Y Dinesydd
 
Papur Bro Dinas Caerdydd a'r Cylch
 

Calendr y Dinesydd 2010

Llun, 1 Mawrth
Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd yng Ngwesty Churchills am 7.30 pm. Siaradwr gwadd: Peter Watkin Jones (cyfreithiwr gydag ymchwiliad Bloody Sunday yng Ngogledd Iwerddon ac un Dr Harold Shipman). Manylion pellach: Tony Couch (029-2075-3625 neu ajcouch@yahoo.co.uk).
Mercher, 3 Mawrth
Merched y Wawr Radur. Noson yng nghwmni’r llenor Catrin Dafydd, yn neuadd Capel y Methodistiaid, Windsor Road, Radur, am 7.30pm. Noddir gan Academi.
Iau, 4 Mawrth
Noson lawnsio gwefan Si-lwli. Bydd ocsiwn a hwyl tuag at Cymorth Haiti UNICEF ym Meithrinfa Eglwys Newydd am 6yh.
Mawrth, 9 Mawrth
Merched y Wawr, Caerdydd. Pryd o fwyd i ddathlu Gŵyl Ddewi. Manylion pellach gan Shân Morgan: 07990-578407.
Mercher, 10 Mawrth
Cymdeithas Tŷ’r Cymry. Cwrdd â’r Dr Rosina Davies, Llanisien, yn Nhŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.30pm.
Iau, 11 Mawrth
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. ‘Myfyrdod y Grawys (2)’ dan arweiniad Menna Green, yng nghapel Minny Street, am 7.30pm.
Gwener, 12 Mawrth
Cylch Cadwgan.Y Prifardd Cen Williamsyn darllen a thrafod ei waith, yng Nghampws Cymuned Gartholwg, Pentre’r Eglwys, am 8.00pm. Cydnabyddir cefnogaeth yr Academi Gymreig.
Gwener–Sadwrn, 12–13 Mawrth
Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno Y Gofalwr (cyfieithiad Elis Gwyn o ddrama Harold Pinter), yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Manylion pellach: 0870-040-2000.
Llun, 15 Mawrth
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Swper Gŵyl Ddewi ac adloniant yng nghapel Bethany am 7.00pm.

Llun, 15 Mawrth
Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. ‘Gwaith Canolfan Edward Llwyd.’ Sgwrs gan Enfys Medi Evans (Canolfan Edward Llwyd), yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol.
Mawrth, 16 Mawrth
Côr y Tabernacl, Yr Ais, yn perfformio ‘Offeren St Nicholas’ (Haydn) ac ‘O Fab y Dyn’ (Eric Jones). Manylion pellach: 029-2086-7769.
Mercher–Gwener, 17–19 Mawrth
Cwmni Theatr y Crwys yn cyflwyno ‘Melltith y Marina’, pantomeim newydd gan Emyr Edwards. Perfformiadau am 7.30pm yn Theatr y Crwys, Richmond Rd.
Iau, 18 Mawrth
4 Côr. Merched Canna, Cordydd, Cor y Mochyn Du, Bois Bro Taf
yng Nghapel Salem, Market Road, Treganna am 7.30pm. Elw at estyniad y capel £7/£3 i blant.
Gwener, 19 Mawrth
Cymrodorion Caerdydd. Sgwrs gan Weinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, AC, yn festri Capel Minny Street am 7.30pm. Croeso cynnes i aelodau cymdeithasau Cymraeg eraill y ddinas.

Sadwrn, 20 Mawrth
Bore coffi i ddysgwyr yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Harriet St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Astudio’r gerdd. ‘Ac oblegid eich plant’ (Gwyn Thomas) yng nghwmni Amanda Griffiths am 11.00am.Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys.
Mawrth, 23 Mawrth
Cangen y De, Cymdeithas Cymru-Ariannin. Sgwrs gan Dr E. Wyn James (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd) ar y testun ‘Eluned Morgan: Llenor Deufyd’, yn festri Capel Salem, Treganna, am 7.30pm.
Iau, 25 Mawrth
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. ‘Myfyrdod y Grawys (3)’ dan arweiniad y Parch. Aled Edwards, am 7.30pm.
Llun–Mawrth, 29–30 Mawrth
Myfyrwyr Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin yn cyflwyno sioe gerdd newydd Eilyr Owen-Griffiths a Ceri Elen, ‘Heb Ei Fai’, yn Theatr Weston, Canolfan y Mileniwm, am 8.00pm.
Gwener, 2 Ebrill:
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Oedfa Dydd Gwener y Groglith dan arweiniad y Parch. Denzil John, yn Eglwys Dewi Sant, am 2.00pm.
Iau, 8 Ebrill
Recordiadau Steam Pie yn cyflwyno cyngerdd gan y band Allan yn y Fan a’r delynores Delyth Jenkins, yn y Porth, Keppoch St, Y Rhath. Manylion pellach: 029-2048-3344; thegate.org.uk.
Llun, 12 Ebrill
Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd yng Ngwesty Churchills am 7.30 pm. Siaradwr gwadd: Yr Athro Thomas Glyn Watkins (Prif Gwnsler Deddfwriaethol i Gymru). Manylion pellach: Tony Couch (029-2075-3625 neu ajcouch@yahoo.co.uk).
Mawrth, 13 Ebrill
Merched y Wawr, Caerdydd. Sgwrs gan Nia Roberts (Asiantiaeth yr Amgylchedd) ar y testun ‘Llifogydd’, yn Eglwys Fethodistaidd Cyncoed, Westminster Crescent, Cyncoed, am 7.30pm.
Mercher, 14 Ebrill
Cymdeithas Tŷ’r Cymry. Y Cyfarfod Blynyddol, yn Nhŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.30pm.
Iau–Sadwrn, 15–17 Ebrill
Sherman Cymru yn cyflwyno’r ddrama ‘Llwyth’ gan Dafydd James, gyda Chôr Aelwyd y Waun Ddyfal, yng nghanolfan Chapter am 8.00pm. Manylion pellach: 029-2030-4400.
Gwener, 16 Ebrill
Cylch Llyfryddol Caerdydd. ‘Taith Nest.’ Sgwrs gan B. Siân Reeves am ei nofel ddiweddar, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 7.00pm. Cydnabyddir nawdd yr Academi.

