Mae deisebwyr o Gaerdydd yn pwyso ar Senedd Ewrop i sicrhau fod ymchwiliad llawn i ymbelydredd tritium yn y ddinas. Mae'r ddeiseb a drefnwyd gan Achos y Gymuned (Community Concern), yn pryderu am ymbelydredd o'r cemegolyn tritium yn cael ei ollwng o Ganolfan Maynard ffatri Amersham (GE) yn yr Eglwys Newydd. Cyflwynwyd y ddeiseb ar 27 Ebrill i Bwyllgor o Senedd Ewrop mewn gwrandawiad ym Mrwsel. Rhoddwyd trwydded newydd i'r ffatri gan y Cynulliad ym mis Mawrth a hynny heb wneud asesiad llawn o'r effaith ar yr amgylchedd a iechyd. Mae Achos y Gymuned yn credu fod yr awdurdodau yng Nghymru wedi methu ag ystyried yr holl effeithiau. Cefnogwyd y deisebwyr gan Eurig Wyn, Aelod Senedd Ewrop Plaid Cymru, a siaradodd am y gefnogaeth sylweddol sydd i achos y deisebwyr. Dywedodd Clare Sain-Ley-Berry am y perygl i fabanod cyn eu geni oherwydd fod tritium yn gallu effeithio ar groth y fam. Dywedodd Alan Rosser, o Waelod y Garth, fod astudiaeth iechyd gan Goleg Imperial Llundain yn dangos cynnydd yn y lefelau o gamffurfiadau genedigol a liwcemia mewn dalgylch saith kilomedr o'r ffatri. Mae'r coleg yn argymell fod ymchwil pellach yn cael ei wneud er bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Disgwylir i Senedd Ewrop sicrhau fod astudiaethau llawn o'r effaith ar yr amgylchedd, yr effaith o lefelau tritium mewn bwyd ac astudiaethau iechyd pellach.
Dr Max Wallis, Eurig Wyn ASE, Clare Sain-Ley-Berry
ac Alan Rosser ym Mrwsels
LLWYDDIANT
YM MÔN
Roedd nifer o'r ardal wedi cael llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd. Yn eu plith roedd Patrick Bidder o Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi ennill Medal y dysgwyr. Mae rhestr llawn o'r holl fuddugwyr ar y dudalen cefn. Ac i gloi'r ðyl cafwyd perfformiad gwefreiddiol
gan Aelwyd CF1 yn croesawu pawb i Ganolfan y Mileniwm ar gyfer Miri Mawr Mwyaf Ewrop ym 2005.
YMWELD Â MATTHEW
Daeth llu o Gymru o bob cwr o'r wlad yn cynnwys Gweinidog Addysg y Cynulliad i Stratford ar gyfer perfformiad o 'Romeo & Juliet' gan y Royal Shakespeare Company ar ddechrau mis Mai. A'r prif reswm roeddynt yna oedd am fod Matthew Rhys o Gaerdydd yn
chwarae'r brif ran. Mae gyrfa Matthew Rhys wedi datblygu yn gyflym ac yntau yn 30 oed eleni. Mae ganddo res o ffilmiau i'w enw a bydd yn chwarae rhan Edmund yn King Lear yn ogystal â Romeo yn ei flwyddyn gyntaf gyda'r RSC.