 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
'Paprika' - Bwyty Newydd yn y Bae
Er ei bod yn noson oer o Dachwedd mentrodd llawer o Gymry Cymraeg Caerdydd i noson agoriadol swyddogol ty bwyta newydd 'Paprika' yn Stryd Bute, Bae Caerdydd. Roedd tua 60 o bobl wedi cael y fraint o gael gwahoddiad gan berchnogion 'Paprika', y Cynghorydd Mohammed Sarul Islam a'i bartner busnes, Faiz Belal. Roedd y fwydlen yn cynnig amrywiaeth eang - o gig oen i samosa llysieuol a chyri blodfresych. Roedd pob dim yn flasus iawn ac yn tynnu dwr i'n dannedd! Yn wir, aeth llawer yn ôl am ail blataid! Profiad dymunol oerdd gweld croestoriad o bobl o gymaint o wahanol gefndiroedd yn bwyta ac yn cael hwyl yng nghwmni Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Delme Bowen, a agorodd y noson drwy dorri'r ruban a chroesawu ty bwyta 'Paprika' yn rhan o fywyd cymdeithasol Caerdydd. Mae 'Paprika' mewn lleoliad delfrydol yn agos i Ganolfan y Mileniwm - yn addas iawn am bryd blasus cyn neu wedi sioe. Gallaf eich sicrhau y cewch groeso cynnes gan y perchnogion a chyfle i flasu yr holl ddanteithion y mae 'Paprika' yn eu gynnig. Iechyd da! Siân Couch
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
O'r chwith: Mohammed Sarul Islam, Delme Bowen a Faiz Belal
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llongyfarchiadau i Sara Gwilym, Caerdydd a Rhys Thomas, Caerffili ar eu dyweddïad. Mae Sara yn ferch i Carys Williams a'r diweddar Barchedig Meurwyn Williams, a Rhys yn fab i Eyron a Denise Thomas, Penpedairheol.
Llongyfarchiadau i Lisa Gwyneth a Jonathan Richard Saunders o Fferm Ty Canol, Caerffili ar enedigaeth Samuel Richard, brawd bach i Tomos John.
Llongyfarchiadau i Siôn Young ar ennill Pencampwriaeth Tennis Bwrdd i
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ddynion yng Nghlwb David Lloyd yn ddiweddar. Mae Siôn yn ddisgybl ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Glantaf.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llongyfarchiadau i Margaret a Gwynne Evans, Y Rhâth, ar enedigaeth eu hwyres Gwyneth Gregory, plentyn cyntaf i Angharad a James, a chyfnither i Rhys, Elis, Betsan, Elian, Awen, Aeron, Megan a Cai. Ganed Gwyneth yn Vancouver ar Dachwedd 18fed.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
GORSEDD Y WLADFA'N ANRHYDEDDU GWILYM
Llongyfarchiadau cynnes i Gwilym Roberts, Rhiwbeina, ar gael ei wneud yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Chubut, Patagonia, yn ddiweddar. Gwyddom oll am gyfraniad nodedig Gwilym i feithrin cysylltiadau â'r Wladfa. Yn yr un seremoni yn y Gaiman anrhydeddwyd Maelor Jones a Sonia Evans, ewythr a modryb Veronica Paola Jones de Kiff, Parc y Rhath.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|