|
Ar Dachwedd 26ain bydd penwythnos o ddathlu agoriad Canolfan Mileniwm Cymru yn dechrau, gyda'r adeilad yn agor ei drysau i'r cyhoedd am 10 o'r gloch ar fore Sadwrn Tachwedd 27ain. Bydd y Ganolfan yn cymryd ei le ymysg canolfannau perfformio gorau'r byd a does dim dwywaith y bydd yr adeilad yn dod yn un o eiconau'r brifddinas yn fuan. Conglfaen yr adeilad yw theatr Donald Gordon, sydd â 1900 o seddi, ond mae ynddi hefyd theatr stiwdio 250 sedd yn ogystal â Gwersyll yr Urdd a stiwdio recordio. Bydd yr adeilad ar agor i bobl ddod i mewn i fwynhau perfformiadau am ddim yn y prif gyntedd dwywaith y dydd, yn ystod yr awr ginio ac ar ôl gwaith; yn y cyntedd hefyd bydd caffi, bistro a siop, i gyd ar agor o 10 o'r gloch y bore bob dydd fel arfer. Yn ogystal â'r Urdd bydd Opera Cenedlaethol Cymru, cwmni dawns Diversions, Theatr Hijinx, Touch Trust, Ty Cerdd ac Academi yn symud i'r Ganolfan. Bydd dathliadau'r agoriad yn dechrau ar brynhawn dydd Gwener, Tachwedd 26ain, pan fydd allwedd drysau'r adeilad yn cyrraedd y Bae ar ôl ei thaith o gwmpas y byd i hyrwyddo'r Ganolfan. Ar nos Sadwrn y 27ain bydd 4000 o gantorion yn perfformio yn Roald Dahls Plass (y Basn Hirgrwn) a'r gobaith yw daw miloedd i'r Bae i ymuno yn y canu a mwynhau'r sioe tân gwyllt arbennig. Ar nos Sul y 28ain bydd Sioe Gala yn y Ganolfan. Cyhoeddwyd rhaglen y misoedd cyntaf yn ddiweddar ac ymysg y pethau i'w mwynhau yn ystod flwyddyn gyntaf mae tymor o operâu gan Gwmni Opera Cymru, Cirque Eloize, cwmni ballet y Kirov a'r sioe gerddorol boblogaidd Miss Saigon. Mae tocynnau i'r sioeau cyntaf, a rhagor o wybodaeth am y Ganolfan a sioeau yn y dyfodol, ar gael o'r llinell docynnau 08700 402000 ac ar ei safle we www.wmc.org.uk .
|
|