|
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm ar Nos Fawrth 23 Mawrth fe wahoddwyd yr Eisteddfod Genedlaethol i Gaerdydd yn 2008. Amlinellwyd oblygiadau gwahodd yr Eisteddfod i'n plith gan Aled Sion, Trefnydd Eisteddfodau'r De. Go brin fod angen iddo egluro'r drefn gan fod trigolion Caerdydd bellach yn brofiadol iawn mewn trefnu eisteddfodau. Ers dechrau'r mileniwm mae Caerdydd eisoes wedi bod yn gartref i Eisteddfod yr Urdd (ddwywaith!), yn croesawu'r Eisteddfod eto yn 2005 ac efallai yn 2009 heb sôn am gefnogi Eisteddfod Casnewydd eleni hefyd. Gall y baich cyson gael effaith ar ein brwdfrydedd a' n dyhead i fentro`~ Fydd yna arloesi? Go brin y gwelwn feysydd parcio yn lliwiau'r Urdd a go brin hefyd y gwelwn atgyfodiad Dinesydd Dyddiol.
Erbyn diwedd y flwyddyn neu yn gynnar yn y flwyddyn newydd fe fydd gennym bapur dyddiol Cymraeg. Yn ôl Ned Thomas, Cadeirydd `Dyddiol', y Gymraeg yw un o'r ychydig ieithoedd lleiafrifol yn yr UE sydd heb bapur dyddiol yn yr iaith. Yn dilyn dros ddeunaw mis o ymchwil a gwaith paratoi, llawer ohono gan Ned Thomas ei hyn ar ran Cwmni Mercator, daethpwyd i'r canlyniad, " Ni fu erioed mwy o angen papur Dyddiol Gymraeg." "O'r diwedd!" ychwanegodd Gruff Rhys o'r grwp Super Furry Animals, "Asgwrn cefn i'r gymuned Cymraeg." Efallai fod gan y rhelyw o wledydd Ewrop bapurau dyddiol mewn ieithoedd lleiafrifol, ond mae sefyllfa Cymru yn wahanol. Sawl gwlad sy'n gallu brolio cynhyrchu dros hanner cant o bapurau bro yn yr ieithoedd hynny? Ein papurau bro yw'r arfau mwyaf pwerus sydd gennym i feithrin darllenwyr Cymraeg.
|
|