<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

2

Y DINESYDD   MEHEFIN 2004

ISSN 1362-7546

Y Dinesydd
www.dinesydd.com

CROESAIR Rhif 48
gan Rhian Williams

Cyhoeddir Y Dinesydd gan Bwyllgor Y Dinesydd.
Fe'i cysodir gan gweHendre a'i argraffu gan 
Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.
Golygydd y rhifyn hwn:
Garwyn Davies
Golygydd y rhifyn nesaf:
Peter Gillard
NEWYDDION, ERTHYGLAU, ETC
Anfonwch ddefnyddiau ar gyfer rhifyn Gorffennaf 2004
erbyn 25 Mehefin at:

Peter Gillard, Ty Llwyd, Drope Rd., Sain Siorys, Bro Morgannwg CF5 6EP (Ffôn: 01446-760007).
neu at Gadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd:
Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (Ffôn: 029-2062-8754) ).

Ar Draws
1.  Yn dawel mae deall dyrys lestr (5)
4.  Gwesty mewn man ar hanner tyle (4)
8.  Gweddnewid gafr Nic i fod yn aderyn (7)
9.  Fel oenig gwamal yn ymdrechu (5)
10. Llyfr anorffenedig â dechrau newydd graenus (4)
11. Cudd goed ag enw diddiwedd i greu coeden arall (8)
13. Criafol cymysg heb ddim yn peri clwyf (6)
14. Mae'n wlyb, ac mae ôl gwag o gwmpas (6)
16. Nam gynt yn troi oddeutu'r hanner cant rhwng Meifod a Llansannan (8)
17. Deuparth ymdopi rywsut ag adar du a gwyn (4)
20.  Ffeindio y glaw mewn pydew Rwsiaidd (1,4)
21. Aderyn ag asgell hirach efallai? (7)
22. 'O! ___ fy llygaid i weled
  Dirgelwch dy arfaeth a'th air (MR) (4)
23. A yw hon yn ddidwyll? (5)
I Lawr
1.  Cip yn ôl ar y lle sy'n peri gwayw (5)
2.  'Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion,
___ ______ fydda'i grym;' (HEL) (2,10)
3.  A elli a thrap ar yn ail ddal cerpyn? (4)
4. Mae merch y plwyf yn hanner cestog (6)
5. Oes cyfle brau mewn tro yn y dref hon? (8)
6.  Arwain flodyn ar gyfeiliorn yn ddifeddwl (2,10)
7. 'Mae munud o edrych ar aberth y groes,
  Yn tawel ddistewi môr _____ fy oes (WE) (6)
12. '_______ a graslawn yw'r Arglwydd,
  Hwyrfrydig i lid i roi lle.' (WNW) (8)
13. O flaen gwr ystyfnig (6)
15. Yn fuan fe'i gwelir ym mreichiau llencyn hiraethus (3,3)
18. 'O dan y môr a'i donnau
  Mae llawer _____ dlos (JJW) (5)

Atebion i: 22 Heol Cae Rhys, Rhiwbina,
Caerdydd. CF14 6AN
i gyrraedd erbyn 22 Mehefin 2004.

Atebion Croesair Rhif 47
Ar draws:
1. Ysfa; 8. Croesgadau; 9. O gwrando; 10. Mellt; 12. Campus; 14. Parabl; 15. Cefnog; 17. Diddymu; 18. Euog; 19. Ac sy'n awr; 21. Y cwm tu draw; 22. Soddi.  I lawr: 2. Sy'n gwaredu; 3. Acer; 4. Poenus; 5. Sygolp; 6. Lladmerydd; 7. Punt; 11. Lle bu mawredd; 13. Penigamp; 16. Gwallus; 17. Diserch; 18. Eryr; 20. Naws.

Derbyniwyd 7 o gynigion ac ond 3 ohonynt yn hollol gywir.  Danfonir y tocyn llyfr at Margaret Jones, 4 Heol Iscoed, Rhiwbina.  Cafwyd y ddau ateb cywir arall gan H.O.Hughes, Pwllheli a Huana Simpson, Llansanwyr.

CALENDR

Anfonwch eitemau at Dr E. Wyn James. (Gweler uchod)

DERBYN A DOSBARTHU COPIAU

Os ydych am dderbyn Y Dinesydd drwy'r post, neu am gynorthwyo gyda'r doosbarthu cysylltwch â CERI MORGAN, 43 Australia Rd, Y Mynydd Bychan, CFl4 3BZ Ffon: 07774-816209

HYSBYSEBU

Mae 3,000 o gopiau o bob rhifyn o'r Dinesydd yn cael eu dosbarthu. Mae'n gyfrwng hwylus i gyrraedd cyfran uchel o Gymry Cymraeg y brifddinas.
   Os ydych am hysbysebu yn Y Dinesydd y mis nesaf cysylltwch â CERI MORGAN, 43 Australia Rd, Y Mynydd Bychan, CFl4 3BZ Ffôn: 07774-816209

CYNORTHWYO'N OLYGYDDOL

Gwaith tîm o wirfoddolwyr yw cynhyrchu a dosbarthu'r Dinesydd. Rydym bob amser yn croesawu pobl newydd i ymuno a'r tîm! Os ydych yn barod i gynorthwyo mewn unrhyw fodd - trwy gasglu newyddion, teipio erthyglau, golygu rhifyn, etc. - yna cysylltwch a Chadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd (Gweler uchod)

CYFRANNU'N ARIANNOL

Mae parhad Y Dinesydd yn dibynnu ar roddion gan unigolion a chymdeithasau. Mae ein Trysorydd, CERI MORGAN, yn croesawu pob rhodd, bach a mawr. Anfonwch ato yn 43 Australia Rd, Y Mynydd Bychan, CF 14 3BZ Ffôn: 07774-816209

APÊL Y DINESYDD

Mae pobl yn dal i anfon cyfraniadau i'r Apêl a dydy hi ddim yn rhy hwyr i chi anfon eich cyfraniad tuag at y Gronfa!

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>