<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

12

Y DINESYDD   MAI 2004

CÔRDYDD YN DISGLEIRIO
I gyfeiliant y Gerddorfa Baroc Cymreig o dan arweiniad Andrew Wilson-Dickson  perfformiwyd Meseia Handel ym Mhontypridd ar 28 Mawrth ac yn y Coed Duon ar 6ed Ebrill. Cafwyd gwledd o ganu yn y ddau gyngerdd a'r gynulleidfa a'r wasg wedi eu cyfareddu gan sioncrwydd a nerth cantorion ifanc Côrdydd. Yr unawdwyr oedd Iona Jones, Buddug Verona James, Aled Hall a Stephen Hamnett. 

CYNGERDD CYHOEDDI EISTEDDFOD YR URDD 2005
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2005 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ac felly cynhaliwyd Cyngerdd Mawreddog yn neuadd Dewi Sant ar yr 21 Mawrth i gyhoeddi'r ffaith. Bryn Terfel oedd y prif seren a hefyd cymerwyd rhan gan Mirain Haf, Fflur Wyn, Rhian Mair Lewis, Aled Pedrick, Daniel Evans, Catrin Finch, Dawnswyr Hafodwennog, Adran Ddynion Cor CF1, a chor Unedig Wyth Aelwyd dan arweiniad Owain Arwel Hughes. Cyflwynwraig y noson oedd Heledd Cynwal a chyfeilydd y noson oedd Michael Pollock.

Meseia, Côrdydd

CYNGERDD O SAFON
Cafwyd cyngerdd ardderchog yn Theatr Ysgol Gyfun Stanwell Penarth ar nos Wener 27 Chwefror dan nawdd Stiwdio'r Opera Genedlaethol. Cymerwyd rhan gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a graddedigion ifanc sy'n gantorion ac yn derbyn hyfforddiant blwyddyn i'w paratoi ar gyfer eu gyrfa broffesiynol yn y byd opera. Un o'r cantorion eleni oedd y bariton Paul Carey Jones, Rhiwbeina cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Glantaf. Enillodd Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts i gantorion ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001. Pob hwyl iddo yn ei yrfa ym myd yr opera.

CYNGERDD
CÔR Y TABERNACL
Cynhaliwyd y Cyngerdd yng Nghapel Ebeneser, Heol Siarl ar nos Fawrth, 30 Mawrth. Yn y rhan gyntaf cafwyd

eitemau gan y Côr dan arweiniad Euros Rhys Evans a Rob Nicholls wrth yr organ ac unawdau gan Paul Carey Jones, Steffan Jones, Gareth John ac Iona Jones ac unawdau ar y delyn a'r organ gan Alice Reed ac Owain Williams. Yna, yn ail hanner y cyngerdd cafwyd perfformiad o 'Messe Solonnelle de Sainte Cecile' gan Gounod dan arweiniad Euros Rhys Evans a'r unawdwyr Iona Jones, Gareth John a Paul Carey Jones. Llongyfarchiadau i bawb am gyngerdd ardderchog.

YMDDEOLIAD ARWEINYDD
Eleni mae Côr Meibion Orffiws Treforys yn gorfod chwilio am arweinydd newydd gan fod yr arweinydd presennol ers pum mlynedd ar hugain sef Alwyn Humphreys wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth ar ddiwedd y flwyddyn.

MONSTAR O GYSTADLEUAETH
I BLANT YSGOLION CAERDYDD!
Gyda Steddfod yr Urdd ar y trothwy, dyma'ch cyfle i ennill gwobr arbennig!
Mae Huw Môn ar dân dros yr Urdd!

Nodwch y deg gwahaniaeth rhwng y ddau lun a gyrrwch eich atebion i'r Dinesydd, 27 Llantrisant Rise, Llandaf, Caerdydd CF5 2PG erbyn Dydd Gwener 21 Mai 2004.

Fe fydd y pum enillydd cyntaf allan o'r hosan yn ennill tocyn £5 i'w wario yn siop enfawr 'PRINGLES' Llanfairpwllgwyngyll, Sir Fôn yn ystod wythnos y Steddfod!


Diolch i James Pringle Weavers am noddi'r gystadleuaeth.

A

B

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>