 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
PAPUR BRO DINAS CAERDYDD A'R CYLCH
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
NEWID BYD
Arweiniodd yr etholiadau lleol ar ddydd Iau 10 Mehefin at y newid mwyaf mewn chwarter canrif gyda'r Blaid Lafur yn colli rheolaeth o Gyngor Caerdydd am y tro cyntaf ers 1981. Roedd y cyngor oedd yn ymadael yn cynnwys 48 Llafur; 18 o Ddemocratiaid Rhyddfrydol; 5 o Geidwadwyr; 2 Plaid Cymru a 2 Annibynnol. Ar ôl i bethau dawelu ar brynhawn Gwener nid oedd gan unrhyw blaid wleidyddol reolaeth lawn o Gyngor y Brifddinas â'r Blaid Democratiaid Rhyddfrydol â 33 o aelodau yn cymryd lle'r Blaid Lafur (27) fel y blaid wleidyddol fwyaf. Enillodd y Ceidwadwyr 7 o seddau ychwanegol tra bo gan Blaid Cymru dri chynghorydd ar ôl eu llwyddiant cyntaf yng Nghaerdydd (ar wahân i Greigiau) ers llwyddiant Dafydd Huws yn y 1970au hwyr yn y Tyllgoed yn ennill dau o'r tair sedd yng Nglan-yr-afon Collodd yr unig Gynghorydd Annibynnol a oedd yn ymladd yr etholiad, y cyn brifathrawes Betty Campbell, y sedd yn ward Butetown o ddwy bleidlais i Vaughan Gething, yr ymgeisydd Llafur. Roedd y blwch pleidleisio yn gyfrifol am chwe aelod o'r cyn Gabinet Llafur yn colli seddau, gan gynnwys y Dirprwy Arweinydd Mrs Linda Thorne a Peter Perkins a oedd yn gyfrifol am y portffolio Addysg yng Nghaerdydd a De Morgannwg gynt ers 1989 pan ddaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Addysg yn lle Emyr Currie-Jones. Cadwodd yr Arweinydd Llafur, Russell Goodway, ei sedd yn Nhrelái o drwch blewyn, 62 o bleidleisiau, a chyflwynodd ei ymddiswyddiad o fewn 24 awr. Mae gwleidyddiaeth Cyngor Caerdydd yn y pair heb yr un blaid yn rheoli'n llawn. Mae'r misoedd nesaf, neu'r pedair blynedd yn arwain at yr etholiad nesaf hyd yn oed, yn dibynnu i raddau helaeth ar sut fydd y pedair plaid wleidyddol, a'u harweinwyr, Rodney Berman (Democratiaid Rhyddfrydol), Greg Owens (Llafur), Gareth Neale (Ceidwadwyr) a Delme Bowen (Plaid Cymru) yn dysgu cyd-fyw â'i gilydd er lles Caerdydd a'i thrigolion. Cyfnod diddorol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llwyddiant Ysgol Uwchradd Caerdydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Daniel O'Grady, Beth Smith a Patrick Bidder
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y gamp lawn i Nerys Roberts
Daeth myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Caerdydd yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd yng nghystadleuaeth medal y dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Patrick Bidder oedd ar y brig gyda Beth Smith yn ail a Daniel O'Grady yn drydydd. Yn ôl y beirniaid roedd gwaith buddugol Patrick, Y Ffidlwr, yn dangos "gafael cadarn ar iaith ein gwlad a'i lle yn nyfodol personol y cystadleuydd. Dyma waith
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
ysgrifenedig a sgwrsio mwya cyflawn ar draws ystod o ffurfiau yn y gystadleuaeth. Mae ganddo iaith naturiol, bywiog a llawn hyder" Patrick ydi prif fachgen Ysgol Uwchradd Caerdydd eleni ac mae wedi derbyn cynnig amodol i Goleg Sant Ioan Caergrawnt i astudio Athroniaeth. Mae'n aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Er mwyn gwella ei Gymraeg mae'n ymarfer siarad efo disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Bu hon yn gystadleuaeth arbennig o ffrwythlon i Ysgol Uwchradd Caerdydd ers rhai blynyddoedd bellach. Mae llwyddiant eleni yn binacl ar record rhagorol Ysgol Uwchradd Caerdydd ac yn arbennig gwaith ymroddgar ac arweiniad diflino Pennaeth Adran y Gymraeg, Mrs Nerys Roberts. Dros y blynyddoedd diwetha mae myfyrwyr Nerys wedi sicrhau tri cyntaf, chwech ail a dau drydydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Tipyn o gamp. Llongyfarchiadau i Nerys a'r myfyrwyr. Dymuna Patrick ddiolch i'w athrawes, am ei hanogaeth a'i chefnogaeth bob amser i wneud yn siwr ei fod yn parhau a'i addysg yn y Gymraeg.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
31 Gorffennaf - 7 Awst
Parc Tredegar, Casnewydd Cystadlaethau, Seremonïau, Arddangosfeydd, Celf a Chrefft, Theatr y Maes a llawer iawn mwy
MAES b Clwb TJ's Casnewydd ac Arena Byw y Ddinas. - y grwpiau diweddaraf bob nos am 9pm
maes c Clwb Whiteheads ger Parc Tredegar llenydda, chwerthin, dawnsio, yfed, cerddi, comedi, crac, joio bob nos am 8pm
www.eisteddfod.org
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|