 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Taith Sain yr Amgueddfa Genedlaethol
Mae rhai o leisiau enwocaf Cymru yn adrodd stori trysorau ein cenedl ar Daith Uchafbwyntiau Sain ddwyieithog newydd yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol. Mae'r cast nodedig o leisiau - Mathew Rhys, Philip Madoc, John Ogwen, Siân Philips, Daniel Evans ac Alun ap Brinley, yn datgelu'r straeon sydd y tu ôl i'r casgliadau celf ac archaeoleg fyd-enwog. Mae'r daith yn rhoi cyflwyniad i'r Amgueddfa a'i hanes, gorolwg thematig o'r orielau a sylwebaeth ar weithiau unigol. Gallwch gasglu'r pecynnau o'r ddesg Teithiau Sain ym mhrif neuadd yr amgueddfa. Mae'r daith yn para rhyw awr a hanner. Dylai grwpiau o fwy na 10 o bobl ffonio (029) 2057 3325 neu e-bostio post@aocc.ac.uk
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
Mae Twf wedi cynhyrchu gwefan newydd - www.twfcymru.com Byddwch yn cwrdd â Dil, Dan, Tomos a Teleri sef cymeriadau Twf. Gallwch chwarae gemau sef
|
|
|
|
|
|
 |
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cydymdeimlo â .. … Margaret Russell a'r teulu ar farwolaeth ei gwr yr Athro Allan Denver Russell yn Ysbyty'r Brifysgol ar y 13eg Hydref wedi cystudd byr.
… Hopkin Rees a'i deulu yn Rhiwbeina ar farwolaeth ei wraig Janice, cyn brifathrawes Ysgol Adamsdown a Thornhill wedi hynny. Brwydrodd yn hir yn erbyn canser ond bu farw ym mis Medi yn 62 oed.
…Michael a Carys Jones-Pritchard ar farwolaeth eu tad John Alick Jones-Pritchard yn ysbyty'r Brifysgol. Roedd yn daid i Sian, Rhys, Gareth, Aled a Rhodri ac yn hen daid i Joe. Blynyddoedd yn ôl bu'n weithgar hefo Clwb Nofio Dinas Caerdydd, MARW ANDREW O'NEILL
Ar ôl dioddef cystudd hir bu farw Andrew O'Neill yn 45 oed yn Ysbyty Brenhines Elizabeth Birmingham. Bu'n byw yn Nhreganna Caerdydd ond brodor o Bontarddulais ydoedd, yn fab i Eva a'r diweddar Dr William O'Neill ac yn frawd i Dennis, Elizabeth, Patricia, Doreen a Sean. Cafodd yrfa ddisglair fel myfyriwr yn King's College Caergrawnt ar ôl ennill ysgoloriaeth gerddorol yno, ac yn ogystal â bod yn rheolwr Cerddofra Genedlaethol Ieuenctid Cymru cynhyrchiodd lawer o raglenni gerddorol ar gyfer y BBC ac S4C. Cydymdeimlir yn fawr â'r teulu ar eu colled.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
'Cymharu'r Siapiau'. 'Enwch yr Anifail' a 'Gêm Lliwio'. Bydd oriel yn cynnwys lluniau doniol ac adran o storïau addas ar gyfer plant.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
SYMUD SWYDDI …
Dr Adrian Price o Lanilltud Faerdre fydd yn gyfarwyddwr newydd Canolfan Iaith Prifysgol Caerdydd. Bydd yn gadael ei swydd bresennol ym Mhrifysgol Morgannwg i ddod i Gaerdydd.
Ar ôl bod yn y swydd ers 1994 mae Huw Jones, Pennaeth S4C, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y cwmni ar ddiwedd 2005
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhagor o Lywyddion Cymraeg
Hoffwn bwyntio allan camgymeriad yn eich papur bro, Hydref 2004 (Rhif 292). Ar dudalen 3 mae erthygl am Llywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Honnwyd taw Gary Rees yw'r Cymro Cymraeg cyntaf ers saith mlynedd i'w ethol i'r swydd - nid yw hyn yn gywir. Roeddwn i, Elin Mair Price (bellach wedi priodi), yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd rhwng 1999 a 2000. Rwy'n Gymraes efo Cymraeg iaith gyntaf o Lanwrtyd ym Mhowys ac wedi fy addysgu yn yr Uned Gymraeg yn Ysgol Gynradd Llanwrtyd ac yna yn Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa, Cefneithin. Gyda diolch,
Elin Mair Mabbutt Rheolwr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|