<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Y DINESYDD   MAI 2004

3

Calendr y Dinesydd

Iau-Sadwrn, 13-15 Mai
Cwmni Theatr Sherman mewn cydweithrediad â Llwyfan Gogledd Cymru yn cyflwyno cyfieithiad Elinor Wyn Reynolds o 'Pinochio' gan Carlo Collodi, yn Theatr Sherman. Perfformiadau am 1.30 p.m. ddydd Iau, 10.30 a.m. a 1.30 p.m. ddydd Gwener ac 11.00 a.m. a 2.00 p.m. ddydd Sadwrn. Tocynnau: 029-2064-6900.
Sadwrn, 15 Mai
Cymdeithas Carnhuanawc: Gwibdaith i wlad yr Arglwydd Rhys, dan arweiniad Rhobat ap Steffan. Manylion pellach: carnhuanawc@onetel.net.uk
Sul, 16 Mai
Cymanfa Dosbarth Caerdydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Salem, Treganna. Cymanfa'r Plant (gyda Dewi Rhisiart a'i Fand) am 10.30 a.m. a Chymanfa'r Oedolion am 6 p.m. Arweinydd: Rhian Jones Davies.
Mawrth, 18 Mai
Cymdeithas Cymrodorion y Barri: Noson y Llywydd, Heulwen Cooper, yn festri'r Eglwys Annibynnol Gymraeg, Sgwâr y Brenin, Y Barri am 7.15 p.m.
Mercher, 19 Mai
Cymdeithas Tþ'r Cymry, 11 Heol Gordon, yn cyfarfod am 7.00 p.m.
Iau, 20 Mai
Cwlwm Busnes Caerdydd: Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Glas Cymru, yng Ngwesty Churchill's Llandaf am 6.00p.m.
Sadwrn, 22 Mai
Ysgol Undydd Hanes Cymru, Prifysgol Caerdydd: 'Agweddau ar Grefydd a Chymdeithas yn Hanes Cymru Fodern.' Traddodir darlithiau gan Dr Eryn White, Llion Roberts, Dr Ioan Matthews a'r Athro J. Gwynfor Jones. Yn Eglwys y Crwys, Richmond Rd., rhwng 10.30 a.m. a 5.00 p.m. Pris: £10. Manylion pellach: 029-2087-6104.
Llun, 24 Mai
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina: 'Enwau Lleoedd.' Sgwrs gan yr Athro Gwynedd Pierce, ym Methany, Rhiwbina, am 7.30 p.m.
Mercher, 26 Mai
Cyngerdd Dathlu Daucanmlwyddiant Cymdeithas y Beibl, yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant Sant Andreas, am 7:30 p.m.yng nghwmni Côr Merched Canna (Arweinydd: Delyth Medi Lloyd). Croeso cynnes i bawb. Gwneir casgliad at waith Cymdeithas y Beibl.
Iau-Sadwrn, 27-29 Mai
Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno 'Yn Debyg Iawn i Ti a Fi' gan Meic Povey, yn Theatr Sherman am 7.30 p.m. Tocynnau: 029-2064-6900.
Llun, 7 Mehefin
Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd, yng

John Walter
yn ymddeol mewn steil!

Mae'n anodd meddwl am Fwrdd yr Iaith Gymraeg heb John Walter Jones fel ei brif weithredwr. Bu yno yn y cyfnod cyn i'r Bwrdd gael cyfrifoldeb a statws statudol llawn. Roedd yr apwyntiad yn sicr yn benodiad ardderchog - doedd neb arall fyddai wedi bod yn gymwys. Roedd ei adnabyddiaeth drylwyr o gyfundrefnau cymhleth  y llywodraeth yn ogystal â'i adnabyddiaeth o'r swyddogion allweddol yn holl bwysig.
   O gychwyn gyda staff o dim ond tri, bellach mae dros ddeg ar hugain yn gweithio yn y swyddfa ganolog, yn ogystal â'r dwsinau o weithwyr yn y Mentrau Iaith dros Gymru benbaladr.
   Yn ddyddiol bu'n rhaid i John dderbyn beirniadaeth nad oedd y Bwrdd yn cyflawni'i orchwyl yn ddigonol, ond er bod y gwallt coch yn dod i'r amlwg ambell waith, bron yn ddieithriad byddai John yn ennill y ddadl gydag argyhoeddiad diffuant. Roedd ei