Sadwrn, 17 Ebrill
Bore coffi i ddysgwyr yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Harriet St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Cyflwyniad i’r Cynulliad gan Meleri Perkins am 11.00am. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys.

Llun, 19 Ebrill

Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noson yng nghwmni Islwyn ‘Gus’ Jones (Gwenfô) yng nghapel Bethany am 7.30pm.

Mawrth–Sadwrn, 20–24 Ebrill
Sherman Cymru yn cyflwyno’r ddrama ‘Llwyth’ gan Dafydd James, gyda Chôr Aelwyd y Waun Ddyfal, yng nghanolfan Chapter am 8.00pm. Manylion pellach: 029-2030-4400.

Mawrth, 20 Ebrill
Darlith Goffa G. J. Williams (dan nawdd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd). Darlith gan yr Athro Patrick Sims-Williams (Aberystwyth) ar y testun ‘Celtic Continuity’, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd, am 5.30pm.

Mawrth, 27 Ebrill
Cangen y De, Cymdeithas Cymru-Ariannin. Cyfarfod Blynyddol, yn festri Capel Salem, Treganna, am 7.30pm. Bydd Eiry Palfrey yn holi Elvira Moseley, Walter Brooks a Miriam Tilsley am eu profiad o ymgartrefu yng Nghymru.
Sadwrn, 1 Mai
Cyngerdd gan Gôr Philharmonig Caerdydd dan arweiniad Alun Guy yn Neuadd Gyngerdd y Brifysgol, Heol Corbett am 7.30pm. Bydd y rhaglen yn cynnwys ‘Offeren y Requiem’ gan Mozart, ‘O Fab y Dyn’ gan Eric Jones, a ‘Te Deum Laudamus’ gan Haydn.
Llun, 10 Mai
Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd yng Ngwesty Churchills am 7.30 pm. Siaradwr gwadd: Aled Eirug. Manylion pellach: Tony Couch (029-2075-3625 neu ajcouch@yahoo.co.uk).
Mawrth, 11 Mai
Merched y Wawr, Caerdydd. Sgwrs gan Manon Davies, ‘Y lliwiau sy orau i ni’, yn Eglwys Fethodistaidd Cyncoed, Westminster Crescent, Cyncoed, am 7.30pm.
Mercher, 12 Mai
Cymdeithas Tŷ’r Cymry. Teithio’r Byd gyda Gwenfair Griffiths, yn Nhŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.30pm.
Iau, 13 Mai
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Oedfa Cymorth Cristnogol dan arweiniad Jeff Williams, yng nghapel y Crwys, am 7.30pm. Sadwrn, 15 Mai
Bore coffi i ddysgwyr yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Harriet St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys.
Llun, 17 Mai
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Cyngerdd Côr Bechgyn Bro Taf yng nghapel Bethel am 7.30pm. Mynediad: £5.

Llun, 17 Mai
Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. ‘Gwyddoniaeth a’r Eisteddfod.’ Sgwrs gan Dr Neville Evans (Cadeirydd y Gymdeithas), yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol.
Mawrth, 8 Mehefin
Merched y Wawr, Caerdydd. Brethyn Cartref a Chyfarfod Blynyddol, yn Eglwys Fethodistaidd Cyncoed, Westminster Crescent, Cyncoed, am 7.30pm.
Mercher, 9 Mehefin
Cymdeithas Tŷ’r Cymry. Taith Haf. Manylion pellach: Lona Roberts (029-2076-6283).
Iau, 10 Mehefin
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. ‘Street Pastors’ gan Eurwen Richards (Pen-y-bont ar Ogwr). Yng nghapel y Tabernacl, Yr Ais, am 7.30pm.

Sadwrn, 19 Mehefin
Bore coffi i ddysgwyr yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Harriet St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Trafod un o gerddi Waldo Williams yng nghwmni Dewi George am 11.00am. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys.
Llun, 21 Mehefin
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Cyfarfod Blynyddol. Noson yng nghwmni John Evans (Tregaron) yng nghapel Bethany am 7.30pm.

Sadwrn, 3 Gorffennaf
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Stondin yng Ngŵyl Rhiwbina, fore Sadwrn.
Sul, 4 Gorffennaf
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Cymanfa Ganu. Arweinydd: Emyr Roberts; Organydd: Dr Alun Jones. Yng nghapel Beulah am 8.00pm.

Anfonwch fanylion ar gyfer y Calendr at Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (Ffôn: 029-2062-8754; ebost: JamesEW@caerdydd.ac.uk).

 

     

 

 

 

 

 

12 Heddiw. Cyfanswm 19698