|
Llongyfarchiadau i …
… Menna Davies wrth ddathlu apwyntiad ei nai, Philip, sef mab ei brawd Hugh Jones, fel archddiacon Lewes a Hastings.
… Brengain ac Aron Evans, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, ar enedigaeth Luned Rhys, chwaer i Elan, Rhiannon a Gwern, wyres i Ruth a Meic Stephens, Yr Eglwys Newydd, a Glenys ac Anthony Evans, Tongwynlais.
…Rachel Jones, gynt Garside, a'i gwr Richard, ar enedigaeth efeilliaid Mostyn Taf a Macsen Meredith yn Ysbyty Glangwili ar y 29ain o Fedi, brodyr bach i Ceri John ac wyrion i Peter a Marian Garside, Rhiwbeina.
… i Morgan Siôn, a anwyd ar 17 Hydref yn Ysbyty Llandochau, mab i Stuart Wilce ac Eleri Wyn Owen, Ystum Taf. Wyr cyntaf i Elwyn a Lyn Owen, Rhiwbeina.
… Tomos Edwards a Rebecca Ellis Owen ar eu priodas ar y 27ain Awst yn Eglwys Dewi Sant. Merch hynaf Arwel a Margaret Ellis Owen, Creigiau, ydy Rebecca ac mae Tomos yn fab i Elinor Talfan Delaney, Llundain, a'r diweddar Lyn Edwards gynt o Riwbeina. Mae'r ddau wedi ymgartrefu yn Llundain.
… Rhian Heledd Jones ac Adrian Boyce ar eu priodas ym mis Awst. Cynhaliwyd y gwasanaeth yng Nghapel Noddfa, Bow Street. Mae'r ddau wedi ymgartrefu yng Nghoedlan Granville, Parc Fictoria, ac mae Rhian Heledd yn athrawes yn Ysgol Gymraeg Treganna.
… Tony a Myra Ford ar ddathlu eu priodas Ruddem ar ddechrau mis Hydref.
|
|