gyfraniadau mewn cyfweliadau ar y radio a'r teledu bob amser yn hollol broffesiynol a graenus.
   Llwyddodd y Bwrdd o dan arweiniad medrus John i ddarparu llu o gyfleoedd gwahanol i ddefnyddio'r Gymraeg, ond byddai bob amser yn dweud na fyddai'r Bwrdd byth yn achub yr iaith - roedd y fraint honno yn perthyn i bobl Cymru trwy fanteisio ar y cyfleoedd hynny a'i defnyddio yn naturiol yn eu bywyd bob dydd.
   Ar un wedd, mae rhywbeth yn drist am ymddeol, ond gall John edrych yn ôl yn fodlon ar y cyfnod hwn o'i fywyd gan wybod ei fod ar bob achlysur wedi gwneud ei orau. Dwi'n siwr o un peth na chaiff o'r un broblem i fwynhau ei ymddeoliad yng nghwmni ei deulu.
   Ar ran darllenwyr
Y Dinesydd - diolch John, a phob dymuniad da i Meirion Prys Jones fel ei olynydd.

JAE

Ngwesty Churchills, Llandaf, am 7.00 p.m ar gyfer 7.30 p.m. Manylion pellach gan yr Ysgrifennydd, Tony Couch (Ffôn: 029-2075-3625; e-bost: ajcouch@yahoo.co.uk).
Mercher, 9 Mehefin
Arad Goch yn cyflwyno'r sioe gowbois, 'Llew Lletchwith', yn Theatr Sherman am 10.30 a.m. Tocynnau: 029-2064-6900.
Iau, 10 Mehefin
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Owen John Thomas, A.C, yn annerch ar y testun 'Gweld Caerdydd o'r Newydd', am 7.30 p.m. Manylion pellach: 029-2062-5163.
Gwener, 11 Mehefin
Aduniad Ysgol Feithrin Tyllgoed yn yr Institiwt, Llandaf. Manylion pellach: Jenny Davies (029-2056-7682).
Llun, 21 Mehefin
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina: 'Atgofion.' Sgwrs gan Mrs Myfanwy Jarman, ynghyd â Chyfarfod Blynyddol y Gymdeithas, ym Methany, Rhiwbina, am 7.30 p.m.
Llun, 5 Gorffennaf
Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd, yng Ngwesty Churchills, Llandaf, am 7.00 p.m ar gyfer 7.30 p.m. Manylion pellach

gan yr Ysgrifennydd, Tony Couch (Ffôn: 029-2075-3625; e-bost: ajcouch@yahoo.co.uk).
Gwener, 16 Gorffennaf-Sul, 18 Gorfennaf
Cymdeithas Carnhuanawc: Gwibdaith haf i ddwyrain Lloegr, gan gynnwys ymweld â chofeb y Dywysoges Gwenllian yn Sempringham a man claddu y Dywysoges Gwladus (merch y Tywysog Dafydd, brawd Llywelyn y Llyw Olaf) yn Sixhills. Manylion pellach: carnhuanawc@onetel.net.uk
Llun, 19 Gorffennaf
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina: Gwibdaith.
Mercher-Gwener, 4-6 Awst
Llwyfan Gogledd Cymru yn perfformio 'Deinameit' gan Mari Emlyn a Gwion Hallam yn Theatr Sherman am 7.30 p.m. Tocynnau: 029-2064-6900.
Anfonwch fanylion ar gyfer y Calendr at Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (Ffôn: 2062 8754; E-bost: JamesEW@caerdydd.ac.uk).
Mae Calendr y Dinesydd hefyd ar wefan Menter Caerdydd: http://www.mentercaerdydd.org

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>