 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
Cynllun Cyfnewid i Ieuenctid
Gwahoddir ieuenctid rhwng 15 a 18 oed i ymuno â chynllun cyfnewid cyffrous 'Operation Friendship'. Mae'r cynllun yn para am ddwy flynedd, pryd y byddid yn croesawu ieuenctid o'r Unol Daleithiau am dair wythnos yng Ngorffennaf 2006 a theithio am dair wythnos i America yng Ngorffennaf 2007. Trefnir rhaglen o weithgareddau amrywiol yn ystod y croesawu a'r teithio. Am fanylion pellach, cysyllter â Garwyn Davies ar 029 2070 8253 neu Ros Williams ar 029 2075 1091.
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
Profiadau newydd i Gôr Caerdydd
Yn ystod y tri mis diwethaf, mae Côr Caerdydd wedi mwynhau profiadau newydd a chyffrous. Ers ffurfio ym 1992 maent wedi cael llwyddiant aruthrol wrth gystadlu a llwyfannu cyngherddau. Ond, mae cyfleoedd newydd yn dal i gyrraedd. Dechrau Tachwedd y llynedd, fe gafodd y côr wahoddiad i ganu gyda Chorws a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn perfformiad o symffoni epig Beethoven, y 9fed, lle mae'r côr a'r unawdwyr yn ymuno yn yr 'Ode to Joy' enwog. Cafodd y cyngerdd ei ddarlledu'n fyw ar BBC Radio 3, ac 'roedd y profiad o fod yn rhan o gyngerdd cyffrous a safonol o dan arweiniad Richard Hickox i ganu cerddoriaeth wych Beethoven yn Neuadd Dewi Sant yn un fydd yn aros yn y cof am sbel. Tros gyfnod y Nadolig bu'r côr yn canu yn Y Goeden Nadolig yn San Ffagan ac yng Ngwyl Aeaf Caerdydd. Yna, dechrau blwyddyn newydd â sialens newydd. Derbyniodd Côr Caerdydd wahoddiad i recordio dau waith newydd gan y cyfansoddwr Karl Jenkins ar gyfer CD fydd yn cael ei rhyddhau ychydig cyn y Pasg eleni. Requiem Paradisum yw'r prif waith ar y ddisg, sydd heb ei berfformio'n fyw eto, a'r gwaith arall yw 'In these stones horizons sing' a dderbyniodd ei première ym mhenwythnos agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru, ac sy'n cyfuno geiriau Gwyneth Lewis In these stones horizons sing a Creu gwir fel gwydr o ffwrnais awen sydd i'w gweld ar furiau'r Ganolfan, gyda Chân yr Alltud ac Eleni Ganed gan Menna Elfyn a Grey/Llwyd gan Grahame Davies. Derbyniodd Karl Jenkins o Benclawdd anrhydedd O.B.E. yn ddiweddar, ac mae disgwyl eiddgar am ei CD newydd. Fe yw'r cyfansoddwr clasurol cyfoes sy'n gwerthu mwyaf o gryno ddisgiau ac fe aeth 'L'homme armé' - Y Gwr Arfog i frig siartiau Classic FM. Profiad bythgofiadwy oedd recordio'r CD yn yr Angel Studios yn Llundain ganol Ionawr gyda Chantorion Serendipity ac aelodau o Cytgan. 'Roedd y cyfansoddwr yn awyddus i gael corau o Gymru ar ei CD ddiweddaraf. Am fwy o fanylion am ryddhau'r CD, gwyliwch wefan Côr Caerdydd www.corcaerdydd.com.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y Dinesydd
www.dinesydd.com
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Golygydd y rhifyn hwn: Peter Gillard
Golygydd y rhifyn nesaf: Dylan Wyn Williams Anfonwch ddefnyddiau ar gyfer rhifyn Mawrth 2005 erbyn 22 Chwefror at: Dylan Wyn Williams, d/o Testun Cyf., 57-59 Heol Siarl, Caerdydd CF10 2GD (ebost: dylan@testun.co.uk; ffôn: 07759 541894) neu at Gadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd: Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (ffôn: 029-2062-8754; e-bost: JamesEW@caerdydd.ac.uk).
Cyhoeddir Y Dinesydd gan Bwyllgor Y Dinesydd. Fe'i cysodir gan gweHendre a'i argraffu gan Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Tri DJ ar gyfer rhaglen John Peel
Huw Stephens mab Meic a Ruth Stephens, yr Eglwys Newydd fydd un o dri DJ a benodwyd i lanw sgidiau'r diweddar John Peel ar ei raglen ar Radio 1. Darlledir y rhaglen rhwng 11yh ag 1yb ac fe'i henwir yn "Cerddoriaeth Un". Eisoes mae Huw Stephens a Bethan Elfyn yn cyflwyno rhaglen bop ar Radio 1 o Gymru bob nos Iau. Llongyfarchiadau i Huw ar ei benodiad diweddaraf.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
CALENDR Anfonwch eitemau at Dr E. Wyn James. (Gweler uchod)
DERBYN A DOSBARTHU COPIAU
Os ydych am dderbyn Y Dinesydd drwy'r post, neu am gynorthwyo gyda'r dosbarthu cysylltwch â CERI MORGAN, 43 Australia Rd, Y Mynydd Bychan, CFl4 3BZ Ffon: 07774-816209 e-bost: ceri33@btopenworld.com
HYSBYSEBU
Mae 3,000 o gopiau o bob rhifyn o'r Dinesydd yn cael eu dosbarthu. Mae'n gyfrwng hwylus i gyrraedd cyfran uchel o Gymry Cymraeg y brifddinas. Os ydych am hysbysebu yn Y Dinesydd y mis nesaf cysylltwch â CERI MORGAN (gweler uchod).
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
 |
|
|
|
|
Cefnogi'r Dinesydd
CYNORTHWYO'N OLYGYDDOL Gwaith tîm o wirfoddolwyr yw cynhyrchu a dosbarthu'r Dinesydd. Rydym bob amser yn croesawu pobl newydd i ymuno â'r tîm! Os ydych yn barod i gynorthwyo mewn unrhyw fodd - trwy gasglu newyddion, teipio erthyglau, golygu rhifyn, etc. - yna cysylltwch â Chadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd (Gweler uchod)
CYFRANNU'N ARIANNOL
Mae parhad Y Dinesydd yn dibynnu ar roddion gan unigolion a chymdeithasau. Mae ein Trysorydd, CERI MORGAN, yn croesawu pob rhodd, bach a mawr. Anfonwch ato yn 43 Australia Rd, Y Mynydd Bychan, CF 14 3BZ Ffôn: 07774-816209; e-bost: ceri33@btopenworld.com
APÊL Y DINESYDD
Mae pobl yn dal i anfon cyfraniadau i'r Apêl a dydy hi ddim yn rhy hwyr i chi anfon eich cyfraniad tuag at y Gronfa!
|
|
|
|
|
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
 |
|
|
|
|
CYDNABYDDIR CEFNOGAETH
BWRDD YR IAITH GYMRAEG I'R CYHOEDDIAD HWN
Os oes angen gwybodaeth o unrhyw fath am yr iaith Gymraeg, galwch y LLINELL GYSWLLT 0845 6076070 Llun - Gwener 10.00am - 12.30pm 1.30 - 3.30pm
www.bwrdd-yr-iaith.org.uk
|
|
|
|
|
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|