 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Côr Canna ar y brig eto!
Hyd yn hyn, mae 2004 wedi bod yn flwyddyn brysur a llwyddiannus iawn i Gôr Merched Canna. Dros wyliau'r Pasg bu 35 o aelodau'r côr ar daith pum niwrnod
|
|
|
|
|
|
 |
|
 |
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cymro Cymraeg yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Etholwyd Gary Rees o Bontarddulais yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd 2004/05. Gary yw'r Cymro Cymraeg cyntaf ers saith mlynedd i'w ethol i'r swydd. Mae Gary yn un o'r wyth o Swyddogion Sabathol a etholwyd i ffurfio gweithgor yr Undeb eleni, ef yw'r unig un sy'n medru'r Gymraeg. Ers ei ethol ym mis Mai mae Gary wedi bod yn cydweithio'n agos â Swyddog Materion Cymreig UCM (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr) er mwyn cynllunio arddangosfa ddwyieithog o weithgareddau'r Undeb er mwyn addysgu myfyrwyr newydd. 'Rwyf am gyflwyno'r iaith mewn ffurfiau newydd a chyffrous i'r myfyrwyr di-Gymraeg a darparu gweithgareddau Cymraeg i bawb eu mwynhau' meddai. Mae Gary am weld parhad tudalen Gymraeg papur y myfyrwyr, 'tafod' ac am weld dathliad go iawn o Ddydd Gwyl Dewi. Mae Gary'n benderfynol y bydd yr Undeb yn lle cwbl ddwyieithog. Mae Gary hefyd yn trefnu y bydd bandiau Cymraeg yn chwarae yn y Rali a gynhelir ar yr ail o Ragfyr yn erbyn ffioedd ychwanegol i fyfyrwyr. 'Bydd cynnyrch o Gymru yn cael eu gwerthu yn y siop yma hefyd' meddai. Yn awyddus iawn i gydweithio â'r Gymdeithas Gymraeg (GymGym) yn ogystal, mae'n argoeli'n flwyddyn Gymreig i Undeb Myfyrwyr Caerdydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae croeso cynnes iawn i aelodau newydd ymuno â ni. Rydym yn ymarfer yn Salem bob nos Lun am 7.30yh. Cysylltwch â Delyth Medi ar 029 2025
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
i Sbaen. Cawsom groeso cynnes iawn gan bobl y Costa Blanca yn enwedig yn y ddwy gyngerdd a berfformiwyd gennym. Wrth ein hannerch ar ddiwedd yr ail gyngerdd, galwodd y Maer lleol ni yn "angylion ar y ddaear"! Efallai bod y canu yn angylaidd ond bu digon o ymlacio a joio Tapas a Sangria hefyd!! Ddechrau mis Gorffennaf, cafodd y côr lwyddiant ysgubol yng Ngwyl Fawr Aberteifi. Ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y corau merched yn y prynhawn ac yna mynd ymlaen i ennill Côr y Corau gyda'r nos - tipyn o gamp pan oedd bron i 30 o gorau yn yr Wyl i gyd! Daeth y gystadleuaeth honno â £1000 i'r coffrau yn ogystal â medal arbennig i'n harweinyddes, Delyth Medi Lloyd. Ym mis Awst aethom i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Braf oedd gallu ymarfer ar fore'r gystadleuaeth yn ein cartref arferol yng nghapel Salem, Treganna, cyn teithio'r ychydig filltiroedd i'r maes. Mae'n rhaid bod Salem wedi dod â lwc i ni oherwydd Côr Canna ddaeth i'r brig allan o 7 o gorau merched! Cawsom feirniadaeth wych gyda'r beirniad yn dweud ein bod mewn categori ar ein pennau ein hunain. Llongyfarchiadau mawr i holl aelodau'r côr a diolch am eich gwaith caled - yn enwedig felly i Delyth. Rhaid diolch hefyd i Kim Morgans, ein cyfeilyddes a dderbyniodd glod uchel iawn gan y beirniad. Y tro hwn cawsom £750, cwpan i'w dal am flwyddyn a chafodd Delyth fedal arall at ei chasgliad! Ar hyn o bryd rydym yn brysur yn ymarfer ar gyfer adran y corau merched yng nghystadleuaeth Côr Cymru. Cynhelir y rownd gyntaf ym mis Hydref, yr ail ym mis Chwefror a'r rownd derfynol ym Mis Mawrth. Gan fod angen rhaglenni cerddorol diddorol a gwahanol mwy neu lai ar gyfer pob rownd, mae digon o waith caled o'n blaenau!
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gweinidog am 50 Mlynedd
Llongyfarchiadau i'r Parchedig Milton a Mrs Rita Jenkins, Parc y Rhâth, Caerdydd ar ddathlu hanner canrif yn y Weinidogaeth. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gwefreiddiol yng nghapel Tonyfelin, Caerffili ddydd Sul, y 19eg o Fedi, heb anghofio'r pryd bwyd amser cinio yn Bryn Meadows, Maesycwmer. Roedd nifer o ddarllenwyr Y Dinesydd yno ac yn cymryd rhan yn y dathliadau. Bydd rheswm pellach i ddathlu a diolch ar yr ail o Dachwedd - priodas aur...
Gwilym Dafydd
Canwyd y geiriau isod gan blant Tonyfelin, Caerffili yn oedfa Ddathlu'r Parchedig Milton Jenkins:
Ein Mr J. Daethom yma heddiw i ddathlu 'da Mr J., hanner canrif o bregethu gan Mr. J.. Ffyddlon fu i'r Arglwydd Iesu wrth fedyddio a chenhadu, wrth fugeilio'i braidd a'u dysgu ein Mr J..
Bu yn dilyn tîm Llanelli, ein Mr J., ers yn grwtyn llawn direidi ein Mr J.. Ond fe welodd y goleuni, nawr mae'n gyson yn cefnogi gwyrddion glew hen dref Caerffili ein Mr J..
Eirian Dafydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
AMSER STORI
Mae TWF yn trefnu Amser Stori(wythnosol) ar gyfer plant 0-5 oed bob bore Gwener am 10.30 yb. yn llyfrgell yr Eglwys Newydd, Ffordd y Parc. Mae llyfrgell Rhiwbeina a Threganna hefyd yn awyddus i ail gychwyn ei Amser Stori cyn gynted â phosib. Amser Stori Rhiwbeina: Bob bore Iau am 10.30 yb Amser Stori Treganna: Bob prynhawn Mercher am 2.15 yp. Mae angen grwp o wirfoddolwyr/rhieni ar rota sy'n medru'r iaith neu sy'n dysgu i ddarllen stori syml i'r plant. Mae'r llyfrgell yn darparu gweithgaredd i gyd-fynd â'r llyfr. Os oes gennych chi ddiddordeb cysylltwch â Catrin Saunders ar 20651580.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|