 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
TÎM PÊL-DROED DAN 14 OED YR URDD CAERDYDD
Yn dilyn y siom o gael ei diraddio o Adran A i Adran B ar ddiwedd Tymor 2002-2003, daeth tro ar fyd i dîm pêl-droed dan 14 oed yr Urdd o Gaerdydd. Erbyn diwedd y Tymor yma (2003-2004) nid ydynt wedi colli'r un gêm yn Adran B gan orffen ar frig y Tabl, gyda dyrchafiad - hir ddisgwyliedig yn ôl i'w lle priodol yn Adran A. Yn ystod penwythnos hir - Gðyl y Banc ym Minehead cynhaliwyd cystadlaethau pêl-droed (dan faner clwb pêl-droed Caerlyr) ar gyfer dros 600 o blant, o bob oedran. Yng nghategori chwaraewyr o dan 14 oed, tîm yr Urdd oedd yn fuddugol, gan ennill pob gêm ond un, (gyda sgôr o 2-2 yn erbyn Worcester). Yr Urdd enillodd y tlws 'Chwarae Teg' hefyd, am eu hagwedd proffesiynol trwy gydol y gystadleuaeth a'r streiciwr, Tom Gilbert, (o'r Urdd eto!) a gipiodd y Darian am y symudiad gorau yn ystod y gemau.
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Sgwad yr URDD Joshua Payne, Miles Martyn, Hywel Dinnick, Sam Good, Luca Floris, Matthew Franks, Michael Alexander, Kane Amos, Jonathan Jones, Thomas Gilbert, Lewis Roberts, Huw Herrity, Siôn Walis, Rhys John, Sean Waldron, Ashley Parris, Dafydd Jenkins.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ar y cae bu'r tymor yn galed dros ben i'r bechgyn, ond tu ôl i'r llenni rhaid diolch am ymdrechion Mike Jones yr hyfforddwr am ei ymroddiad diflino, Darren Gilbert (Decorators) am noddi'r Tîm gyda 'Kit' a thrac wisg, ac i Rhian John am weinyddu'n wythnosol beth bynnag fo'r tywydd. Llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhan o'r llwyddiant. Ymlaen nawr fel uned i gyrraedd brig y Tabl yn Adran A erbyn diwedd tymor nesa'!
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
GIGS CYMDEITHAS YR IAITH YN EISTEDDFOD CASNEWYDD 2004
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Unwaith eto eleni bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal eu gigs yng nghanolfannau gorau ardal yr Eisteddfod. Mewn cydweithrediad â thrigolion yr ardal, mae'r Gymdeithas yn cynnig dau leoliad arbennig, gyda arlwy gerddorol gynhyrfus o'r safon uchaf fel arfer. Yn ogystal, er mwyn cynnig y fargen orau i bob Eisteddfodwr, mae'r Gymdeithas yn gobeithio na fydd pris mynediad unrhyw noson yn codi yn uwch na £5. Y cyntaf o'r canolfannau hyn yw Clwb Pont Ebw, sef y ganolfan agosaf i'r maes ieuenctid ac sydd o fewn pellter cerdded i holl ddigwyddiadau'r Eisteddfod. Ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio yno
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
fydd rhai o fandiau amlycaf Cymru, yn cynnwys Texas Radio Band, Pep le Pew, Kentucky AFC ac Anweledig. Yr ail ganolfan fydd y Clwb Gwyddelig yng Nghasnewydd sydd yn lleoliad hynod o boblogaidd o fewn y ddinas. Bydd rhai o hoelion wyth cerddoriaeth Gymraeg yn perfformio yn y ganolfan yma, yn cynnwys Meic Stevens, Dom, Bob Delyn a'r Ebillion a Geraint Lovgreen. Bydd Cymdeithas yr Iaith unwaith eto yn hybu talent newydd Cymru trwy gynnal cystadleuaeth Brwydr y Bandiau arbennig ble bydd cyfle i'r enillwyr berfformio ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|