<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

3

YR WYL YN HWYL YN YR HAUL


"Mi fydd heddiw'n braf a chynnes".

Mae clywed geiriau felly ar raglen Y Post Cyntaf yn ddigon i lonni calon unrhyw un, ond yn enwedig trefnwyr Gðyl Mudiad Ysgolion Meithrin Caerdydd eleni. Daeth 15 o gylchoedd ynghyd; 500 o blant y cylchoedd, eu brodyr, eu chwiorydd, a - diolch byth - eu gofalwyr a'u rhieni!

Fel y gðyr darllenwyr Y Dinesydd, prif faen tramgwydd caredigion yr iaith yn y brifddinas yw prinder cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i furiau'r cylch a'r ysgol.  Bwriad yr ðyl yw dangos i blant ifanc bod y Gymraeg yn iaith ar gyfer cymdeithasu.

Roedd hefyd yn gyfle i nifer ohonyn nhw ymweld ag Amgueddfa'r Werin am y tro cyntaf, gyda chreaduriaid ffarm Llwyn yr Eos yn arbennig o boblogaidd.  Yn ogystal â'r rheini, trefnwyd atyniadau arbennig ar gyfer y plant.  Roedd dau storïwr, Mansel Thomas a Michael Harvey o'r Tyllgoed yn creu arswyd a digrifwch, pypedau Vicky Edmunds yn ðyl ynddynt eu hunain, Megan Evans a'r Criw Byw Bach yn fywiog iawn, a Franco'r
mime artist yn mudchwarae'n hynod.  Ac roedd pob un ohonyn nhw'n perfformio yn y Gymraeg (ar wahân i'r mime artist, ond mi gafodd faddeuant). Ar ddiwedd y cyfan, daeth pawb ynghyd ar gae Cilywent i gydganu caneuon y cylchoedd, gyda Gwenda Owen yn arwain gyda asbri.

Diolch i bawb a fu mor weithgar yn sicrhau diwrnod i'w gofio - a'r cyfan, fel yr addawodd y Post Cyntaf, o dan haul crasboeth!

Huw Roberts.

Ysgol y Wern

Rygbi   
Ym myd y bêl hirgrwn mae Ysgol y Wern wedi profi llwyddiant ysgubol yn ddiweddar.   Cyrhaeddodd y tîm rygbi 10 bob ochr y rownd derfynol yng Nghystadleuaeth Genedlaethol yr Urdd ar Faes Parc y Strade ym mis Mai. Yn dilyn y llwyddiant yn Llanelli aeth y tîm ymlaen wedyn i ennill Cwpan Sinclair sef Cwpan Rygbi Ysgolion Caerdydd. Da iawn chi fechgyn!
   Braint fawr oedd cael clywed fod Ieuan Matthews (Blwyddyn 6) wedi cael ei ddewis i chwarae rygbi i dîm Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol yn yr Eidal.   

Y tîm rygbi yn dathlu.
Rhes gefn - Joe Rapson, David Young, William Roberts, Matthew Taylor, Kieran Brunker, Ieuan Matthews, Tathan McShane, Llþr Johnson. Rhes flaen - Rhys Broad, Dafydd Benham, Ieuan Benham.

Sgïo

Mae Jeni-Mared Thomas (Blwyddyn 6) wedi bod yn llwyddiannus iawn ar y llethrau. Hi yw Pencampwraig Sgïo Cymru. Llongyfarchiadau mawr i ti.

Diogelwch y Ffordd
Am y bumed flwyddyn yn olynol Ysgol y Wern yw Pencampwyr Diogelwch y Ffordd Caerdydd. Yn dilyn eu llwyddiant ysgubol yn y Sir, aeth y tîm ymlaen wedyn i gystadlu yn erbyn timoedd De Cymru ym Mhenybont. Llwyddodd y tîm i ddod yn ail. Tipyn o gamp!   Llongyfarchiadau i aelodau'r tîm sef Carys Jones, Louis Evans, Maisy Beard, Siôn Mullane a Matthew Jones.

Ieuan Matthews yn gwisgo crys Cymru. Mae Ieuan hefyd yn chwarae i dîm Dwyrain Cymru.

Hoci

Eleni mae tîm hoci'r ysgol yn amddiffyn eu teitl fel pencampwyr Cymru.   Maent unwaith eto eleni wedi llwyddo i gyrraedd y Rownd Olaf a fydd yn cael ei chynnal yn y Dre Newydd ym mis Gorffennaf. Pob lwc i'r tîm.

Rhes gefn - Jacob Eynon, Rhys Davies, Matthew Taylor, Dewi Roblin, Morgan Harries.
Rhes flaen - Catherine Hughes, Sarah Barker, Jeni-Mared Thomas, Nia Maclean ac Emma Gowman.

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Llwyd a Lisa Owen ar eu priodas ym Mae Cemaes ar 5 Mehefin  2004.   Cafwyd Penwythnos gwych ynghanol ffrindiau a pherthnasau.

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>