<< Dewisiadau

Tudalen Nesaf >>

HWYL A LLWYDDIANT YR EISTEDDFOD


Roedd Eisteddfod Casnewydd yn llwyddiant ysgubol mewn llawer ffordd ac enillwyd llu o wobrau gan yr ardal hon. Ond mae'n siwr mai pobl Casnewydd a'r cylch sy'n haeddu'r brif wobr am gynnal gwledd o Eisteddfod ar garreg ein drws.
   Trwy gydol yr wythnos roedd y maes yn fwrlwm o weithgareddau ar gyfer plant a phobl o bob oed.  Cafwyd gwledd o ganu, dawnsio, trafod, cystadlu, sgwrsio a dadlau mewn môr o Gymreictod. Roedd  trefniadau y bariau ar y maes wedi ychwanegu at y lluniaeth o fwyd a diod heb amharu dim ar yr awyrgylch.
   Y tristwch nawr yw bod yr Eisteddfod yn dioddef yn ariannol oherwydd y cam dewr o fynd i Went ac oherwydd y gostyngiad yn y grant craidd oddi wrth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith. Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod, R. Alun. Evans, wedi lansio apêl i holl garedigion yr Eisteddfod wneud cyfraniad hael i gefnogi a sicrhau parhad ein Prifwyl.   
   Danfonwch eich sieciau i Swyddfa'r Eisteddfod, 40 Parc Ty Glas, Llanisien, Caerdydd. CF14 5WU.

BUSNESAU CYMRAEG YN DATBLYGU

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nifer o fusnesau newydd wedi cychwyn yn yr ardal a'u perchnogion yn siarad Cymraeg ac am i'r Gymraeg fod yn rhan bwysig o'r gwasanaeth. Yn ddiweddar agorwyd siop goffi ffa yn Radyr gan Kevin Davies. Mae'r siop yng nghanol y pentref, yn cynnig dewis o fwydydd poeth ac oer ac yn ddeniadol a chyfforddus i ymwelwyr a phobl leol.
   Hefyd yn y rhifyn hwn gallwch ddarllen am  gwmni newydd AmSbri sydd yn cynnig gwasanaeth i drefnu popeth ar gyfer parti i'ch plant. 

Kevin Davies, siop goffi ffa

    Os ydych chi'n gywbod am wasanaeth Cymraeg newydd rhowch wybod i'r Dinesydd. Erbyn hyn mae lefel uchel o arbenigedd gwasanaeth i'w gael ymhob maes drwy gyfrwng y Gymraeg.

Tocynnau'n Gwerthu'n Gyflym

Mae tocynnau ar gyfer un o atyniadau newydd Caerdydd yn gwerthu'n gyflym Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn agor ym mis Tachwedd ac mae tocynnau ar gyfer rhai perfformiadau o dymor cyntaf Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn ei gartref newydd wedi gwerthu i gyd.
   Hefyd mae'r Urdd yn agor canolfan newydd yn yr adeilad fydd yn darparu llety i dros 150 o bobl. Yn ôl Alun

Owens, Cyfarwyddwr Canolfan yr Urdd, bydd 10,000 o blant yn dod i aros am wyliau byr a rhai wythnos o hyd bob blwyddyn. Yn ystod yr amser yma fe fyddan nhw'n creu perfformiadau, yn ymuno â gweithdai gaiff eu cynnal gan gwmnïau preswyl celfyddydol eraill gan gyflwyno'u gwaith i'r cyhoedd. Yn 2005 cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yno

MERCHED Y WENALLT

Lusa Glyn a Sian Powis yn dathlu ar ôl i Merched y Wenallt ennill y gystadleuaeth Côr Llefaru dros 16 o leisiau

Y Cwpan yn nwylo Delyth Medi, Arweinydd Côr Canna

Tudalen Nesaf >>