFROR 2005

3

Dyfodol Addysg Gymraeg
(Parhad o Dudalen 1)

Ystafelloedd Ar Gael yn
Nhy'r Cymry,
Heol Gordon


Un o ddibenion Ty'r Cymry yw darparu man cyfarfod a gweithle i gymdeithasau, grwpiau neu glystyrau o bobl sy'n hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant.
   Yn Nhy'r Cymry y sefydlwyd yr Ysgol Sadwrn Gymraeg gyntaf yng Nghaerdydd o 1943 tan 1947.   Honno fu'n gyfrwng i ennill yr Ysgol Gynradd Gymraeg gyntaf i Gaerdydd, fel y bu'n gynsail, hefyd, i amryw o ysgolion tebyg ym Morgannwg a Gwent.    Pery Ysgol Feithrin lewyrchus yma.
   Bu'r Ty yn gartref i nifer o sefydliadau yn eu tro - UCAC, Cymdeithas yr Iaith, yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, yr Ymgyrch Senedd i Gymru, Mudiad Addysg Gristnogol Cymru, Menter Caerdydd, Plaid Cymru a llawer o fudiadau dyrchafol eraill.
   Yn ddiweddar, ildiodd Cell Caerdydd o Gymdeithas yr Iaith yr ystafelloedd a ddefnyddiwyd am dros 30 mlynedd ac felly, mae gennym ystafelloedd ar gael j'w defnyddio gan bobl sydd a'u bryd ar hyrwyddo'r Gymraeg a'u buddiannau.   Codir rhent rhesymol am ddefnyddio ystafelloedd yn y Ty.
   Os gallwn eich helpu chi, anfonwch air at Ysgrifennydd Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon, Caerdydd CF24 3AJ, neu rhowch ganiad inni ar 029-2049 1123 neu 029-2062 0642.

"Y Dyn 'i Hun"
gan
Hywel Gwynfryn

Mae'r Sir yn cyfaddef fod y twf a'r galw parhaol am addysg cyfrwng Cymraeg wedi profi'n her ac ers 1996 mae wedi wynebu sawl problem i ddod o hyd i arian digonol i ddarparu lleoedd priodol.   Mae dosbarthiad anwastad ysgolion cynradd Cymraeg ar draws y ddinas (gweler y map), cyfyngiadau cyllidol a galw o fewn cymunedau wedi arwain at nifer o ddisgyblion yn cael eu bysio ar draws y ddinas.   Amcan y cynllun newydd yw creu dwy ffrwd ychwanegol yn y cyfnod cynradd a chwblhau Cam 2 Ysgol Pwll Coch.
   Efallai mai dyma man gwan y Cynllun oherwydd heb ehangiad sylweddol yn y sector cynradd bydd yn amhosib rhoi cyfle i blant ymhob ardal o Gaerdydd cael addysg Gymraeg yn lleol.
   Mae lle i tua 900 o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Plasmawr a tua 1170 o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Glantaf ac mae'r Cynllun yn argymell sefydlu trydedd ysgol uwchradd Cymraeg a'i hadeiladu erbyn Mehefin 2009.   Yn y cyfamser mae angen datblygu cyrsiau galwedigaethol Cymraeg eu hiaith ar gyfer oedran 16+ er mwyn sicrhau fod yr addysg a'r dewisiadau Cymraeg cystal os nad gwell na'r dewisiadau a geir yng ngholegau megis Glanhafren.
   Mae'r Cynllun hefyd yn trafod datblygu addysg Gymraeg fel ail iaith yng Nghaerdydd a'r ddarpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig.

Ers deugain mlynedd mae Hywel Gwynfryn wedi llifo fel arian byw i bob cornel o'r byd darlledu Cymraeg ac mae bellach wedi hen ymsefydlu fel un o'n prif ddarlledwyr ar radio a theledu.
   Wrth ddarllen hanes ei fywyd llawn ac amrywiol, cewch rannu'r cyfnodau tywyll yn ogystal â'r amserau da.   Er bod ei hiwmor afieithus yn britho'i hunangofiant, nid yw'n osgoi delio'n onest a chignoeth â sawl profiad ysgytwol yn ei fywyd personol.   Ond fyddwch chi ddim yn hir wedyn cyn y byddwch chi'n chwerthin yn uchel wrth ddarllen am fyrdd o droeon trwstan ei yrfa ddisglair, hirhoedlog !
Gwasg Gwynedd - pris £6.95

   Mae'r Sir mewn sefyllfa anodd oherwydd bod cannoedd o lefydd gwag yn rhai o'r ysgolion cynradd Saesneg eu cyfrwng a bydd rhaid gwneud penderfyniadau gwleidyddol yn fuan iawn ynglyn â dyfodol rhain.
   Mynnwch gopi o'r Cynllun Drafft oddi wrth yr Adran Addysg 029 20872736 a sicrhewch eich bod yn ymateb gan fynnu bod ymestyn sylweddol ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Yn priodi cyn bo hir?
Wedi trefnu'r adloniant?
Naddo?

Felly,

Gwasanaethau 007

amdani !


DISGO DWYIEITHOG
ASIANT TWMPATH
SUSTEM SAIN I AREITHIAU
RIG GOLEUO I GRWPIAU BYW


Cysylltwch â Ceri ar
07774 816209 neu
029 20621634
ceri33@btopenworld.com
Ar gael dros Gymru benbaladr
a thu hwnt

Dalgylch Ysgolion Cynradd Cymraeg Caerdydd

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>