<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Hydref 2004

PAPUR BRO DINAS CAERDYDD A'R CYLCH

Rhif 292

Yr Urdd yn symud!

Apêl am Arweinydd a Chyfeilydd

A fyddech chi'n hoffi arwain côr, neu gyfeilio? 
   Ydych chi efallai'n aelod o gôr eisoes? Does dim angen i chi fod â phrofiad na chymhwyster, ond digonedd o frwdfrydedd!  Mae Côr Plant Caerdydd yn chwilio am arweinydd newydd yn ogystal â chyfeilydd a fyddai'n medru cymryd yr awenau yn y flwyddyn newydd.  Cyfle gwych i fwynhau perfformio, i deithio'n helaeth ac i gael hwyl.  Beth amdani?
   Peidiwch â bod yn swil - cynigiwch eich hun neu aelod o'r teulu neu ffrind.  Efallai yr hoffai dau/dwy ffrind wneud ar y cyd, un yn cyfeilio a'r llall i arwain. 
   Mae dyfodol y côr yn y fantol, ac efallai mai gennych chi y mae'r datrysiad!  Am fwy o wybodaeth trowch at erthygl 'Côr Plant Caerdydd' ar dudalen  11.

Mae prif swyddfa'r Urdd yn symud o Heol Conwy, Pontcanna i Ganolfan Mileniwm Cymru yn y Bae ar 11 Hydref.  Bydd atgofion melys gan nifer helaeth o ddarllenwyr Y Dinesydd o'r hen adeilad, a fu'n galon i gymaint o weithgarwch diwylliannol

Mileniwm, y Cynulliad, Techniquest, Sain Ffagan, Yr Amgueddfa Genedlaethol, Pwll Mawr, Castell Coch, Castell Caerdydd a llawer mwy.  Gall ieuenctid Cymru hefyd weld sioe, gêm bêl-droed, criced, rygbi neu hoci iâ ac mae prisiau arbennig i'r rhai sy'n aros yn y Gwersyll i weld y ffilmiau diweddaraf, bowlio 10 a defnyddio holl gyfleusterau Pentref Hamdden Atlantic Wharf.
    Gall pobl ifanc De Ddwyrain Cymru ymweld â'r Gwersyll heb breswylio gan fynychu sesiynau celfyddydol wythnosol, teithiau o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru a'r cyfle i berfformio yn yr adeilad ar nosweithiau y Cyngherddau Mawr.  Bydd y ganolfan hefyd yn gartref newydd i Ddawnswyr a Chôr Caerdydd.
   Mae'r tîm rheoli eisoes wedi eu penodi gydag Alun Owens, gynt o Lan-llyn, yn Gyfarwyddwr, Tim Edwards o Rydaman yn Ddirprwy, Hywel Roberts o Bentyrch yn Swyddog Ieuenctid a Sandra Jones, sydd eisoes yn gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd, yn Rheolwr Cegin a Llety. Am fwy o fanylion cysylltwch â'r Gwersyll ar y rhif ffôn newydd 02920 635678.

trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas.  Felly o hyn ymlaen, os am gartref i glwb neu gwyno am gam eisteddfodol, y bae yw'r lle i fynd! 
    Bydd prif Wersyll cyntaf yr Urdd am dros hanner can mlynedd yn agor ei ddrysau ar Dachwedd 26ain, 2004.  Mae'r Gwersyll yn rhan o adeilad hynod gyffrous Canolfan Mileniwm Cymru a bydd yn cynnig profiadau celfyddydol unigryw a chyfle i aelodau'r Urdd ymweld â holl atyniadau prifddinas Cymru.
    Mae lle i 153 o bobl aros dros nos yn y Ganolfan mewn ystafelloedd
en-suite ac mae yno hefyd neuadd/theatr, lolfeydd, ffreutur ac ystafelloedd dosbarth.  Crëwyd y Gwersyll gyda diogelwch plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth.     Bydd cyrsiau arbenigol celfyddydol yn y Gwersyll, ond byddwn hefyd yn trefnu ymweliadau i bob math o lefydd yng Nghaerdydd a'r ardal.  Bydd cyfleoedd i ymweld â Stadiwm y

CYFARFOD CYFFREDINOL
BLYNYDDOL
Y DINESYDD

Cyfarfod cyhoeddus sy'n agored i holl siaradwyr Cymraeg Caerdydd a'r cyffiniau

Nos Iau, 18 Tachwedd 2004, am 7.30 p.m.
yng nghapel Bethel, Maesyderi, Rhiwbina.

Croeso cynnes i bawb.

Dewch i gwyno!
Dewch i gefnogi!

ARDDANGOSFA

Bydd arddangosfa o ddarluniau diweddaraf Aneurin a Meirion Jones i'w gweld yn Oriel Washington, Ffordd Stanwell, Penarth rhwng y 10ed a'r 27ain o Hydref. Gelwir yr arddangosfa yn 'Goleuni'. Bydd llawer o'r lluniau yn gysylltiedig â gwaith Waldo Williams a aned ganrif yn ôl i'r flwyddyn hon. Agorir yr arddangosfa gan Dafydd Ellis Thomas, ar y 10fed o Hydref am 4 o'r gloch. Yn ogystal bydd M. Wyn Thomas CREW yn siarad am waith Waldo Williams yn ystod y noson. www.washgallery.co.uk

Tudalen Nesaf >>