<< Dewisiadau

Tudalen Nesaf >>

Rhagfyr 2004  Ionawr 2005

PAPUR BRO DINAS CAERDYDD A'R CYLCH

Rhif 294

DATHLU AGOR CANOLFAN MILENIWM CYMRU

ARIAN I'R AELWYD HAMDDEN

Wedi deng mlynedd o gynllunio agorwyd Canolfan Mileniwm Cymru - y ganolfan gelfyddydol bwysicaf yng Nghymru erioed - ddydd Gwener 26 Tachwedd. Cynhaliwyd penwythnos cyfan o ddigwyddiadau i ddathlu'r achylsur a denodd yr agoriad, ynghyd â chyfleusterau a phensaernïaeth ryfeddol yr adeilad newydd, sylw helaeth gan y cyfryngau Cymraeg a Saesneg. Dyma gam allweddol pellach yn y broses o gadarnhau datblygiad Bae Caerdydd yn ganolfan genedlaethol i'r celfyddydau a democratiaeth.
   "Bwriad y prif bensaer oedd creu adeilad a fyddai'n apelio at Gymru gyfan, nid yn unig pobl Caerdydd a'r cymoedd," meddai Rhian Evans o gwmni peneseiri Capita Percy Thomas
- gobaith a adleisiwyd gan Brif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, yn y seremoni agoriadol. Wedi ymweld â'r Ganolfan yn ystod diwrnod agored "Croeso i Ganolfan Mileniwm Cymru" ddydd Sadwrn 27 Tachwedd, teimlai Eleri Rogers, Croes Cyrlwys, fod y gobaith hwn eisoes wedi'i wireddu: "Roedd y byd a'i bobol yno," meddai. "Gwelais deuluoedd cyfan o bob rhan o Gymru, pob un yn teimlo bod y lle'n perthyn iddyn nhw. Roedd y lle'n hollgynhwysol. Roedd gwên ar wyneb pawb a phob un mor eithriadol o falch o Gymrecitod y cyfan." Wrth gyfeirio at y defnyddiau Cymreig arbennig sy'n nodweddu'r adeilad meddai Eleri, "Rydych chi'n teimlo bod y defnyddiau Cymreig yn eich anwesu chi. Mae'r lle'n gartrefol, er ei fod mor enfawr." 
   Canolbwynt yr adeilad yw'r brif theatr, sef Theatr Donald Gordon.  I ddathlu'r agoriad, cynhaliwyd dwy gyngerdd yno. 

Mr Jeff James ac aelodau o Bwyllgor Aelwyd Hamdden Cymry Caerdydd yn derbyn y siec gan Mr Owen John Thomas AC.

Derbyniodd Aelwyd Hamdden Cymry Caerdydd gymhorthdal gan raglen loteri Arian i Bawb Cymru. Bwriedir defnyddio'r arian i drefnu teithiau i aelodau'r Aelwyd ac i brynu offer ffotograffiaeth ac arddangos lluniau.   
   Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor yr Aelwyd, Mr Howard Spriggs, "Rydym yn falch iawn o'r arian yma a fydd yn galluogi ein haelodau, nifer ohonynt ag anawsterau teithio oherwydd oedran ac anabledd, i ymweld â mannau diddorol. Roedd y drefn ymgeisio yn hawdd a chyflym - rwy'n argymell y rhaglen grantiau
Arian i Bawb Cymru i unrhyw un."

Cyngerdd Cymru i'r Byd oedd y gyntaf - cyngerdd i ddathlu gyrfaoedd pump o artistiaid amlwg Cymru a'u cyfraniad i fyd cerdd, theatr a ffilm.  Y pump a gafodd eu hanrhydeddu oedd y gantores a'r Fonesig Shirley Bassey, yr actores Siân Phillips, y soprano a'r Fonesig Gwyneth Jones, y cyfansoddwr Alun Hoddinott a'r diweddar Richard Burton.  Cafodd Rhodri ab Owen o Benylan gyfle i ganu yn y gyngerdd gyda chôr CF1 a bydd yn cofio'r diwrnod am byth.  "Roedd yn brofiad gwefreiddiol gan mai'r gyngerdd agoriadol oedd hi," meddai. "Roedd gweld y lle'n llawn yn dod â dagrau i'm llygaid."   
   Wedi canu awyr agored a sioe dân gwyllt wych nos Sadwrn cynhaliwyd ail gyngerdd y penwythnos
- Gala Frenhinol Llwyfan i'r Byd - ar nos Sul 28 Tachwedd. Ymhlith y sêr a gyfrannodd at gyngherddau'r dathlu roedd Bryn Terfel, Dennis O'Neil, Mathew Rhys, Catrin Finch, Derek Jacobi, Syr Ian McKellen, Jonathan Pryce, Michael Ball, Nana Mouskouri, Robert Hardy a Ruth Madoc. 
    Bydd y Ganolfan newydd yn gartref cyffrous i saith o gwmnïau a sefydliadau celfyddydol sef:
Yr Academi Gymreig (Asiantaeth Hybu Llenyddiaeth Genedlaethol Gymreig a'r Gymdeithas Awduron)
Diversions: Cwmni Dawns Cymru
Opera Cenedlaethol Cymru
Touch Trust (therapy cyffwrdd a symud i blant ac oedolion ag anableddau dwys)
Ty Cerdd ("dod â byd o gerddoriaeth i Gymru a cherddoriaeth Cymru i'r byd")

Theatr Hijinx (yn mynd â'r theatr broffesiynol i gymunedau trwy Gymru a Lloegr)
Urdd Gobaith Cymru: gwersyll ddinesig newydd sbon.
   Ar du blaen y Ganolfan mae ffenestri hynod ar ffurf geiriau Cymraeg a Saesneg Gwyneth Lewis, y bardd o Gaerdydd: "Creu gwir fel gwydr o ffwrnais awen" a "In these stones horizons sing"
- yn mynegi'r dyheadau o ran posibiliadau creadigol y cyfleusterau newydd i'r amrywiol gwmnïau preswyl a fydd yn awr yn eu defnyddio.
   "Byddwch barod i gael eich ysbrydoli" yw'r neges i ninnau ar glawr rhaglen tymor agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru. Am fwy o wybodaeth ffoniwch y Swyddfa Docynnau a Gwybodaeth, 08700 40 2000, neu ewch i wefan y Ganolfan: www.wmc.org.uk

Tudalen Nesaf >>