<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Y DINESYDD   MAI 2004

11

YSGOL BRO MORGANNWG

yn llawn ffeithiau am eu cynorthwy-ydd iaith Ffrangeg Jean- Phillipe. Buont mewn seremoni wobrwyo yn Abertawe ar Fawrth 24ain i dderbyn eu tystysgrifau. 

PIGION CHWARAEON
TYMOR Y GWANWYN

Llongyfarchiadau i'r canlynol:   
Tîm pêl-droed bechgyn blwyddyn 7 ar eu buddugoliaeth o 4-2 yn erbyn Ysgol Dwr y Felin, Castellnedd yng nghwpan  Cymru "Cyril Rogers". Sgorwyd y goliau gan Aled Williams(2), Joseph Dalton a Lloyd Thomas. Mae'r tîm i chwarae yn erbyn ysgol Daniel James, Abertawe yn rownd yr wyth olaf.
   Tîm pêl-droed merched o dan 14 yr ysgol ar guro Ysgol Llanrumney, Caerdydd o 5-1 yng nghwpan  Cymru. Sgorwyd y goliau gan Megan Evans(4) ac Anna Carling.
   Tîm pêl-fasged blwyddyn 8 ar gyrraedd rownd cyn derfynol yr ardal.

   Tîmau hoci blynyddoedd 9 a 10 ar gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth y sir, ac i dîm Bl 9 yn enwedig am ennill y bencampwriaeth. 
   Tîm  pêl-rwyd bl 9 ar gyrraedd yr wyth olaf ym mhencampwriaeth y sir. 
   Tîm gymnasteg bl 7 a 8 ar ddod yn ail ym mhencampwriaeth y sir.  Aelodau'r tîm yw Elinor Lewis,  Lucy Galea,  Elin Yapp, Sioned Young, Lauren Duddridge, a Sophie Grisdale. Llongyfarchiadau mawr i Elinor Lewis bl 7 ar ddod yn ail yng Nghymru.

DADLEUWYR O FRI

Llongyfarchiadau mawr i dîm dadlau'r ysgol am gyrraedd rownd derfynol De Cymru yng nghystadleuaeth dadlau y Clwb Rotari yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar - perfformiad gwych o ystyried mai dyma'r tro cyntaf i ni gystadlu yn y gystadleuaeth hon. Y tîm oedd Benji Mallett-Williams (Cadeirydd), Elena Cresci (Cynigydd) a Laura Best (Gwrthwynebydd), i gyd o Flwyddyn 10. Fe ddewison nhw drafod y pwnc 'llosg' "Smoking in public places should be banned". Yn y rownd gyntaf, fis Ionawr, fe guron nhw ddau dîm o Ysgol Gyfun Bechgyn Y Barri.
   Roedden nhw wedyn yn cynrychioli'r Barri yn rownd derfynol rhanbarth Caerdydd a'r Fro, yn Nhrefforest ym mis Chwefror, lle'r oedden nhw'n cystadlu yn erbyn tîmau profiadol o fyfyrwyr chweched dosbarth o Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd, Ysgol Merched Howells ac Ysgol St. Teilo's. Rhoddodd y tîm berfformiad cryf arall, ac fe enillon nhw'r rownd yma hefyd, gyda Benji'n derbyn y wobr unigol am Gadeirydd gorau'r noson.
   Yn y rownd derfynol, lle'r oedd enillwyr o chwe rhanbarth, roedden nhw eto'n wynebu tîmau o fyfyrwyr chweched dosbarth. Er nad enillon nhw'r tro hwn, cafwyd perfformiad hyderus arall o flaen cynulleidfa fawr, ac maent yn haeddu pob canmoliaeth am gyrraedd safon mor uchel.

GWOBR AM
GYFLWYNIAD FFRANGEG
Llongyfarchiadau i ferched Bl 8 sydd wedi cipio'r wobr gyntaf i gyfnod allweddol 3 yng nghystadleuaeth CILT a'r Cyngor Prydeinig  "Dod i adnabod eich cynorthwy-ydd iaith tramor." Fe gyflwynodd y merched fideo creadigol

Y Tîm Dadlau, Elena, Benji a Laura

Y Tîm Gymnasteg

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>